Defnyddio technoleg yn Aber
Deallusrwydd Artiffisial
Canllaw Llyfrgell: DA
Bydd y Canllaw Llyfrgell hwn yn canolbwyntio ar Ddeallusrwydd Artiffisial (DA) cynhyrchiol ac yn edrych ar sut y gall myfyrwyr ei ddefnyddio'n effeithiol er mwyn sicrhau’r profiad gorau wrth ddefnyddio’r llyfrgell. Bydd y canllaw hefyd yn mynd i'r afael â'r cyfyngiadau yn ogystal â'r ystyriaethau moesegol cysylltiedig â'i ddefnyddio.
Blog y Llyfrgellwyr:
Tudalen gymorth a gwybodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial:
Yr offeryn DA sy'n cael ei argymell gan y Brifysgol yw Microsoft Copilot. Mae'n rhan o'n Trwydded Microsoft ni.
Myfyrwyr - os oes gennych ymholiadau am y defnydd derbyniol o DA ar gyfer eich aseiniadau, cysylltwch â'ch tiwtor neu gydlynydd modiwl.
Aspire - rhestrau darllen
Mae rhestr ddarllen modiwlau fel arfer yn rhestr o lyfrau ac adnoddau gwybodaeth eraill a luniwyd gan gydlynydd y modiwl i gefnogi eich astudiaeth o fodiwl. Gallwch ddod o hyd i'ch rhestr ddarllen ar Aspire.
Technoleg Gynorthwyol
Blackboard - amgylchedd dysgu ar-lein
Blackboard yw amgylchedd dysgu ar-lein Prifysgol Aberystwyth. Mae Blackboard yn safle ar-lein ar gyfer pob modiwl sy'n cynnig amrywiaeth o ddeunyddiau i gefnogi dysgu.
- Gellir gael mynediad i Blackboard drwy https://blackboard.aber.ac.uk a defnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair Aberystwyth.
- Mwy o wybodaeth: Blackboard
- Blackboard - Callawiau Myfyrwyr
Cysgliad - meddalwedd gramadeg a sillafu Cymraeg
Pecyn meddalwedd sy’n cynnwys gwirydd sillafu gramadeg Cysill a chasgliad geiriaduron Cysgeir yw Cysgliad.
I lawrlwytho Cysgliad ar eich cyfrifiadur ewch i https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=696
Meddalwedd dadansoddi data ac ystadegau
Gallwch gael mynediad i sawl rhaglen dadansoddi data ac ystategau. Gall staff a myfyrwyr lawrlwytho'r meddalwedd i'w cyfrifiaduron personol am ddim drwy fynd i'r safle Meddalwedd sydd ar gael oddi wrth PA (Mewngofnodi gofynnol - teipiwch mewn eich enw defnyddiwr a chyfrinair Prifysgol Aberystwyth).
-
SPSS ar gyfer dadansoddi data meintiol
R
Ar gyfer myfyrwyr a staff sydd eisiau gosod R ar gyfrifiaduron personol, mae angen i chi lawrlwytho a gosod R yn gyntaf ac yna lawrlwytho a gosod RStudio sydd ill dau ar gael am ddim:
Microsoft Excel
Mae Excel yn gymhwysiad taenlen sy'n eich galluogi i greu a dadansoddi tablau data. Mae'n cynnwys y modd i wneud cyfrifiadau cymhleth a chreu graffiau trawiadol i ddelweddu'ch data.
Mae Office 365 yn rhoi mynediad i chi Microsoft Office:
- gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, OneNote, Access, Publisher, Outlook, Lync a Infopath i'w lawrlwytho am ddim i'ch cyfrifiadur
- Cefnogaeth gan Microsoft (Saesneg yn unig)
- Llyfrau ar Excel - adnoddau'r Llyfrgell
Microsoft Powerpoint
Mae PowerPoint yn gymhwysiad sy'n caniatáu ichi greu sioeau sleidiau i gefnogi'ch cyflwyniadau. Mae'n caniatáu ichi gyfuno testun, delweddau, animeiddiadau a chyfryngau eraill.
Mae Office 365 yn rhoi mynediad i chi Microsoft Office:
- gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, OneNote, Access, Publisher, Outlook, Lync a Infopath i'w lawrlwytho am ddim i'ch cyfrifiadur
- Cefnogaeth Microsoft (Saesneg yn unig)
-
Syniadau ac awgrymiadau Powerpoint (Blog Sgiliau Digidol)
Microsoft Teams
System ar gyfer gweithio'n gydweithredol mewn timau yw Microsoft Teams, sy'n rhan o gyfres rhaglenni Office 365. Mae'n ddefnyddiol iawn er mwyn cyfathrebu, cydweithio, cynllunio a datblygu prosiectau gyda chydweithwyr dros y brifysgol.
Microsoft Word
Mae Word yn gymhwysiad prosesu geiriau y gellir ei ddefnyddio ar gyfer ysgrifennu traethodau, adroddiadau, ac ystod o fathau eraill o ddogfennau.
Mae Office 365 yn rhoi mynediad i chi Microsoft Office:
- gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, OneNote, Access, Publisher, Outlook, Lync a Infopath i'w lawrlwytho am ddim i'ch cyfrifiadur
- Ble all myfyrwyr a staff lawrlwytho Microsoft Office ar eu cyfrifiaduron eu hunain am ddim?
- Defnyddio Microsoft Word Cwestiynau a holir yn aml
- Cefnogaeth Microsoft (Saesneg yn unig)
- Syniadau ac Awgrymiadau Word (blogbost)
Microsoft Office 365 - e-bost, calendr ac OneDrive
- Office 365 - gwybodaeth cyffredinol
- Cwestiynau a holir yn aml Prifysgol Aberystwyth:
- Cefnogaeth Microsoft (Saesneg yn unig)
- Cwestiynau a Holir yn aml: Office 365 - ebost, calendr ac OneDrive
Panopto - cipio darlithoedd
Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio meddalwedd cipio darlithoedd o'r enw Panopto i recordio darlithoedd. Gall myfyrwyr weld y recordiadau hyn drwy Blackboard.
Primo - catalog y Llyfrgell
Primo (primo.aber.ac.uk) yw catalog y llyfrgell ac offeryn darganfod Prifysgol Aberystwyth sy'n rhoi mynediad i chi at adnoddau printiedig, e-lyfrau, cylchgronau a chylchgronau electronig, cronfeydd data ar-lein, papurau newydd a llawer mwy mewn un lle.
Gallwch chwilio am bopeth sydd gan y llyfrgell i'w gynnig o un blwch chwilio.
Meddalwedd cyfeirnodi
Weithiau gelwir meddalwedd ar gyfer cyfeirnodi yn feddalwedd rheoli llyfryddol neu yn feddalwedd rheoli cyfeiriadau. Mae'n eich galluogi i gadw cronfa ddata o'r ffynonellau a ddefnyddiwch (llyfrau, erthyglau cyfnodolion, gwefannau ac ati) wrth ymchwilio i'ch aseiniadau.
Endnote
-
- Mae EndNote 20 i'w gael i'w lawrlwytho am ddim (Windows a Mac) ar gyfrifiaduron staff a myfyrwyr:
- Ewch i dudalen Cwestiynau Cyffredin EndNote
- Am gymorth i ddefnyddio EndNote, gweler yr hyfforddiant ar-lein gan EndNoteTraining yma: https://www.youtube.com/user/EndNoteTraining/videos
Mendeley
-
- Mae dogfennau cymorth i'w cael ar-lein. Mae Mendeley yn caniatáu ichi fewnforio cyfeiriadau i'ch aseiniadau trwy ddefnyddio ychwanegyn cyfeirnodi ar gyfer Word.
Porth Myfyrwyr
Mae'r Porth Myfyrwyr yn gwneud hi'n haws i chi gael gafael ar y wybodaeth a'r systemau sydd eu hangen arnoch. Yma fe welwch linciau i safleoedd, tudalennau gwe a gwybodaeth defnyddiol i gyd mewn un lle cyfleus.
Mae yna dudalennau ar gyfer pob adran academaidd fel y gallwch weld gwybodaeth benodol i adrannau ar gyfer myfyrwyr ynghyd â'r holl wybodaeth arall sydd ar gael i chi.
Pan fyddwch yn mewngofnodi i'r Porth Myfyrwyr, bydd yn adnabod pa adran(nau) yr ydych yn astudio ynddi/ynddynt ac yn arddangos y ddolen berthnasol i'r rhan/rhannau ar gyfer eich adran(nau).
Er mwyn cael mynediad i'r Porth Myfyrwyr newydd ar eich dyfeisiau symudol, rydym yn argymell eich bod yn gosod ap Microsoft SharePoint ar eich dyfais. Os ydych chi'n defnyddio Microsoft Teams ar eich dyfais symudol, gellir defnyddio hwn hefyd i gael mynediad i'r Porth Myfyrwyr. Opsiwn arall y gallech ei ddewis yw ymweld â'r Porth Myfyrwyr yn eich porwr gwe dewisol ac yna ychwanegu hwn at sgrin hafan eich dyfais.
Sut mae cael mynediad i'r Porth Myfyrwyr o fy nyfais symudol?
TurnItin - e-gyflwyno
Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio Turnitin a Blackboard Assignment ar gyfer cyflwyno'n Electronig. Yn unol â pholisi E-gyflwyno’r Brifysgol, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno pob gwaith testunol a gwaith ar brosesydd geiriau'n electronig.
Vevox - offer pleidleisio
Vevox yw offer pleidleisio Prifysgol Aberystwyth. Gellir cynnal pleidleisiau mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu, yn ogystal â chyfarfodydd, er mwyn creu sesiynau sy’n rhyngweithiol a chydweithredol, a cheir llawer o bosibiliadau gwahanol o ran defnydd.
- Gallwch ddechrau defnyddio Vevox drwy fewngofnodi i http://aberystwyth.vevox.com/ gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Aberystwyth.
- Gwybodaeth am Vevox
- Cwestiynau a holir yn aml am Vevox
Datblygu eich sgiliau digidol
Mae gan fyfyrwyr fynediad at adnoddau niferus i'w cefnogi i ddatblygu ystod eang o sgiliau digidol.
- Archwiliwch adnoddau o Ŵyl Sgiliau Digidol 2023, gan gynnwys sesiynau ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) er da, datblygu proffil LinkedIn, a gweithdai Excel.
- Mae'r Llyfrgell Sgiliau Digidol yn cynnwys chwe chasgliad o adnoddau i helpu myfyrwyr i wneud y gorau o dechnoleg; o feistroli meddalwedd cyfarwydd fel Excel, i ddefnyddio offer digidol ar gyfer lles personol.
Defnyddio cyfryngau cymdeithasol
Adnodd digidol newydd sy'n rhoi canllawiau ar sut i hoelio sylw ar y cyfryngau cymdeithasol a chreu cynnwys gafaelgar. Wedi'i greu gan Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
