Mae Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) yn cynnig ystod eang o wasanaethau i staff academaidd i gynorthwyo dysgu, addysgu ac ymchwil.
Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â thudalen Gwybodaeth i Staff Newydd sydd ar gyfer HOLL aelodau newydd ac yn cynnwys gwybodaeth angenrheidiol ar sut i gychwyn eich cyfrif cyfrifiadur a sut i wneud cais am gerdyn Aber.
Rhagor o Wybodaeth
Gall Gwasanaethau Gwybodaeth eich cynghori pan fyddwch yn cyhoeddi ar-lein
Cysylltwch â'ch llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd yn uniongyrchol dros y ffôn neu drwy e-bost llyfrgellwyr@aber.ac.uk gyda’ch ymholiadau pwnc a sgiliau gwybodaeth, a chais am hyfforddiant neu gymorth personol.
Rydym yn darparu: ar gyfer staff
- Ymweliad neu daith gyflwyniadol i weld cyfleusterau'r llyfrgell drwy drefniant
- Cyngor dros y ffôn neu drwy e-bost ar wasanaethau’r llyfrgell
- Cydweithio ar ddarparu hyfforddiant llyfrgell a sgiliau gwybodaeth
- Sesiynau cynghori un-i-un – gallwn ymweld â chi ar y campws drwy apwyntiad i gynghori ar e.e. catalogau ar-lein, adnoddau ar y campws neu i ffwrdd ohono, hyfforddiant EndNote
- Sesiynau adfywio neu ddiweddaru gwybodaeth i grwpiau o staff
Rydym yn darparu: ar gyfer myfyrwyr
- Ymholiadau pwnc a sgiliau dros y ffôn a thrwy e-bost, neu gymorth ac hyfforddiant unigol drwy drefniant
- Cyflwyniadau i fyfyrwyr newydd: sgyrsiau a theithiau yn ystod yr wythnos gyntaf
- Cyflwyniadau i fyfyrwyr ôl-raddedig: drwy drefniant â’r adrannau academaidd
- Cyflwyniadau a theithiau llyfrgell drwy drefniant ar gyfer myfyrwyr fydd yn dechrau ar adegau eraill o’r flwyddyn
- Hyfforddiant sgiliau gwybodaeth penodol mewn partneriaeth â staff academaidd fel rhan o’ch modiwlau neu raglenni dysgu eraill e.e. techneg ymchwilio, meddalwedd cyfeiriadol, osgoi llên ladrad
- Digwyddiadau arbennig i gynorthwyo dysgwyr e.e. Teithiau Primo, Aseiniadau Cyntaf (ar y cyd â chydweithwyr, adrannau gwasanaeth eraill ac Urdd y myfyrwyr a staff academaidd)
- Yn ddewisol ar brynhawn Mercher Rhaglen Ymarfer Astudio i Israddedigion a Rhaglen Ymarfer Astudio i Uwchraddedigion
Mae llyfrgellwyr cymorth pwnc yn cysylltu'n uniongyrchol â Chynrychiolwyr Adrannau, sy'n aelodau o staff academaidd o bob adran. Ymhlith fforymau eraill ceir:
- Byrddau Crwn: cyfle i staff GG drafod newidiadau strategol i gynorthwyo adrannau yn fwy effeithiol, a rhoi adroddiadau ar ddigwyddiadau a datblygiadau perthnasol.
- Mae staff GG hefyd yn mynychu Pwyllgorau Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr adrannol i ateb cwestiynau a chael adborth y staff a'r myfyrwyr, ac i roi adroddiadau ar unrhyw adnoddau neu wasanaethau newydd.
- Byrddau Adrannau: bydd llyfrgellwyr cymorth pwnc yn hapus i fynychu ac i ddwyn sylw at ddatblygiadau newydd ac i wella eu dealltwriaeth o’r adrannau maent yn eu cynorthwyo.