Sut i gyhoeddi Mynediad Agored
Sut i gyhoeddi deunydd Mynediad Agored?
Cyfeirir at gyfnodolion sydd â Mynediad Agored llwyr ac ar unwaith fel rhai ‘aur’. Gelwir cyfnodolion sy’n cynnig rhywfaint o erthyglau Mynediad Agored ar unwaith ac eraill trwy danysgrifiad yn gyfnodolion ‘hybrid’.
Fel awdur, gallwch sicrhau Mynediad Agored drwy gyhoeddi mewn cyfnodolyn Aur (weithiau trwy dalu Ffi Prosesu Erthygl – APC), mewn cyfnodolyn hybrid trwy dalu Ffi Prosesu Erthygl, neu drwy adneuo ôl-argraffiad o’ch erthygl yn ein System Gwybodaeth Ymchwil Gyfredol, Pure, i sicrhau Mynediad Agored trwy Borth Ymchwil Aberystwyth (sydd ar gael weithiau ar ôl embargo). Gelwir yr olaf o’r rhain yn Fynediad Agored Gwyrdd.
Am ragor o wybodaeth, gweler ROMEO am gymorth ynghylch polisïau cyhoeddwyr ar hawlfraint a chyfnodau embargo ac OpenDOAR am restr o gadwrfeydd Mynediad Agored academaidd.