Cyfieithu ar Gyfer Prosiectau a Ariannir yn Allanol

Bydd y Ganolfan yn codi tâl am waith cyfieithu i brosiectau a ariannir yn allanol ac o ganlyniad gofynnir i staff ac adrannau sy’n gwneud ceisiadau am arian prosiect gofio bod gofyn costio’r anghenion cyfieithu yn rhan o’r prosiect. Mae’n arfer dda i gysylltu â’r Ganolfan wrth lunio cais er mwyn cadarnhau pa agweddau o’r gwaith y dylid eu darparu’n ddwyieithog a beth fydd y gost a’r amserlen ar gyfer hyn.