Cadw Hawliau

Beth yw Cadw Hawliau?

Mae cadw hawliau’n fenter gan y noddwr  cOAlition S.

Mae gan lawer o noddwyr bolisïau sy’n cydymffurfio â Plan S, gan gynnwys UKRI (Ebrill 2022), Wellcome Trust (Ionawr 2021), NIHR (Mehefin 2022), a'r Bill & Melinda Gates Foundation (Ionawr 2021), sy’n cynnwys amod sy’n gofyn am gadw hawliau.

Mae cadw hawliau’n cefnogi’r llwybr gwyrdd, neu’r llwybr hunan-archifo i fynediad agored. Mae e’n galluogi ymchwilwyr i gyhoeddi Fersiwn Terfynol gyda chyhoeddwr yn ogystal â rhoi llawysgrif awdur wedi’i derbyn ar gadw mewn cadwrfa, sy’n sicrhau’r mynediad ehangaf posibl i ymchwil a hefyd sy’n cyflawni gofynion noddwyr.

Beth mae ar ymchwilwyr angen ei wneud?

Fel arfer mae’r “llwybrau” canlynol ar gael gan noddwyr i gyhoeddi drwy Fynediad Agored:

  1. Mynediad Agored Aur
    1. Cyhoeddi mewn cyfnodolyn mynediad agored llawn a thalu Ffi Prosesu Erthygl (APC) i roi mynediad agored ar unwaith i'r fersiwn terfynol.
    2. Cyhoeddi mewn cyfnodolyn sy’n darparu mynediad agored aur drwy Gytundeb Trawsffurfiol. Telir costau cyhoeddi ar y cychwyn fel rhan o’r fargen hon. Ni thelir unrhyw APC unigol.
  2. Mynediad Agored Gwyrdd
    1. a. Cyhoeddi mewn cyfnodolyn tanysgrifio/cymysgryw ac arfer polisi cadw hawliau i osod trwydded CC BY ar eich llawysgrif sy wedi’i derbyn, a’i rhoi ar gadw yn PURE. Efallai bod eich noddwr yn gofyn ichi roi eich ymchwil ar gadw mewn cadwrfa ychwanegol, e.e. mae’r Wellcome Trust yn gofyn ichi ddefnyddio EuropePMC. Ni thelir unrhyw APC unigol.

Fel y cewch chi ddefnyddio’r llwybr Gwyrdd, sef y llwybr cadw hawliau, mae’n hollbwysig datgan ar y llawysgrif wedi’i chyflwyno bod trwydded CC BY yn cael ei gosod ar y fersiwn wedi’i dderbyn (AAM/ ôl-gyhoeddiad). Drwy’r datganiad hwn mae “hawliau” yn cael eu “cadw” er mwyn gosod trwydded CC BY ar yr AAM; mae cynnwys y datganiad hwn o fewn y llawysgrif wedi’i chyflwyno ac yn y llythyr eglurhaol i'w chyflwyno yn ei gwneud yn glir ar adeg y cyflwyno pa drwydded rydych chi’n ei gosod ar eich llawsgrif awdur wedi’i derbyn.

Os nad oes trwydded CC BY yn ei lle ar gyfer yr AAM, yna ni fydd y papur ddim yn cydymffurfio â pholisi’r noddwr. Mae angen y datganiad am y bwriad i osod trwydded CC BY ar yr AAM, felly, ar bob llawysgrif wedi’i chyflwyno, a dylai fe hefyd gael ei gynnwys yn y llythyr eglurhaol er mwyn eglurdeb. Dyma ffurf enghreifftiol isod ar gyfer y datganiad:

Noddwyd yr ymchwil yma yn llwyr neu’n rhannol gan [NODDWR] [RHIF Y GRANT]. Ar gyfer pwrpas Mynediad Agored, mae’r awdur wedi gosod trwydded Priodoli Creative Commons (CC BY) i unrhyw Lawysgrif Awdur Wedi’i Derbyn (AAM) sy’n deillio o’r cyflwyniad hwn

 

Unwaith bod y papur wedi’i dderbyn i’w gyhoeddi, bydd angen i'r awdur roi’r llawysgrif wedi’i derbyn ar gadw yn PURE ac mewn unrhyw gadwrfeydd eraill yn unol â gofynion y noddwr. Rhaid gwneud yn siŵr ei bod ar gael ar lein, dan y drwydded benodedig, mewn pryd ar gyfer ei chyhoeddi.

Mae’r Polisi Cadw Hawliau yn cyd-fynd â pholisïau prifysgol eraill a wnelo ag Ymchwil Agored:

I gael gwybodaeth bellach, gweler tudalennau gwe Mynediad Agored Aberystwyth, neu cysyllwch â mynediadagored@aber.ac.uk

Rhoi eich llawysgrif wedi’i derbyn ar gadw yn PURE

Fel bob amser, pan glywch chi ei bod wedi’i derbyn, bydd rhaid rhoi’r llawysgrif wedi’i derbyn ar gadw yn PURE. Er hynny, nodwch bod eich noddwr efallai’n gofyn ichi ei rhoi hi mewn mannau eraill hefyd i gydymffurfio’n llwyr. Mae UKRI bellach yn gofyn ei bod ar gadw o fewn un mis wedi’i derbyn.

Unwaith bod cofnod wedi’i greu yn PURE, bydd aelod o’r Tîm Mynediad Agored yn siecio pryd cafodd y papur ei gyflwyno am y tro cyntaf (os nad yw’n amlwg o’r cyflwyniad). Pwrpas hyn yw gwirio a yw’r polisi newydd am gadw hawliau’n berthnasol iddo neu beidio. Yna ceir cadarnhâd gan yr awdur bod y datganiad cadw hawliau wedi’i gynnwys ar y llawysgrif wedi’i chyflwyno a gofynnir hefyd am gadarnhâd bod cytundeb am hawliau sy’n rhwystro cydymffurfiaeth â pholisi’r noddwr heb gael ei lofnodi.

Unwaith bod hyn wedi’i gadarnhau, rhoddir y llawysgrif wedi’i derbyn ar gael dan drwydded CC BY ar Porth Ymchwil Aberystwyth.

Sut mae cyhoeddwyr yn ymateb i gadw hawliau?

Rydym ni’n ymwydodol bod ymchwilwyr wedi cael anawsterau â rhai cyhoeddwyr wrth geisio defnyddio’r strategaeth cadw hawliau.

Er nad ydym ni ddim yn gwybod am unrhyw gyfnodolion sy’n gwrthod yn weithredol i ystyried papurau sy’n cynnwys datganiad am gadw hawliau, rydym ni’n annog awduron i gysylltu â ni ac â’u noddwr os cânt unrhyw anawsterau neu os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am y broses.

Isod mae rhai enghreifftiau o ymatebion cyhoeddwyr i gadw hawliau:

Mae’r cyhoeddwr yn gofyn i ddeiliad y grant i gytuno i dalu Ffi Prosesu Erthygl (APC) ar adeg cyhoeddi.

Dylai awduron wybod na fydd eu noddwr ddim yn talu’r APCs hyn. Cynghorir awduron i gysylltu â’r cyfnodolyn a gofyn am eithriad talu ffi neu ystyried cyhoeddi mewn cyfnodolyn arall.

Mae’r cyhoeddwr yn hysbysu’r awduron bod rhaid i drwydded eu llawysgrif wedi’i derbyn a’u papur cyhoeddedig gyd-fynd, ac yna mae e’n gofyn am daliad APC. 

Dylai awduron wybod na fydd eu noddwr ddim yn talu’r APCs hyn. Cynghorir awduron i gysylltu â’r cyfnodolyn a gofyn am eithriad talu ffi neu ystyried cyhoeddi mewn cyfnodolyn arall.

Mae’r cyhoeddwr yn gofyn i’r awduron gohebol lofnodi cytundeb sy’n datgan na weithredant mewn ffordd sy’n mynd yn erbyn polisi hunan-archifo’r cyfnodolyn

Dylai awduron wybod bod llofnodi y cyfryw gytundebau yn eu hatal rhag cydymffurfio â gofynion mynediad agored eu noddwr - heblaw bod polisi hunan-archifo’r cyfnodolion yn eu caniatáu i osod trwydded CC BY ar eu llawysgrif wedi’i derbyn a’i rhoi ar gadw yng nghadwrfa ddewisol eu noddwr ar unwaith wedi’i derbyn heb embargo. Cyn llofnodi’r fath gytundebau, dylai awduron lwytho’r llawysgrif wedi’i derbyn i fyny i PURE a chysylltu â’r Tîm Mynediad Agored i gael cyngor.

Mae’r cyhoeddwr yn awgrymu i awduron y dylent gyhoeddi mewn cyfnodolyn gwahanol (sy naill ai’n fynediad agored llawn neu’n gyfnodolyn ‘trawsffurfiol’, h.y. un lle mae’r noddwyr yn talu APC)

Dylai awduron fod yn rhydd i benderfynu lle cân nhw gyhoeddi a bod yn ymwybodol bod y fath awgrymiadau efallai’n ffordd i osgoi cadw hawliau, yn hytrach nag awgrym go iawn am gyfnodolyn mwy addas.