Jisc Online Surveys ar Prifysgol Aberystwyth

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi datblygu Polisi Arolwg (Dolen i'r polisi) sy'n berthnasol i bob arolwg mewnol a ddosberthir i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sydd â phoblogaeth darged o 50 neu fwy. Os yw eich poblogaeth darged yn cynnwys 50 neu fwy o dderbynwyr, darllenwch ac ystyriwch Bolisi Arolwg PA nawr cyn symud ymlaen ymhellach.

 

Meddalwedd Arolwg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifio i Arolwg Ar-lein JISC (BOS gynt) a fydd yn diwallu'r rhan fwyaf o anghenion o ran arolygon a hon yw’r feddalwedd arolwg a ffefrir gan y Brifysgol. Er mwyn defnyddio JISC ym Mhrifysgol Aberystwyth e-bostiwch bosadmin@aber.ac.uk.

 

Mae gan Brifysgol Aberystwyth hefyd danysgrifiad i Vevox os gwelwch nad yw arolygon ar-lein JISC yn diwallu eich anghenion. Mae Vevox (Beth yw Vevox?) yn cynnig y posibilrwydd o ddefnyddio ac addasu arolygon presennol, neu ysgrifennu arolygon o'r newydd er ei fod yn cael ei ddefnyddio'n bennaf ar gyfer pleidleisio. E-bostiwch is@aber.ac.uk i ddefnyddio Vevox

 

Adnoddau i helpu i ddylunio eich arolwg

Canllawiau i fyfyrwyr a staff sy'n cynnal arolygon. Dewch o hyd i gyngor am ddylunio arolygon, hyrwyddo a dilyniant er mwyn cael cyfradd ymateb uchel.

Cymorth a chefnogaeth Arolwg Ar-lein Jisc: https://www.onlinesurveys.ac.uk/category/help-support/?post_type=supportarticle

Ymdrinnir â phopeth o sut i osod arolwg, dosbarthu arolwg, manylion am fathau priodol o gwestiynau a sut i ddadansoddi’r ymatebion i’r arolwg.

Arfer dda ar gyfer arolygonArfer orau mewn dylunio holiadur | Ymchwil ac Arloesi | Coleg Imperial Llundain

Awgrymiadau ar gyfer creu arolygon effeithiol, a dolenni pellach i wybodaeth am gwestiynau ansoddol a meintiol, esboniad am y raddfa Likert a chyngor pellach ar gwestiynau arolwg sensitif er enghraifft.

Mae LinkedIn 'eisiau osgoi camgymeriadau cyffredin o ran dylunio arolwg:

https://www.linkedin.com/pulse/want-avoid-common-survey-design-mistakes-here-tips-from-monika-wahi/