Bioamrywiaeth a Chadwraeth
Darllenwch am ein prosiectau a'n polisïau bioamrywiaeth presennol isod.
Gyda gwreiddiau’r Brifysgol wedi’u plannu'n gadarn mewn amaethyddiaeth, mae'n hanfodol i ni fod bioamrywiaeth a chadwraeth ar flaen y gad o ran yr hyn a wnawn.
Gellir dod o hyd i'n hadroddiad cynnydd bioamrywiaeth yma: Adroddiad y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 2022
Darllenwch ein cynllun bioamrywiaeth yma: Cynllun Bioamrywiaeth Prifysgol Aberystwyth (Gorffennaf 2017)
Er mwyn sicrhau ein bod yn gofalu am ein hystâd cystal ag y gallwn, rydym yn buddsoddi mewn arolwg bioamrywiaeth i'w gynnal yng Ngwanwyn 2024.
Bydd hyn yn cynnwys arolygon wedi'u targedu i nodi rhywogaethau a chynefinoedd cyffredinol a blaenoriaeth, a fydd yn ei dro yn creu map cynefin o dir y Brifysgol.
Mae hyn yn hanfodol i adnabod ein hardaloedd bioamrywiaeth uchel, ac i gynhyrchu cynlluniau gwella tir penodol er mwyn gwarchod y rhywogaethau a'r cynefinoedd o'n cwmpas.
Cynllun Plannu Coed
Mae’n bleser gennym gyhoeddi fod y prosiect hwn wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau ‘Green Gown’ 2024 yn y categori ‘Cadarnhaol am Natur’!
Mae ein Cynllun Plannu Coed, o dan Gynllun Creu Coetir Glastir, yn cynnwys plannu rhwng 90,000 a 120,000 o goed llydanddail brodorol dros 30 hectar o dir amaethyddol anghynhyrchiol i wella bioamrywiaeth, lleihau erydiad pridd a chynyddu’r lefelau dal carbon.
Mae'r rhywogaethau o goed yn cynnwys gwernen, cerdinen, derwen ddigoes, aethnen, bedwen arian, ceiriosen yr aderyn, ceiriosen ddu, afal sur bach, sycamorwydden, bedwen gyffredin, barf y bwch a chollen. Bydd nifer fach o Ffynidwydd hefyd yn cael eu cynnwys yn y gymysgedd plannu.
Cafodd Cam 1 ein cynllun plannu coed ei gwblhau yn 2023, gyda 16,000 o goed llydanddail brodorol wedi'u plannu ar draws 3 safle. Ar ôl aeddfedu, disgwylir i'r coetir hwn gynyddu lefelau dal carbon y brifysgol o oddeutu 16tCO2e y flwyddyn.
Bydd Cam 2 ein prosiect, yn ddibynnol ar gymeradwyaeth, yn gweld 60,000 ychwanegol o goed llydanddail brodorol yn cael eu plannu ar draws safle Rhydyronnen dros y gaeaf hwn. Bydd hyn yn gwella bioamrywiaeth ymhellach ac o bosibl yn dal 60tCO2e ychwanegol o garbon.
Mae'r prosiect hwn hefyd yn cefnogi'r amcanion a amlinellir gan ein Strategaeth tuag at Garbon Sero Net 2030 drwy gynyddu lefelau dal carbon ar draws ein hystâd.
Mae’r tîm tiroedd wedi bod yn cynnal a chadw dolydd blodau gwyllt ar draws y campws ers iddynt gael eu plannu yn wreiddiol yn 2016.
Mis Mai eleni, bydd y Brifysgol yn cymryd rhan yn ymgyrch ‘Mai Di Dor’ Plantlife.
Ar draws y campws, bydd llawer o fannau glaswelltog yn cael eu gadael i dyfu am y mis cyfan, a bydd rhai safleoedd yn cael eu gadael am gyfnodau mwy hirdymor.
Mae hyn yn ategu gwaith ehangach i hybu bioamrywiaeth ar draws y campws, ac mae'n helpu i ddarparu cynefin i beillwyr a mamaliaid bach yn ystod misoedd y gwanwyn, sy’n gyfnod hanfodol i lwyddiant rhywogaethau o infertebratau ledled y DU.
Addo bod yn Gadarnhaol am Fyd Natur
Ystyr Bod yn Gadarnhaol am Natur yw atal neu wrthdroi unrhyw newidiadau negyddol i'r amgylchedd a'i ecosystemau, fel y gall ecosystemau iachach ddod i'r amlwg
Llofnododd Aberystwyth yr Addewid Cadarnhaol am fyd Natur ddechrau 2023, a thrwy ddefnyddio Cynllun Bioamrywiaeth Prifysgol Aberystwyth (Gorffennaf 2017) yn sylfaen, yn ogystal ag Adroddiad Cynnydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 2022, rydym wedi gallu olrhain ein cynnydd a gosod targedau newydd.
Gobeithiwn y gall ein prosiectau bioamrywiaeth yn y dyfodol gynyddu ymhellach amrywiaeth, cyfoeth a chadernid ecosystemau.
Darllenwch fwy am Cadarnhaol am Natur yma.
Darllenwch fwy yma: Gerddi Cymunedol Aberystwyth