Noder:
Dydd Sadwrn 12 Hydref 2024 - Bydd y Weithfan yn cael ei defnyddio fel man cyfarfod a chyfarch i fyfyrwyr newydd sy'n cyrraedd y Brifysgol. Mae'n parhau i fod yn agored i bob defnyddiwr ond fe'ch cynghorir y gallai fod yn brysurach ac yn fwy swnllyd nag arfer.
Y Weithfan
Lle astudio 24 awr i fyfyrwyr yng nghanol tref Aberystwyth, lle ceir cyfrifiaduron, peiriannau argraffu, WiFi, ac ystafell y gellir ei harchebu ar gyfer astudio grŵp:
- 10 desg gyfrifiadur
- 6 desg astudio, 3 gyda hybiau monitor
- Argraffu, llungopïo a sganio
- Seddi lolfa
- Peiriannau bwyd a diod
- Bin dychwelyd llyfrau llyfrgell
- Ystafell gyfarfod / ystafell waith i grŵp (gellir ei harchebu gan fyfyrwyr a staff)
Defnyddir y Weithfan hefyd fel man cwrdd a chyfarch ar gyfer digwyddiadau'r Brifysgol. Dylai unrhyw un sy'n dymuno defnyddio'r cyfleuster hwn gysylltu ag is@aber.ac.uk
Lleoliad
- Heol Alexandra, canol tref Aberystwyth SY23 1LG - drws nesaf i'r orsaf drenau.
- Map yn dangos lleoliad
Oriau Agor
- Ar agor 24/7 i fyfyrwyr a staff trwy ddefnyddio eu cerdyn Aber
Ar ôl 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac ar benwythnosau ceir mynediad trwy'r drws sy'n wynebu'r safle tacsi
Gall unrhyw un sydd â gofynion hygyrchedd gysylltu â Gwasanaethau Myfyrwyr i drefnu defnyddio'r fynedfa hygyrch unrhyw amser. - Does dim angen archebu (ar wahân i’r ystafell astudio / gyfarfod)
Hygyrchedd
- Mae'r fynedfa o’r ochr ar y ffordd i mewn i’r orsaf yn hygyrch. Ar ôl 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac ar benwythnosau mae mynediad trwy'r drws hwn wedi'i gyfyngu i'r rhai sydd wedi cofrestru bod angen cael mynediad trwy ddrws hygyrch gyda Gwasanaethau Myfyrwyr
- 2 ddesg astudio y gellir eu haddasu
- Cyfleusterau toiled hygyrch
- Mae gan y Larymau Tân ddangosyddion sain a gweledol