Rhwydwaith y campws

Mae Prifysgol Aberystwyth bob amser wedi rhoi blaenoriaeth uchel i gyfleusterau rhwydweithio cyfrifiadurol o'r radd flaenaf i holl aelodau staff a myfyrwyr. Mae gan ddau Dîm Rhwydwaith Gwasanaethau Gwybodaeth gyfrifoldeb am gynllunio, gosod, uwchraddio a chynnal y rhwydwaith hwn i safon y mae prifysgol o bwys yn ei haeddu.

Mae holl adeiladau'r Brifysgol ar bob campws wedi eu cysylltu â'r rhwydwaith, yn aml ar gyflymderau Gigabit. Mae'r rhan fwyaf o swyddfeydd, labordai, theatrau darlithio, gweithfannau cyhoeddus, ystafelloedd mewn neuaddau preswyl ac ystafelloedd cynadleddau yn awr wedi eu cysylltu. Mae dros 6,000 o bwyntiau rhwydwaith ar gael, nifer cynyddol ohonynt yn cynnig cyflmder o 100Mb yr eiliad. Cyhyd ag sy'n bosib mae gan bob adeilad wasanaeth diwifr.

Darperir mynediad i'r byd tu allan a'r rhwydwaith trwy gyfrwng JANET (Joint Academic NETwork). Cyflymder y cyswllt o Aberystwyth yw 155Mb yr eiliad.