Blog Sgilia Digidol
Bwriad y Blog Sgiliau Digidol yw cyflwyno’r newyddion diweddaraf am y cyfleoedd a’r datblygiadau gan y Tîm Sgiliau Digidol i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Gallwch chi hefyd danysgrifio i’r blog er mwyn derbyn hysbysiadau drwy e-bost am gyhoeddiadau newydd ar y blog.
Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion PA – Beth nawr?
Blogbost gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr) Mae hynny’n cloi hanner cyntaf y cyfweliadau â graddedigion yn ein Cyfres o Broffiliau Sgiliau Digidol a bydd yr ail hanner yn cael ei ryddhau yn Semester 2 felly cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol GG am ddiweddariadau! Yn y cyfamser, o ddarllen yr hyn y mae ein […]
Awgrymiadau ar gyfer Meistroli eich Amserlen 📅
Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr) I gyd-fynd â blogbost a gyhoeddais yr wythnos diwethaf ar sut y gallwch ddefnyddio offer rheoli amser i’ch helpu i feistroli’ch amserlen, rwyf wedi creu ffeithlun (fersiwn testun isod) sy’n crynhoi rhai o’r strategaethau a’r offer allweddol sydd wedi gweithio i mi. Fersiwn testun: Meistroli eich amserlen – Crëwyd […]
TipDigi 13 – Trefnu ac oedi anfon eich negeseuon e-bost yn Outlook 📨
Gan ddibynnu ar bwy yr hoffech gyfathrebu â nhw, weithiau mae’n fwy cyfleus i amserlennu ac oedi anfon eich negeseuon e-bost tan amser arall. Mae hyn yn rhoi mwy o amser i chi ail-olygu cynnwys eich e-bost eto os oes angen a gallwch leihau straen i’r dyfodol os gallwch baratoi eich e-byst ymlaen llaw! Gwyliwch […]
Llywio Lles Digidol: Taith bersonol yn yr oes ddigidol
Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr) Fel Pencampwr Digidol Myfyrwyr, cychwynnais ar daith i geisio gwell dealltwriaeth o’n byd digidol a’i effaith ar ein bywydau. Er cael gwybodaeth am yr offer a’r adnoddau y mae’n ei gynnig, roeddwn yn anfodlon ar fy mherthynas â thechnoleg. Ysgogodd yr anfodlonrwydd hwn ystyriaeth ddyfnach a llawer o […]
Meistroli eich amserlen: Canllaw i Fyfyrwyr ar Offer Rheoli Amser ⌚
Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr) Wrth i lawlyfrau modiwlau gael eu rhyddhau, gall gwaith a therfynau amser eich llethu’n gyflym iawn. Yn y blogbost hon, byddaf yn dangos rhai o’r rhaglenni yr wyf wedi’u defnyddio i helpu i reoli fy astudiaethau, ac fe ddylent eich cynorthwyo chi hefyd wrth reoli eich llwyth gwaith. […]
TipDigi 12 – Cael Microsoft Word i Ddarllen yn Uchel i chi 🔊
A ydych yn ei chael yn haws gwirio dogfen neu neges ebost pan fyddwch yn gallu clywed yr hyn yr ydych wedi’i ysgrifennu? Yn ffodus, mae yna gyfleuster defnyddiol o’r enw Darllen yn Uchel (Read Aloud) a all chwarae testun ysgrifenedig yn ôl ar lafar, ac mae ar gael yn sawl un o apiau Microsoft […]
Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion PA – Wythnos 4 (Myfyriwr Ffiseg Raddedig)
Ein proffil olaf ar gyfer y semester hwn yw myfyriwr Ffiseg raddedig sydd wedi cael gyrfa gyffrous ers gadael Prifysgol Aberystwyth yn 2002 ac sydd bellach yn dysgu rhaglennu cyfrifiadurol ac yn gobeithio dod o hyd i yrfa newydd yn y maes hwnnw. Ym Mhrifysgol Aberystwyth mae gennym lawer o adnoddau i’ch helpu i ddysgu […]
Grym Lles Digidol: Cyflwyno ein Cyfres Lles Digidol
Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr) Un o ganolbwyntiau’r Pencampwyr Digidol Myfyrwyr eleni yw ystyried y strategaethau a’r rhaglenni yr ydyn ni wedi’u defnyddio i gynyddu ein lles digidol. Bydd y gyfres hon yn pwyso a mesur beth yw lles digidol a bydd yn cynnwys postiadau a ffeithluniau sy’n trafod lleihau straen llygaid, dadwenwyno […]
TipDigi 11: Cyflwyno ap hunanofal Finch 🐥
Mae Finch yn ap hunanofal sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu i osod nodau lles realistig i’w cyflawni trwy gydol y dydd. Mae’r ap yn cynnwys nodweddion megis amserydd ffocws neu fyfyrdod, dyddiaduron myfyrio, cwisiau, a seinweddau. Helpwch eich avatar Finch i dyfu trwy ennill pwyntiau wrth gwblhau eich nodau dyddiol. Gall cofio yfed dŵr, mynd […]
Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion PA – Wythnos 3 (Stephanie Mogridge)
Wythnos 3 yw ein cyfweliad â Stephanie sy’n gweithio i Fanc TSB yn yr adran Gwasanaethu Morgeisi. Er ei bod yn teimlo ei bod wedi cael gafael eithaf da ar lythrennedd data yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth, hoffai petai wedi dysgu mwy am ei lles a hunaniaeth ddigidol. Os hoffech ddysgu mwy am […]