Cyfieithu Gwefannau a Thudalennau Gwe

Er mwyn hwyluso’r gwaith o gyfieithu gwefannau a thudalennau gwe gofynnir ichi gynnwys y canlynol wrth anfon y gwaith i’r Ganolfan:

Ar gyfer gwefan gyfan

  • Nifer y geiriau fesul tudalen
  • Ffeil Word ar gyfer pob tudalen gan gynnwys y lluniau perthnasol a chyfeiriad URL y tudalen
  • Rhestr o'r testunau amgen ar gyfer ffeiliau ffotograffau a delweddau

Gallwch anfon y cyfeiriad URL yn unig ar gyfer cyfieithu tudalen unigol.

Diweddaru gwefan

Bydd y Ganolfan wedi pennu pa dudalennau a ddylai fod yn ddwyieithog ar eich gwefan adrannol a chofiwch fod angen diweddaru’r testun Cymraeg hefyd pan fyddwch yn diweddaru’r ochr Saesneg. Gallwch anfon y gwaith hwn i’w gyfieithu (gallai fod yn ychydig o eiriau, brawddeg/au neu baragraffau). Wrth anfon y gwaith i’w ddiweddaru neu ei ddiwygio sicrhewch fod y newidiadau wedi’u marcio’n amlwg.

Cefnogaeth

Gall y Ganolfan gynnig cefnogaeth i wefeistri adrannol wrth gynllunio a gosod gwefannau dwyieithog. Cysylltwch â Lowri Angharad Jones am gyngor pellach.