Dysgu

Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr PhD gael profiad dysgu fel Staff Dysgu Rhan Amser (SDRhA). Mae’r SDRhA yn chwarae rhan bwysig yn rhaglen ddysgu israddedig yr Adran ac mae eu cyfraniad i fywyd yr Adran yn werthfawr tu hwnt.

Caiff SDRhA brofiad gwerthfawr mewn datblygu arweinyddiaeth, cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol, y cyfan yn hanfodol i ddysgu effeithiol. Yn aml bydd profiad dysgu yn fanteisiol iawn i fyfyrwyr wrth chwilio am swydd.

Gall myfyrwyr PhD sydd â diddordeb cyfrannu i raglen ddysgu’r Adran wneud cais yn flynyddol i’r Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig am gyfle i fod yn rhan o’r SDRhA. Mae’r rhan fwyaf o ymgeiswyr yn llwyddiannus bob blwyddyn. Cofiwch fod rhai ysgoloriaethau, megis ysgoloriaethau E.H. Carr, yn mynnu fod eu deiliaid yn cyfrannu i’r rhaglen SDRhA.