Ble gallwch chi gyhoeddi Mynediad Agored?

Mynediad Agored - Diffiniadau

Mae yna ddau lwybr i gyhoeddi deunydd Mynediad Agored:

1. Llwybr Gwyrdd

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cyhoeddi ei hymchwil ar sail mynediad agored trwy Borth Ymchwil Aberystwyth. Dylai pob cyfraniad newydd i Gyfnodolyn, gan gynnwys Trafodion Cynhadleddau a gyhoeddir mewn cyfnodolyn, fod ar gael drwy'r llwybr 'Mynediad Agored Gwyrdd' drwy adneuo ôl-argraffiad o’ch papur yn PURE ar yr adeg y caiff ei dderbyn. Yna, caiff eich erthygl ei gwirio a gosodir embargo’r cyhoeddwr (os yw’n briodol) cyn i’r erthygl ymddangos ym Mhorth Ymchwil Aberystwyth.

Cyrchu Agored PA a Pholisi Cyflwyno PURE

Os ydych yn bryderus nad yw eich cyfnodolyn yn caniatáu i chi fodloni gofynion Mynediad Agored UKRI a/neu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr/Cymru cysylltwch ag openaccess@aber cyn gynted â phosib.

Mae’r rhestr embargo'r Deyrnas Unedig ar gyfer cyfnodolion Elsevier i’w gweld fan hyn: https://www.elsevier.com/__data/assets/pdf_file/0011/78473/UK-Embargo-Periods.pdf

 

 

Beth yw ôl-argraffiad (a elwir hefyd yn Lawysgrif Awdur a Dderbyniwyd)?

 

Isod, ceir diffiniadau'r Open Access Scholarly Information Sourcebook o fersiynau ‘rhagargraffiad’ ac ‘ôl-argraffiad’ o erthygl. Bydd y diffiniadau hyn yn eich helpu i wirio pa fersiwn o'r erthygl sydd angen ei lan-lwytho pan fyddwch yn creu cofnod o'r cynnyrch ymchwil yn PURE, ein system gwybodaeth ymchwil gyfredol. Ar ôl dilysu, trosglwyddir y cofnodion wedyn i Borth Ymchwil Aberystwyth.

Y rhagargraffiad yw’r fersiwn o erthygl cyn iddi gael ei hadolygu gan gymheiriaid i'w chyhoeddi. Gall y term gyfeirio naill ai at erthyglau sydd newydd ddechrau gael eu paratoi neu at erthyglau yn y cam olaf cyn eu cyflwyno i’w hadolygu gan gymheiriaid. Yn yr achos olaf mae'r erthygl , wrth gwrs, wedi'i datblygu'n llawn ac yn barod am adolygiad beirniadol ac, os mai dim ond mân ddiwygiadau sydd eu hangen yn sgil yr adolygiad gan gymheiriaid, mae’n bosib na fydd y rhagargraffiad yn wahanol iawn i'r erthygl derfynol.

Ôl-argraffiad/Llawysgrif Awdur a Dderbyniwyd yw'r fersiwn derfynol o'r erthygl y mae'r awdur yn ei gweld cyn iddi gael ei chyhoeddi. Mae ôl-argraffiad wedi cae ei adolygu gan gymheiriaid ac mae newidiadau a diwygiadau’r adolygwyr wedi cael eu cynnwys. Mae'n union yr un fath â'r fersiwn gyhoeddedig ar wahân i’r ffaith y bydd y cyhoeddwr yn gosod yr erthygl mewn arddull tŷ, rhifo’r tudalennau (os yw'r cyfnodolyn yn dal i gael ei gyhoeddi mewn print), ychwanegu logo'r cyhoeddwr, y manylion hawlfraint, ac yn y blaen. Serch hynny, o ran y cynnwys mae ôl-argraffiad terfynol yr awdur a'r fersiwn a gyhoeddir yr un fath i bob pwrpas.  

 

2. Y Llwybrau Aur/Hybrid

Yn ogystal â sicrhau mynediad agored trwy’r Llwybr Gwyrdd, gallwch gyhoeddi mewn cyfnodolyn Aur, weithiau trwy dalu Ffi Prosesu Erthygl (APC) – neu mewn cyfnodolyn hybrid trwy dalu Ffi Prosesu Erthygl. Mae Mynediad Agored Aur yn golygu y bydd papur ar gael yn rhad ac am ddim i’r holl ddarllenwyr ar wefan y cyhoeddwr, heb ei gyfyngu i danysgrifwyr yn unig trwy ei osod y tu ôl i wal dalu. Mae UK Research & Innovation (UKRI) wedi rhoi cyllid grant bloc i Brifysgol Aberystwyth i gefnogi Mynediad Agored Aur ar gyfer ymchwil sy’n deillio o brosiectau a ariennir ganddynt. Mae hyn yn cynnwys prosiectau myfyrwyr a ariennir. 

Mae rheolau Mynediad Agored UKRI ar gael yma: https://www.ukri.org/manage-your-award/publishing-your-research-findings/.  Sylwch fod cyllid Mynediad Agored UKRI ar gael ar gyfer cyhoeddiadau sy’n deillio o unrhyw brosiect a ariennir gan UKRI, gan gynnwys ysgoloriaethau ymchwil a ariennir gan UKRI.

Trwyddedau sy’n ofynnol gan UKRI

Mae trwyddedau ailddefnyddio ‘Creative Commons’ (CC) yn cynnig ffordd ddefnyddiol o nodi’n benodol at ba wahanol ddibenion y gellir defnyddio gwybodaeth neu ddata sydd wedi’u cynnwys mewn papur.

Mae UKRI yn disgwyl i’r drwydded CC-BY gael ei defnyddio yn achos Erthyglau Mynediad Agored Aur sy’n derbyn cyllid grant bloc. Mae trwyddedau CC-BY yn cynnwys gofyniad i gydnabod yr awduron/crewyr gwreiddiol yn unrhyw gynnyrch newydd, ond nid oes cyfyngiadau ar ailddefnyddio deunydd yn fasnachol, creu deunydd sy’n deillio o’r wybodaeth neu’r data gwreiddiol, nac o ran trwyddedu unrhyw weithiau deilliadol yn y dyfodol. 

Am fanylion pellach ynglŷn â’r ystod lawn o drwyddedau ailddefnyddio CC, gan gynnwys trwyddedau mwy cyfyngol, gweler: https://creativecommons.org/licenses/

 

Cytundebau trawsnewidiol:

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am gytundebau trawsnewidiol

Mae'r cytundebau trawsnewidiol hyn yn gymhleth ac yn amrywio'n fawr. Darllenwch eich gohebiaeth â'r cyhoeddwr yn ofalus a chysylltwch ag openaccess@aber.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau er mwyn osgoi unrhyw atebolrwydd personol am gostau.