Gwneud Cais am Gyfieithiad


Mae gan yr Uned Gyfieithu ffurflen gais ar lein a system llif gwaith. Mae’r system hon yn caniatáu i gwsmeriaid gadw golwg ar y gwaith a anfonwyd, gan fod pob darn o waith y mae cwsmer yn ei anfon yn cael ei ddangos ar eu cofnod personol. Mae'r ddogfen wreiddiol a'r cyfieithiad yn cael eu cadw ar weinydd y Brifysgol am 5 mlynedd.

Dylai pob darn o waith a anfonir i’w gyfieithu ddod drwy’r system hon yn hytrach na’r e-bost ond mae croeso i chi barhau i ddefnyddio’r e-bost cyfieithu@aber.ac.uk ar gyfer unrhyw ymholiadau/cwestiynau. Mae’r ffurflen gais ar lein yn caniatáu i chi gynnwys sylwadau hefyd.

Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw mewngofnodi i https://myadmin.aber.ac.uk/ yna clicio ar Cyfieithu yna’r botwm glas ‘Creu Cais am Gyfieithiad’.

Os ydych yn fyfyriwr ac angen cymorth i gyfieithu dogfen sy’n gysylltiedig â’ch gwaith ymchwil academaidd, cysylltwch â cyfieithu@aber.ac.uk i drafod eich anghenion.