Argraffu, Copïo a Sganio
Mae Prifysgol Aberystwyth yn darparu gwasanaeth argraffu 'dilyn fi' sy’n golygu:
- Pan fyddwch yn anfon eich gwaith i’w argraffu aiff i giw canolog
 - Gallwch yna ddefnyddio unrhyw beiriant argraffu-copïo a mewngofnodi i ryddhau eich dogfen. Golyga hyn y gallwch fynd at argraffydd arall os yw’r peiriant argraffu/copïo agosaf atoch yn cael ei ddefnyddio.
 - mae’r holl gyfrifiaduron yn y llyfrgelloedd, yr ystafelloedd cyfrifiaduron a swyddfeydd y staff wedi’u cysylltu’n awtomatig â’r ciw argraffu canolog
 - gallwch gysylltu eich dyfais eich hun â’r ciw argraffu canolog
 
Mae’r holl beiriannau argraffu/copïo yn cynnig
- Du a gwyn a Lliw
 - A4 ac A3
 - dwy ochr i’r dudalen (diofyn) ac un ochr i’r dudalen
 - argraffu’n uniongyrchol o’ch cyfrifiadur eich hun
 - argraffu’n uniongyrchol o’ch dyfais symudol
 - argraffu o e-bost
 - argraffu drwy’r we o ba le bynnag yr ydych
 - sganio i e-bost
 - sganio i storfa ffeiliau
 
Talu am argraffu a llungopïo
- Bydd myfyrwyr yn talu o falans eu Cerdyn Aber. Llwytho arian ar eich Cerdyn Aber
 - Codir tâl am ddefnydd y staff at ddibenion gwaith fel ôl-ddyled i’w hadran
 - Bydd staff sy’n argraffu/llungopïo at ddibenion personol yn talu o falans eu Cerdyn Aber
 - Mae sganio yn rhad ac am ddim
 
Ceir rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth argraffu yn ein Cwestiynau Cyffredin
Costau argraffu, llungopïo a sganio - hunanwasanaeth
| Argraffu a llungopïo mewn du a gwyn | Argraffu a llungopïo mewn lliw | Sganio | |||
| A4 | 2c | 3c | 4c | 5c | Am ddim | 
| A3 | 3c | 4c | 5c | 6c | Am ddim | 
