Ystafell Grŵp 9
Mae Ystafell Grŵp 9 ar lefel E y Llyfrgell Hugh Owen yn yr ystafell Iris de Freitas
Y Lle
- Mae yna le i uchafswm o 2 berson yn yr ystafell yma.
- Mae golau addasadwy yn yr ystafell yma.
Offer
Mae’r ystafell yma yn cynnwys:
- Cyfrifiadur
- Sgrin Fawr sydd wedi ei gysylltu â’r cyfrifiadur
- Bwrdd a chadeiriau astudio
- Bwrdd Gwyn yn cynnwys peniau a glanhawr
- Socedi pŵer yn cynnwys rhai gyda chysylltiad USB
- Cysylltiad HDMI i gysylltu eich dyfais i’r sgrin fawr. Mae ceblau HDMI i gysylltu eich dyfais â’r monitor ar gael i’w benthyca. Holwch y ddesg ymholiad ar lefel D.
- Mae golau addasadwy yn yr ystafell yma
- Chwyddhadur
Hygyrchedd
- Mae golau addasadwy yn yr ystafell yma.
- Mae gan yr ystafell yma chwyddhadur
- Mae'r ystafell yma ar lefel E y Llyfrgell Hugh Owen sydd gyda mynediad lifft.
- Ceir mynediad lefel i’r ystafell hon drwy’r fynedfa hygyrch ar Lefel E neu’r lifft ar flaen Adeilad Hugh Owen. Gellir trefnu defnydd o'r Fynedfa a'r Lifft Hygyrch trwy gysylltu â'r Gwasanaeth Hygyrchedd
Llogi
- Myfyrwyr yn unig sydd yn gallu llogi'r ystafell yma. Er mwyn llogi'r ystafell, yma ewch i'r dudalen llogi
- Gellir llogi am uchafswm o bedwar awr y dydd
- Ni ellir defnyddwyr llogi fwy na unwaith y dydd
- Gellir llogi hyd at wythnos o flaen llaw
- Ni allwch archebu ystafell benodol, byddwch yn derbyn ystafell sydd ar gael ac sy'n cwrdd â'ch gofynion.
Defnydd
Mae defnydd astudiaeth grŵp yn cael ei flaenoriaethu dros ddefnydd unigol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y defnydd o'r ystafelloedd hyn cysylltwch â'r llyfrgell.



