TipDigidol

Edrychwch ar ein TipDigidol wythnosol byr, a gynlluniwyd i'ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar dechnoleg. Darganfyddwch lwybrau byr bysellfwrdd defnyddiol, offer fel hidlwyr golau glas sy'n cefnogi eich lles digidol, a llawer mwy!
Mae sawl ffordd y gallwch ddilyn ein TipDigidol:
- Gallwch chi roi nod tudalen ar y dudalen hon a bydd TipDigidol newydd yn ymddangos yma am 10yb bob dydd Mawrth yn ystod y tymor
- Gallwch dderbyn hysbysiad e-bost pan fydd TipDigidol newydd yn cael ei bostio drwy danysgrifio i'n Blog Sgiliau Digidol.
- Rydym hefyd yn cyhoeddi pob TipDigidol ar dudalennau Facebook ac Instagram y Gwasanaethau Gwybodaeth. Oddi yno, gallwch ddilyn ein hashnodau #TipDidigolPA #AUDigiTips
