System deleffon Prifysgol Aberystwyth

Y Gwasanaethau Gwybodaeth sy’n gyfrifol am system ffôn y Brifysgol.

Mae’r gwasanaeth yn defnyddio Protocol Llais Dros y Rhyngrwyd (VOIP)

Dyma rai o fanteision y VOIP:

  • mae’n darparu adnoddau ychwanegol, er enghraifft adnabod y galwr, galwadau a fethwyd
  • gwasanaeth Estyniadau Symudol – gallwch fewngofnodi i unrhyw ffôn VOIP ar y campws a defnyddio eich estyniad ffôn
  • mae’n rhoi’r dewis i chi (am gost ychwanegol) gael 2, 6 neu 14 llinell ffôn
  • gyda’r feddalwedd iawn gall eich cyfrifiadur weithredu fel ‘ffôn meddal’ er mwyn i chi allu defnyddio eich estyniad ffôn ar y campws neu oddi arno.
  • mae'n darparu Lleisbost gan ddefnyddio Unity sy’n cyfuno â’ch e-bost

Ceir gwybodaeth ar sut i ddefnyddio ffonau VOIP yn ein tudalennau Cwestiynau Cyffredin

Lleisbost Cisco Unity

Ym Mhrifysgol Aberystwyth defnyddir Rhwydwaith Ffôn VoIP Cisco a Microsoft Office 365 i ddarparu system Negeseuon Cisco UNITY i chi (Lleisbost)

Mae’r gwasanaeth lleisbost hwn yn galluogi i chi:

  • recordio cyfarchiad personol
  • wirio eich negeseuon lleisbost o ba le bynnag yr ydych
  • gael eich negeseuon lleisbost wedi’u he-bostio i’ch mewnflwch
  • wirio a newid eich dewisiadau lleisbost drwy weddalen
  • wirio eich e-bost a’r apwyntiadau ar eich calendr dros y ffôn
  • recordio cyfarchiadau gwahanol a’u gosod i gael eu chwarae’n awtomatig ar ddyddiadau ac amseroedd penodol
  • roi gwybod i rywun arall os oes negeseuon wedi cael eu gadael ar eich lleisbost
  • ffurfweddu mewnflwch eich lleisbost er mwyn trefnu eich negeseuon fel yr hoffech

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn mae’n rhaid i chi

  • gael ffôn VOiP
  • gael eich rhif ffôn personol eich hun

Mae gwybodaeth am sut i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ar gael yn ein Cwestiynau Cyffredin

Ffonau Meddal

Rhaglen feddalwedd yw ffôn meddal sy’n eich galluogi i ddefnyddio eich cyfrifiadur a chyswllt rhyngrwyd i wneud galwadau ffôn yn hytrach na defnyddio set llaw a llinell ffôn arferol.

Mae manteision ffonau meddal fel a ganlyn:

  • Symudedd - Cyhyd â bod gennych gyfrifiadur gyda’r meddalwedd angenrheidiol a chysylltiad â rhwydwaith y Brifysgol (ar y campws neu oddi ar y campws gan ddefnyddio VPN) gallwch wneud a derbyn galwadau fel petaech yn eich swyddfa.
  • Cost - Mae defnyddio cysylltiad rhwydwaith i wneud galwadau sy’n gysylltiedig â’r gwaith pan i ffwrdd o’r campws yn arbed arian ar filiau ffonau symudol a ffonau cartref
  • Cyfforddusrwydd - Mae defnyddio clustffon gyda meicroffon yn rhyddhau eich dwylo i ddefnyddio’r cyfrifiadur wrth siarad a gwrando

Mae ffonau meddal ar gael:

  • i aelodau staff PA sydd wedi eu cofrestru i ddefnyddio ffôn VOIP

Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i osod a defnyddio ffonau meddal yn ein Cwestiynau Cyffredin