Proffiliau Academaidd

Ymchwil

Ymchwil 1 (Gradd 6)

PWRPAS Y RÔL 

Bod yn aelod o dîm ymchwil a chyfrannu at brosiectau ymchwil.

GWEITHGAREDD

ENGHREIFFTIAU O OFYNION Y RÔL 

1 Cyfathrebu

Cofnodi canlyniadau eich ymchwil eich hun 

Cyfrannu at gynhyrchu adroddiadau ymchwil a chyhoeddiadau.

Cyflwyno gwybodaeth ar gynnydd a chanlyniadau’r ymchwil i gyrff sy’n goruchwylio’r ymchwil e.e. grwpiau llywio.

Yn achlysurol cyfathrebu gwybodaeth a allai fod yn gymhleth ar lafar, yn ysgrifenedig neu’n electronig.

Paratoi papurau ar gyfer grwpiau llywio a chyrff eraill.

2  Gwaith tîm a chymhelliant

Cyfranogi’n weithredol fel aelod o dîm ymchwil.

Mynychu cyfarfodydd perthnasol a chyfrannu ynddynt.

3  Cyswllt a rhwydweithio

Cysylltu â chydweithwyr ymchwil a chefnogi staff i sicrhau fod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i’r bobl briodol mewn modd amserol.

Ffurfio cysylltiadau mewnol ac allanol i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth a chreu perthnasoedd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol. 

4  Darparu gwasanaeth

Ymateb i geisiadau am gymorth gan aelodau eraill o’r tîm ymchwil a myfyrwyr.

5  Cyfleoedd a phroblemau penderfynu

Gwneud penderfyniadau rheolaidd yn ymwneud â’ch meysydd cyfrifoldeb eich hun.

Cyfrannu at benderfyniadau sy’n effeithio ar waith y tîm.

6  Cynllunio a threfnu adnoddau

Cynllunio eich gweithgaredd ymchwil dydd-i-ddydd eich hun o fewn fframwaith y rhaglen a gytunwyd. 

Cydlynu eich gwaith eich hun â gwaith pobl eraill er mwyn osgoi gwrthdaro neu ddyblygu ymdrech.

Cyfrannu at gynllunio prosiectau ymchwil.

7  Menter a datrys problemau

Ymdrin â phroblemau a allai effeithio ar gyflawni amcanion ymchwil a therfynau amser.

O bosibl canfod ffynonellau cyllid a chyfrannu at y broses o sicrhau cyllid.

8  Dadansoddi ac ymchwil

Ymgymryd ag ymchwil sylfaenol er enghraifft drwy baratoi, gosod, cynnal a chofnodi canlyniadau arbrofion a gwaith maes, datblygu holiaduron a chynnal arolygon.

Cynnal chwiliadau llenyddiaeth a chronfa ddata.

Defnyddio technegau a dulliau ymchwil safonol.

Dadansoddi a dehongli canlyniadau eich ymchwil eich hun a ffurfio syniadau gwreiddiol yn seiliedig ar ganlyniadau.

9  Gofynion synhwyraidd a chorfforol

Bydd gofynion synhwyraidd a chorfforol yn amrywio o lefel gymharol ysgafn i lefel uchel gan ddibynnu ar y ddisgyblaeth a’r math o waith.

Cyflawni tasgau y mae angen dysgu sgiliau penodol ar eu cyfer.

10  Amgylchedd gwaith

Angen bod yn ymwybodol o’r risgiau yn yr amgylchedd gwaith.

11  Gofal a lles bugeiliol

Bod yn ystyriol o bobl eraill.

12  Datblygu tîm

Cynorthwyo aelodau newydd o’r tîm a rhannu gwybodaeth o fewn y tîm.

13  Cefnogaeth addysgu a dysgu  

Cynorthwyo â’r gwaith o oruchwylio prosiectau myfyrwyr.

Gellid disgwyl cyfraniad i gyrsiau rhagarweiniol, er enghraifft ar y defnydd o ddulliau ymchwil a chyfarpar.

Darparu arweiniad fel bo’r gofyn i staff cefnogol ac unrhyw fyfyrwyr a allai fod yn cynorthwyo â’r ymchwil.

14  Gwybodaeth a phrofiad

Meddu ar ehangder neu ddyfnder digonol o wybodaeth arbenigol yn y ddisgyblaeth a dulliau a thechnegau ymchwil i weithio yn eich maes eich hun.

PRIF DDYLETSWYDDAU 

  1. Cynnal arbrofion, profion, arsylwadau, astudiaethau maes ac ati 
  2. Dadansoddi canlyniadau arbrofion, profion, arsylwadau, astudiaethau maes ac ati 
  3. Cynnal chwiliadau llenyddiaeth a chronfa ddata  
  4. Cofnodi canlyniadau arbrofion, profion, arsylwadau, astudiaethau maes ac ati 
  5. Cyfranogi drwy gyflwyno papurau i gyfarfodydd ac mewn cynadleddau, arddangosfeydd ac ati  
  6. Cyfrannu at waith y tîm ymchwil  

 

Ymchwil 2 (Gradd 7)

PWRPAS Y RÔL 

Ymgymryd â gwaith ymchwil a chyfrannu at brosiectau ymchwil.

GWEITHGAREDD

ENGHREIFFTIAU O OFYNION Y RÔL

1 Cyfathrebu

Cofnodi gwaith ymchwil i’w gyhoeddi.

Ymdrin â chyfathrebu rheolaidd gan ddefnyddio ystod o gyfryngau.

Cyfathrebu gwybodaeth gymhleth ar lafar, yn ysgrifenedig neu’n electronig.

Paratoi cynigion a cheisiadau i gyrff allanol e.e. i bwrpasau cyllido a chytundebau.

Cyfathrebu deunydd o natur arbenigol neu dra thechnegol.

2  Gwaith tîm a chymhelliant

Gweithio gyda chydweithwyr ar brosiectau ar y cyd, fel bo’r gofyn. 

Cydweithio gyda chydweithwyr academaidd ar feysydd o ddiddordeb ymchwil a rennir.

Mynychu cyfarfodydd perthnasol a chyfrannu ynddynt.

3  Cyswllt a rhwydweithio

Cysylltu â chydweithwyr a myfyrwyr.

Adeiladu cysylltiadau mewnol a chyfranogi mewn rhwydweithiau mewnol ar gyfer rhannu gwybodaeth a chreu perthnasoedd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.

Ymuno â rhwydweithiau allanol i rannu gwybodaeth a chanfod ffynonellau cyllid posibl. 

4  Darparu gwasanaeth

Cyfrannu at gynhyrchu ceisiadau ymchwil â’r nod o ddiwallu gofynion y cyllidwyr.

5  Cyfleoedd a phroblemau penderfynu

Gwneud penderfyniadau ar faterion yn ymwneud â’ch prosiectau ymchwil eich hun.

Cyfrannu at benderfyniadau cydweithredol â chydweithwyr mewn meysydd ymchwil.

6  Cynllunio a threfnu adnoddau

Rheoli eich gweithgareddau ymchwil a gweinyddu eich hun gydag arweiniad os oes angen.

Defnyddio adnoddau, labordai a gweithdai ymchwil fel bo’n briodol.

Cynllunio a rheoli eich gweithgarwch ymchwil eich hun mewn cydweithrediad ag eraill.

PRIF DDYLETSWYDDAU 

  1. Llunio arbrofion, profion, arsylwadau, astudiaethau maes ac ati o fewn paramedrau’r prosiect ymchwil. 
  2. Cynnal arbrofion, profion, arsylwadau, astudiaethau maes ac ati 
  3. Cynnal chwiliadau llenyddiaeth a chronfa ddata 
  4. Dadansoddi, dehongli ac adrodd y canlyniadau  
  5. Cyfrannu at gyhoeddi canlyniadau’r ymchwil a chyflwyno fel bo’r gofyn   

Ymchwil 3 (Gradd 8)

PWRPAS Y RÔL 

Ymgymryd â gwaith ymchwil a chyflwyno ceisiadau ymchwil. 

GWEITHGAREDD

ENGHREIFFTIAU O OFYNION Y RÔL

1 Cyfathrebu

Ysgrifennu neu gyfrannu at gyhoeddiadau neu rannu canfyddiadau ymchwil gan ddefnyddio cyfryngau addas eraill.

Gwneud cyflwyniadau mewn cynadleddau neu arddangos gwaith mewn digwyddiadau addas eraill.

Cyfathrebu syniadau cymhleth a chysyniadol yn rheolaidd i’r rheini sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth gyfyngedig yn ogystal ag i gymheiriaid gan ddefnyddio lefel uchel o sgiliau ac ystod o gyfryngau.

2  Gwaith tîm a chymhelliant

Egluro cyfrifoldebau gwaith aelodau’r tîm er mwyn sicrhau gweithio effeithiol a chyflawni amcanion y prosiect ymchwil.

3  Cyswllt a rhwydweithio

Cydweithio’n gadarnhaol o fewn a’r tu allan i’r Sefydliad i gwblhau prosiectau ymchwil a symud meddylfryd ymlaen.

Cyfranogi mewn rhwydweithiau allanol a’u datblygu, er enghraifft er mwyn canfod ffynonellau cyllido, creu incwm, sicrhau prosiectau ymgynghori, neu adeiladu perthnasoedd ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol.

4  Darparu gwasanaeth

Cyfrannu at gynhyrchu ceisiadau ymchwil â’r nod o ddiwallu gofynion y cyllidwyr.

5  Cyfleoedd a phroblemau penderfynu

Penderfynu ar raglenni a methodolegau ymchwil, yn aml mewn cydweithrediad â chydweithwyr ac ambell waith yn amodol ar gymeradwyaeth pennaeth y rhaglen ymchwil ar faterion sylfaenol.

6  Cynllunio a threfnu adnoddau

Cynllunio, cydlynu a gweithredu rhaglenni ymchwil.

Rheoli’r defnydd o adnoddau ymchwil a sicrhau fod defnydd effeithiol yn cael ei wneud ohonynt.

Rheoli neu fonitro cyllidebau ymchwil.

Helpu i gynllunio a gweithredu gweithgareddau masnachol ac ymgynghorol.

Cynllunio a rheoli eich aseiniadau ymgynghori eich hun.

7  Menter a datrys problemau

Canfod ffynonellau cyllid a chyfrannu at y broses o sicrhau cyllid.

Ymdrin â phroblemau safonol a helpu cydweithwyr i ddatrys eu pryderon ynglŷn â chynnydd yr ymchwil.

Datrys problemau yn ymwneud â chyflawni amcanion ymchwil a therfynau amser.

 

Datblygu syniadau ar gyfer creu incwm a hyrwyddo’r maes ymchwil.

Datblygu syniadau ar gyfer cymhwyso canlyniadau ymchwil

8  Dadansoddi ac ymchwil

Datblygu amcanion, prosiectau a chynigion ymchwil.

Cynnal prosiectau ymchwil unigol neu gydweithredol.

Asesu, dehongli a gwerthuso canlyniadau ymchwil.

Datblygu cysyniadau a syniadau newydd i estyn dealltwriaeth ddeallusol.

9  Gofynion synhwyraidd a chorfforol

Bydd gofynion synhwyraidd a chorfforol yn amrywio o lefel gymharol ysgafn i lefel uchel gan ddibynnu ar y ddisgyblaeth a’r math o waith.

Cyflawni tasgau y mae angen dysgu sgiliau penodol ar eu cyfer.

10  Amgylchedd gwaith

Cydbwyso'r gwasgeddau sy’n deillio o ofynion ymchwil a gweinyddiaeth a therfynau amser cystadleuol.

Gan ddibynnu ar y maes gwaith a’r lefel o hyfforddiant a dderbyniwyd, gellid disgwyl cynnal asesiad risg a chymryd cyfrifoldeb am iechyd a diogelwch pobl eraill.

11  Gofal a lles bugeiliol

Bod yn ystyriol o bobl eraill a chynnig cymorth i’r rheini sydd mewn trafferthion.

Darparu gwybodaeth a chymorth i gydweithwyr a myfyrwyr, a’u cyfeirio at ffynonellau eraill o gymorth os oes angen.

12  Datblygu tîm

Mentora cydweithwyr llai profiadol a chynghori ar ddatblygiad personol.

Hyfforddi a chefnogi cydweithwyr wrth ddatblygu eu technegau ymchwil.

13  Cefnogaeth addysgu a dysgu  

Cyfrannu at y rhaglenni addysgu a dysgu yn yr adran.

Goruchwylio myfyrwyr ymchwil uwchraddedig.

Defnyddio ystod o dechnegau cyflwyno i sbarduno ac ennyn diddordeb myfyrwyr.

14  Gwybodaeth a phrofiad

Estyn, trawsnewid a chymhwyso gwybodaeth a enillir drwy ysgolheictod i ymchwil a gweithgareddau allanol priodol.

Meddu ar ehangder neu ddyfnder digonol o wybodaeth arbenigol yn y ddisgyblaeth i ddatblygu rhaglenni a methodolegau ymchwil.

PRIF DDYLETSWYDDAU

  1. Llunio a chynnal prosiectau ymchwil i gyflawni’r amcanion a gytunwyd  
  2. Ffurfio cynigion ymchwil a cheisiadau prosiect a chyfrannu at ffurfio ceisiadau ar raddfa fwy 
  3. Goruchwylio ac arwain aelodau o’r tîm ymchwil  
  4. Rhannu canlyniadau prosiectau ymchwil, gan gynnwys cyhoeddi, cyflwyno a chyfrannu at raglenni dysgu  
  5. Goruchwylio myfyrwyr ymchwil 

 

Ymchwil 4 (Gradd 9)

PWRPAS Y RÔL

Arwain timau a phrosiectau ymchwil. 

PRIF DDYLETSWYDDAU 

  1. Llunio prosiectau ymchwil
  2. Arwain gwaith y tîm ymchwil a sicrhau bod aelodau’n gweithio’n effeithiol drwy ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth
  3. Canfod ffynonellau cyllid posibl a datblygu cynigion a cheisiadau ymchwil
  4. Cyhoeddi canlyniadau prosiectau ymchwil, gan gynnwys drwy addysgu a dulliau eraill o ddosbarthu
  5. Cyfrannu at reolaeth a threfniadaeth gyffredinol yr adran, ysgol neu sefydliad

GWEITHGAREDD

ENGHREIFFTIAU O OFYNION Y RÔL

1 Cyfathrebu

Rhannu syniadau cysyniadol a chymhleth ag ystod eang o gynulleidfaoedd gan ddefnyddio cyfryngau a dulliau addas i hybu dealltwriaeth.

2  Gwaith tîm a chymhelliant

Darparu arweiniad academaidd i’r rheini sy’n gweithio mewn meysydd ymchwil, er enghraifft drwy gydlynu gwaith pobl eraill i sicrhau fod prosiectau ymchwil yn cael eu cyflenwi’n effeithiol ac ar amser neu drefnu gwaith tîm drwy gytuno ar amcanion a chynlluniau gwaith.

Gallai weithredu fel rheolwr llinell (ee ar gyfer timau ymchwil)*

Arwain timau o fewn meysydd cyfrifoldeb.

Sicrhau fod timau o fewn yr adran yn gweithio gyda’i gilydd.

Gweithredu i ddatrys gwrthdaro mewn timau a rhwng timau a’i gilydd.

3  Cyswllt a rhwydweithio

Arwain a datblygu rhwydweithiau mewnol er enghraifft cadeirio a chyfranogi mewn pwyllgorau Sefydliadol.

Arwain a datblygu rhwydweithiau allanol er enghraifft gydag ymchwilwyr gweithgar a meddylwyr blaenllaw eraill yn y maes.

Datblygu cysylltiadau â chyrff allanol megis cyrff addysgol ac ymchwil, cyflogwyr, cyrff proffesiynol a darparwyr cyllid a mentrau ymchwil eraill i feithrin cydweithio a chreu incwm.

4  Darparu gwasanaeth

Ceisio cyllid ymchwil yn weithredol a’i sicrhau cyhyd â bod yn rhesymol bosibl.

Sicrhau fod prosiectau ymchwil yn cael eu cynllunio i gwrdd â gofynion cyllidwyr.

Cyfrannu at reoli asesiadau ansawdd, archwilio ac asesiadau allanol eraill e.e. yr Ymarfer Asesu Ymchwil.

5  Cyfleoedd a phroblemau penderfynu

Gwneud penderfyniadau ynglŷn ag agweddau gweithrediadol eich rhaglen ymchwil eich hun.

Cyfrannu at benderfyniadau sydd ag effaith ar raglenni cysylltiedig eraill.

Darparu cyngor ar faterion megis sicrhau cydbwysedd priodol prosiectau ymchwil, penodi ymchwilwyr a materion perfformiad eraill.

6  Cynllunio a threfnu adnoddau

Cyfrannu at ddatblygu strategaethau ymchwil yn yr adran.

Cyfrifol am gyflenwi eich rhaglenni ymchwil eich hun.

Cyfrannu at reolaeth gyffredinol yr adran mewn meysydd megis rheoli cyllideb a chynllunio busnes.

Chwarae rhan yng nghynllunio strategol yr adran a chyfrannu at brosesau cynllunio strategol y Sefydliad.

Cynllunio a chyflenwi ymchwil, ymgynghoriaeth neu raglenni tebyg, gan sicrhau fod adnoddau ar gael a bod y lefelau incwm priodol yn cael eu sicrhau.

7  Menter a datrys problemau

Adolygu a syntheseiddio canlyniadau astudiaethau ymchwil.

Datrys problemau sy’n effeithio ar gyflenwi prosiectau ymchwil o fewn eich maes eich hun ac yn unol â’r rheoliadau.

Canfod cyfleoedd ar gyfer datblygu prosiectau newydd neu feysydd priodol o weithgaredd yn strategol a chyfrannu at ddatblygu syniadau o’r fath.

8  Dadansoddi ac ymchwil

Diffinio amcanion a chwestiynau ymchwil.

 

Datblygu cynigion ar gyfer prosiectau ymchwil a fydd yn cael effaith sylweddol drwy arwain at gynnydd mewn gwybodaeth a dealltwriaeth a darganfod neu ddatblygu esboniadau, mewnwelediadau, cysyniadau neu brosesau newydd.

Gweithredu fel prif ymchwilydd ar brosiectau ymchwil pwysig.

Creu ymagweddau ymchwil newydd a chanfod, addasu, datblygu a defnyddio methodolegau a thechnegau ymchwil sy’n briodol i’r math o ymchwil.

Dadansoddi canfyddiadau a geir o brosiectau ymchwil a datblygu mewnwelediadau newydd, gan ehangu, mireinio a phrofi damcaniaethau a syniadau.

Cyfrannu’n gyffredinol at ddatblygu meddylfryd ac arferion yn y maes.

9  Gofynion synhwyraidd a chorfforol

Bydd gofynion synhwyraidd a chorfforol yn amrywio o lefel gymharol ysgafn i lefel uchel gan ddibynnu ar y ddisgyblaeth a’r math o waith.

Cyflawni tasgau y mae angen dysgu sgiliau penodol ar eu cyfer.

10  Amgylchedd gwaith

Gan ddibynnu ar y maes gwaith (e.e. labordai, gweithdai, stiwdios) gellid disgwyl cymryd cyfrifoldeb am gynnal asesiadau risg a lleihau peryglon.

11  Gofal a lles bugeiliol

Cyfrifol am ymdrin â materion a gyfeiriwyd at ymchwilwyr o fewn eich meysydd prosiect eich hun.

Darparu cymorth llinell gyntaf i gydweithwyr, gan eu cyfeirio at ffynonellau cymorth pellach os oes angen. 

12  Datblygu tîm

Cyfrannu at ddatblygu timau ac unigolion drwy’r system arfarnu a darparu cyngor ar ddatblygiad personol.

Gweithredu fel mentor personol i gymheiriaid a chydweithwyr.

13  Cefnogaeth addysgu a dysgu  

Goruchwylio gwaith myfyrwyr uwchraddedig.

Gellid disgwyl cyfraniad at raglenni addysgu.

14  Gwybodaeth a phrofiad

Gofyn bod yn awdurdod a gydnabyddir yn genedlaethol yn y maes pwnc.

Dealltwriaeth ddofn o’ch arbenigedd eich hun er mwyn galluogi datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth newydd yn y maes.

Addysgu ac Ysgoloriaeth

Addysgu Ac Ysgoloriaeth 1 (Gradd 6)

DIBEN Y SWYDD

Cynorthwyo staff academaidd wrth ddarparu cefnogaeth dysgu ac addysgu i fyfyrwyr. 

PRIF DDYLETSWYDDAU

  1. Dysgu o fewn fframwaith eglur
  2. Datblygu deunyddiau dysgu addas
  3. Gosod a marcio aseiniadau
  4. Cynllunio eich gwaith eich hun o fewn cyfyngiadau’r cwrs a’r tîm
  5. Darparu adborth i fyfyrwyr ar eu cynnydd

GWEITHGAREDDAU

ENGHREIFFTIAU O OFYNION Y SWYDD  

1 Cyfathrebu

Ymdrin â chyfathrebu rheolaidd gan ddefnyddio cyfrwng safonol.

 

Cyflwyno gwybodaeth a syniadau i fyfyrwyr.

 

Ysgrifennu taflenni a deunyddiau sylfaenol eraill i gynorthwyo dysgu.

 

Cyfathrebu, o bryd i’w gilydd, wybodaeth gymhleth ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn electronig.

 

2 Gwaith tîm a chymhelliant

Cyfrannu’n weithredol fel aelod o dîm addysgu.

 

Mynychu a chyfrannu at gyfarfodydd perthnasol.

3 Cyswllt a rhwydweithio

Ymgynghori â chydweithwyr a staff cefnogi er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i’r bobl briodol mewn digon o amser.

 

Ymuno â rhwydwaith mewnol priodol.

 

4 Darparu Gwasanaeth

Datblygu deunyddiau addysgu a dull o gyflwyno sy’n ateb anghenion y myfyrwyr.

5 Prosesau a Chanlyniadau 

Penderfynu

Cyfrannu at benderfyniadau sy’n effeithio ar waith y tîm.

6 Cynllunio a threfnu adnoddau

Rheoli, gyda chyfarwyddyd, eich gweithgareddau addysgu personol.

 

Cynllunio gweithgaredd dydd i ddydd o fewn fframwaith y rhaglen sydd wedi ei chytuno.

 

Cydlynu eich gwaith eich hun â gwaith eraill er mwyn osgoi gwrthdaro neu ddyblygu.

 

Cyfrannu at gynllunio rhaglenni dysgu.

 

7 Blaengaredd a datrys problemau

Ymdrin â phroblemau a allai effeithio ar eich dull o addysgu.

 

 Efallai y bydd angen ichi ddatblygu barn wrth gymhwyso agweddau priodol o gefnogaeth dysgu ac addysgu a  gweithgaredd ysgolheigaidd.

 

8 Ymchwil a dadansoddi

Cynnal cofnodion myfyrwyr.

 

 Chwilio am lenyddiaeth a chronfeydd data i ddatblygu adnoddau a thechnegau dysgu.

 

9 Gofynion synhwyraidd a chorfforol

Mae gofynion synhwyraidd a chorfforol yn amrywio o lefel ysgafn i uchel gan ddibynnu ar y ddisgyblaeth a natur y gwaith a wneir.

 

10 Amgylchedd gwaith

Dylid bod yn ymwybodol o’r peryglon yn y gweithle.

11 Gofal bugeiliol a lles

I ystyried eraill.

12 Datblygu tîm

Cefnogi aelodau newydd o’r tîm a rhannu gwybodaeth o fewn y tîm.

 

13 Cefnogi dysgu ac addysgu

 

Addysgu o fewn fframwaith eglur a rhaglen sydd wedi’i sefydlu, gyda chymorth a chefnogaeth.

 

 Datblygu eich deunyddiau dysgu eich hun, gyda chymorth a chefnogaeth.

 

 Gosod a marcio aseiniadau.

 

 Cyfrannu at ddatblygu cwestiynau arholiad.

 

 Asesu cynnydd myfyrwyr a rhoi adborth.

 

14 Gwybodaeth a phrofiad

Ystyried arfer da a datblygu eich sgiliau addysgu a dysgu.

 

 Meddu ar ehangder digonol o wybodaeth arbenigol o fewn y ddisgyblaeth a dulliau a thechnegau dysgu i weithio o fewn eich maes. 

 

Addysgu Ac Ysgoloriaeth 2 (Gradd 7)

Diben y swydd

Addysgu fel aelod o dîm dysgu ar raglen astudio sydd wedi’i sefydlu. 

PRIF DDYLETSWYDDAU

1 Cydweithio â chydweithwyr academaidd ar ddatblygu modiwl a newidiadau i’r cwricwlwm. 

2 Adnabod anghenion dysgu myfyrwyr ac addysgu’n briodol i gyrraedd y gofynion.

3 Datblygu deunyddiau dysgu addas, gan ddefnyddio dulliau ac agweddau priodol.

4 Cynllunio a rheoli eich gwaith dysgu a thasgau ysgolheigaidd a gweinyddol. 

5 Darparu asesiad a goruchwylio’n briodol waith myfyrwyr a darparu adborth adeiladol.

 

GWEITHGAREDDAU

ENGHREIFFTIAU O OFYNION Y SWYDD  

1 Cyfathrebu       

Ymdrin â chyfathrebu rheolaidd gan ddefnyddio ystod o gyfryngau.

 

Cyflwyno gwybodaeth gymhleth ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn electronig.

 

Paratoi cynigiadau a cheisiadau i gyrff allanol, e.e. am resymau ariannu ac achredu.

 

Cyflwyno deunydd o natur arbenigol neu dechnegol gymhleth.

 

2 Gwaith tîm a chymhelliant

Cydweithio â chydweithwyr academaidd ar ddatblygiad cwrs a newidiadau cwricwlaidd.

 

 Mynychu a chyfrannu at gyfarfodydd grŵp pynciol.

 

3 Cyswllt a rhwydweithio

Cysylltu â chydweithwyr a myfyrwyr.

 

Creu cysylltiadau mewnol a chymryd rhan mewn rhwydweithiau mewnol er mwyn cyfnewid gwybodaeth a chreu perthynas i  weithio ar y cyd yn y dyfodol.

 

Ymuno â rhwydweithiau allanol i rannu gwybodaeth a syniadau.

 

4 Darparu Gwasanaeth

Clustnodi anghenion dysgu myfyrwyr a diffinio amcanion dysgu priodol.

 

 Cydweithio â chydweithwyr i glustnodi ac ymateb i anghenion myfyrwyr.  

 

5 Prosesau a Chanlyniadau 

Penderfynu

Rhannu cyfrifoldeb wrth benderfynu ar sut i gyflwyno modiwlau ac asesu myfyrwyr.

 

 Cyfrannu at benderfyniadau cydweithredol â chydweithwyr ar gynnwys academaidd, ac ar asesu gwaith myfyrwyr.

 

6 Cynllunio a threfnu adnoddau

Cytuno ar gyfrifoldebau.

 

Rheoli eich gweithgareddau addysgu, ysgolheigaidd a gweinyddol eich hun, gyda chyfarwyddyd os oes angen.

 

Efallai y disgwylir i chi oruchwylio prosiectau, gwaith maes a lleoliadau myfyrwyr.

 

Defnyddio adnoddau a chyfleusterau addysgu yn ôl yr angen.

 

Cynllunio a rheoli eich gwaith addysgu a gwersi tiwtorial fel a gytunwyd gyda’ch mentor.

 

7 Blaengaredd a datrys problemau

Datblygu blaengaredd, creadigrwydd a barn wrth gymhwyso agweddau priodol o gefnogaeth dysgu ac addysgu a gweithgareddau ysgolheigaidd.

 

Ymateb i heriau pedagogaidd ac ymarferol.

 

8 Ymchwil a dadansoddi

Cynnal cofnodion myfyrwyr.

 

Chwilio am lenyddiaeth a chronfeydd data i ddatblygu adnoddau a thechnegau dysgu.

 

9 Gofynion synhwyraidd a chorfforol

Bydd gofynion synhwyraidd a chorfforol yn amrywio o lefel ysgafn i uchel gan ddibynnu ar y ddisgyblaeth a natur y gwaith, a bydd yn cynnwys tasgau y mae angen dysgu sgiliau penodol i’w cyflawni.

 

 Cydbwyso gyda chymorth y pwysau amrywiol a ddaw o gyfeiriad ysgolheictod, addysgu a gofynion gweinyddol gan gynnwys terfynau amser.

10 Amgylchedd gwaith

Dylid bod yn ymwybodol o’r peryglon yn y gweithle a’r effaith posibl ar eich gwaith eich hun ac eraill.

 

11 Gofal bugeiliol a lles

Defnyddio sgiliau gwrando, rhyngbersonol a bugeiliol i ymdrin â materion sensitif yn ymwneud â myfyrwyr ac i roi cefnogaeth.

 

 Deall anghenion myfyrwyr unigol a’u sefyllfa.

 

 Gweithredu fel tiwtor personol, gan roi cefnogaeth rheng-flaen.

 

 Cyfeirio myfyrwyr yn ôl yr angen at wasanaethau sy’n cynnig cymorth pellach.

 

12 Datblygu tîm

Darparu sesiynau cynefino a chynnig cefnogaeth i aelodau newydd o’r tîm.

 

13 Cefnogi dysgu ac addysgu

Addysgu fel aelod o dîm dysgu mewn swyddogaeth ddatblygol o fewn rhaglen astudio sydd wedi’i sefydlu, gyda chymorth mentor os oes angen.

 

Addysgu mewn swyddogaeth ddatblygol mewn ystod o sefyllfaoedd o grwpiau tiwtorial bychain i ddarlithoedd mawr.

 

Trosglwyddo gwybodaeth ar ffurf sgiliau, dulliau a thechnegau ymarferol. 

 

Sicrhau bod cynnwys, dulliau cyflwyno a deunyddiau dysgu yn cyrraedd yr amcanion dysgu a ddiffiniwyd.

 

Datblygu eich deunyddiau dysgu, dulliau ac arddull eich hun gyda chymorth .

 

Datblygu’r sgiliau o gyflwyno agweddau perthnasol i ddysgu.

 

Herio meddylfryd, meithrin trafodaeth a datblygu gallu myfyrwyr i ymgymryd â thrafodaeth feirniadol a mynegi barn rhesymegol.

 

Goruchwylio gwaith myfyrwyr, darparu cyngor ar sgiliau astudio a’u cynorthwyo â’u problemau dysgu.

 

Dewis dulliau a meini prawf addas i asesu gwaith a chynnydd y myfyrwyr drwy gyfeirio at y meini prawf a darparu adborth adeiladol i fyfyrwyr. 

 

Ystyried ffyrdd o wella perfformiad drwy adlewyrchu ar y modd y cynlluniwyd y dysgu a derbyn adborth a’i ddadansoddi.

 

14 Gwybodaeth a phrofiad

Ystyried arfer a datblygiad eich sgiliau addysgu a dysgu.

 

Meddu ar ehangder digonol o wybodaeth arbenigol o fewn y ddisgyblaeth a dulliau a thechnegau dysgu i weithio o fewn eich maes.

 

Ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus.

 

Y gallu i gynnal diddordeb a brwdfrydedd myfyrwyr â’u hysbrydoli i ddysgu.

 

Deall egwyddorion cyfle cyfartal oherwydd gallant effeithio ar gynnwys academaidd a materion yn ymwneud ag anghenion myfyrwyr.

Addysgu ac Ysgoloriaeth - Lefel 3 (Gradd 8)

PWRPAS Y RÔL 

Ymgymryd ag addysgu ac ymchwil a chyfrannu at weithrediad yr adran, ysgol a / neu sefydliad. 

PRIF DDYLETSWYDDAU 

1 Addysgu, cefnogi ac asesu myfyrwyr 

2 Arwain modiwlau a chydlynu gwaith staff sy’n cyfrannu at gyflenwi’r modiwlau hyn  

3 Cynnal ymchwil o fewn maes pwnc 

4 Sicrhau fod modiwlau ac asesu yn cael eu cyflenwi ar amser ac mewn pryd o fewn fframwaith y cwrs neu’r cyrsiau gradd cyffredinol 

5 Canfod ffyrdd o wella a chryfhau’r modiwlau a phrofiad dysgu’r myfyrwyr  

GWEITHGAREDD 

ENGHREIFFTIAU O OFYNION Y RÔL 

1 Cyfathrebu 

Ysgrifennu neu gyfrannu at gyhoeddiadau neu rannu canfyddiadau ymchwil gan ddefnyddio cyfryngau addas eraill. 

Gwneud cyflwyniadau mewn cynadleddau neu arddangos gwaith mewn digwyddiadau addas eraill. 

Cyfathrebu syniadau cymhleth a chysyniadol yn rheolaidd i’r rheini sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth gyfyngedig yn ogystal ag i gymheiriaid gan ddefnyddio lefel uchel o sgiliau ac ystod o gyfryngau. 

2  Gwaith tîm a chymhelliant 

Gan ddibynnu ar y maes gwaith gellid disgwyl goruchwylio gwaith pobl eraill, er enghraifft mewn timau neu brosiectau ymchwil. 

Gweithredu fel aelod cyfrifol o’r tîm a datblygu perthnasoedd gwaith cynhyrchiol gydag aelodau eraill o staff. 

Gallai fod yn ofynnol i arwain prosiect lleol. 

3  Cyswllt a rhwydweithio 

Cyfranogi mewn rhwydweithiau allanol a’u datblygu, er enghraifft er mwyn canfod ffynonellau cyllido, cyfrannu at recriwtio myfyrwyr, sicrhau lleoliadau myfyrwyr, marchnata’r sefydliad, hwyluso gwaith ymestynnol, creu incwm, sicrhau prosiectau ymgynghori, neu adeiladu perthnasoedd ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol. 

4  Darparu gwasanaeth 

Canfod meysydd lle mae angen adolygu neu wella’r ddarpariaeth gyfredol. 

Cydweithio â chydweithwyr i adnabod ac ymateb i anghenion myfyrwyr. 

Cyfrannu at achrediad cyrsiau a phrosesau sicrhau ansawdd. 

5  Cyfleoedd a phroblemau penderfynu 

Cyfrifoldeb unigol am gynllunio a chyflenwi eich modiwlau a’ch dulliau asesu eich hun. 

Cydweithio â chydweithwyr ar weithredu gweithdrefnau asesu. 

Cynghori eraill ar faterion strategol megis recriwtio myfyrwyr a marchnata. 

6  Cynllunio a threfnu adnoddau 

Cyfrannu at gynllunio, dylunio a datblygu amcanion a deunydd. 

Fel arweinydd modiwl neu diwtor, cydlynu ag eraill (megis staff atodol neu gydweithwyr academaidd) i sicrhau fod anghenion a disgwyliadau myfyrwyr yn cael eu diwallu. 

Rheoli prosiectau yn ymwneud â’ch maes gwaith eich hun. 

7  Menter a datrys problemau 

Adnabod yr angen i ddatblygu cynnwys neu strwythur modiwlau gyda chydweithwyr a gwneud awgrymiadau ynglŷn â sut y dylid cyflawni hyn. 

Datblygu syniadau ar gyfer creu incwm a hyrwyddo’r pwnc. 

Canfod ffynonellau cyllid a chyfrannu at y broses o sicrhau cyllid. 

Datblygu syniadau ar gyfer rhannu a chymhwyso canlyniadau ysgolheictod ac ymchwil. 

8  Dadansoddi ac ymchwil 

Datblygu amcanion, prosiectau a chynigion ymchwil. 

Defnyddio dulliau cydnabyddedig, adnabod a dehongli tueddiadau neu batrymau data; gwneud casgliadau ac adrodd canfyddiadau gan ddefnyddio cyfryngau priodol. 

9  Gofynion synhwyraidd a chorfforol 

Bydd gofynion synhwyraidd a chorfforol yn amrywio o lefel gymharol ysgafn i lefel uchel gan ddibynnu ar y ddisgyblaeth a’r math o waith a bydd yn cynnwys cyflawni 

 

tasgau y mae angen dysgu sgiliau penodol ar eu cyfer. 

10  Amgylchedd gwaith 

Cydbwyso'r gwasgeddau sy’n deillio o ofynion addysgu, ymchwil a gweinyddiaeth a therfynau amser cystadleuol. 

Gan ddibynnu ar y maes gwaith a’r lefel o hyfforddiant a dderbyniwyd, gellid disgwyl cynnal asesiad risg a chymryd cyfrifoldeb am iechyd a diogelwch pobl eraill. 

11  Gofal a lles bugeiliol 

Bod yn gyfrifol am ofal bugeiliol myfyrwyr o fewn maes penodol. 

12  Datblygu tîm 

Mentora cydweithwyr llai profiadol a chynghori ar ddatblygiad personol 

13  Cefnogaeth addysgu a dysgu   

Cynllunio deunydd addysgu a chyflenwi naill ai ar draws ystod o fodiwlau neu o fewn maes pwnc. 

Defnyddio dulliau addysgu, cefnogaeth dysgu ac asesu priodol. 

Goruchwylio prosiectau myfyrwyr, teithiau maes a, lle bo’n briodol, lleoliadau myfyrwyr. 

Gosod, marcio ac asesu gwaith ac arholiadau a rhoi adborth i fyfyrwyr. 

Gallai fod yn ofynnol i weithredu fel tiwtor modiwl. 

14  Gwybodaeth a phrofiad 

Estyn, trawsnewid a chymhwyso gwybodaeth a enillir drwy ysgolheictod i addysgu, ymchwil a gweithgareddau allanol priodol. 

Meddu ar ehangder neu ddyfnder digonol o wybodaeth arbenigol yn y ddisgyblaeth i ddatblygu rhaglenni addysgu ac ymchwil. 

Defnyddio ystod o dechnegau cyflenwi i annog ac ysgogi myfyrwyr. 

Addysgu Ac Ysgoloriaeth 4 (Gradd 9)

DIBEN Y SWYDD

Arwain a datblygu addysgu a gweithgareddau ysgolheigaidd o fewn maes eich arbenigedd.

GWEITHGAREDDAU

ENGHREIFFTIAU O OFYNION Y SWYDD  

1 Cyfathrebu

Rhannu syniadau cymhleth a chysyniadol â chynulleidfa eang drwy ddefnyddio cyfryngau a dulliau addas i hwyluso dealltwriaeth

2 Gwaith tîm a chymhelliant

Gweithio mewn cyswllt ag eraill i gymhwyso gwybodaeth am bwnc i’r modd y’i cyflwynir.

 

Cynnig arweiniad academaidd i’r rhai sy’n gweithio o fewn maes rhaglenni, megis arweinydd cwrs neu swyddogaeth debyg, drwy gytuno, er enghraifft, ar gynlluniau gwaith i sicrhau bod cyrsiau’n cael eu cyflwyno’n effeithiol, neu drefnu gwaith y tîm drwy gytuno ar amcanion a chynlluniau gwaith.

Arwain timau o fewn maes eich cyfrifoldeb.

Sicrhau bod timau o fewn yr adran yn cydweithio.

Ymyrryd i ddatrys gwrthdaro o fewn a rhwng timau.

3 Cyswllt a rhwydweithio

Arwain a datblygu rhwydweithiau mewnol, er enghraifft drwy gadeirio a chymryd rhan mewn pwyllgor sefydliadol.

 

 Gweithredu fel arholwr allanol i sefydliadau eraill a rhoi cyngor proffesiynol.

 

 Arwain a datblygu rhwydweithiau allanol, er enghraifft gydag arholwyr ac aseswyr allanol.

 

 Datblygu dolenni cyswllt â chysylltiadau allanol, megis cyrff addysgol eraill, cyflogwyr, a chyrff proffesiynol i feithrin cydweithredu.

 

4 Darparu Gwasanaeth 

Arolygu cynnwys a deunyddiau cwrs yn rheolaidd, gan ddiweddaru yn ôl yr angen.

 

 Bod yn gyfrifol am osod safonau a monitro cynnydd yn unol â’r meini prawf a gytunwyd o fewn maes eich cyfrifoldeb.

 

Bod yn gyfrifol am ansawdd, archwilio ac asesiadau allanol eraill o fewn eich cylch cyfrifoldeb.

 

5 Prosesau a Chanlyniadau

 Penderfynu

 

Gwneud penderfyniadau ynglŷn ag agweddau gweithredol eich rhaglen addysgol.

 

 Cyfrannu at benderfyniadau sy’n effeithio ar raglenni perthynol eraill. 

 Cynghori ar faterion megis sicrhau’r cydbwysedd priodol o ran niferoedd myfyrwyr, apwyntiadau a materion myfyrwyr a pherfformiad eraill.

 

6 Cynllunio a threfnu adnoddau

Yn gyfrifol am gyflwyno eich rhaglenni addysgol eich hun.

Cyfrannu at reolaeth cyffredinol yr adran mewn meysydd megis rheoli adnoddau, busnes a chynllunio rhaglenni.

Cymryd rhan mewn cynllunio strategol ar lefel adrannol a chyfrannu at brosesau cynllunio’r Sefydliad.

Cynllunio a darparu gwasanaeth ymgynghori neu raglenni  cyffelyb a sicrhau bod adnoddau ar gael.

 

7  Blaengaredd a datrys problemau

Datrys problemau sy’n effeithio ar ansawdd cyflwyno cyrsiau a chynnydd myfyrwyr o fewn maes eich cyfrifoldeb, gan gyfeirio materion mwy difrifol at eraill, fel sy’n briodol.

 

 Datrys problemau sy’n effeithio ar gyflwyno cyrsiau o fewn eich rhaglen addysgol ac yn unol â chanllawiau.

 

 Darganfod cyfleoedd i ddatblygu cyrsiau newydd neu feysydd gweithgaredd addas yn strategol a chyfrannu at ddatblygiad syniadau o’r fath.

 

8 Ymchwil a dadansoddi

Ymgymryd ag ymchwil pedagogaidd fel ymarferydd a gweithgareddau ysgolheigaidd eraill.

Monitro cynnydd a’r modd y cedwir myfyrwyr.

 

9 Gofynion synhwyraidd a chorfforol

Cydbwyso pwysau addysgu a gofynion gweinyddol a therfynau amser tynn.

10 Amgylchedd gwaith

Yn ddibynnol ar leoliad eich gwaith (e.e. labordai, gweithdai, stiwdio) efallai bydd disgwyl i chi gymryd cyfrifoldeb dros wneud asesiadau risg a lleihau peryglon.

11 Gofal bugeiliol a lles

Yn gyfrifol am ymdrin â materion sydd wedi eu cyfeirio atoch yn ymwneud â myfyrwyr ar eich rhaglen addysgol.

Darparu cymorth rheng-flaen i gydweithwyr gan eu cyfeirio at ffynonellau cymorth pellach os oes angen.

12 Datblygu tîm

Cyfrannu at ddatblygiad timoedd ac unigolion drwy’r system arfarnu a rhoi cyngor yn ymwneud â datblygu proffesiynol.

Gweithredu fel mentor personol i gyfoedion a chydweithwyr. 

13 Cefnogi dysgu ac addysgu

Cynllunio, datblygu a chyflwyno ystod o raglenni astudio (weithiau ar gyfer cyrsiau hollol newydd) ar lefelau amrywiol.

Datblygu a chymhwyso technegau addysgu blaengar ac addas a deunydd a fydd yn ennyn diddordeb, dealltwriaeth a brwdfrydedd ymysg myfyrwyr.

Sicrhau fod cynllun y cwrs a’r modd y’i cyflwynir yn cydymffurfio â chanllawiau’r brifysgol a’r adran.

Cyfrannu at ddatblygu strategaethau dysgu ac addysgu

14 Gwybodaeth a phrofiad

Y rheidrwydd i gael eich adnabod yn allanol fel athro neu ysgolhaig cydnabyddedig.

Dealltwriaeth ddofn o’ch arbenigedd er mwyn caniatáu datblygu gwybodaeth newydd a dealltwriaeth o fewn y maes.

 

PRIF DDYLETSWYDDAU

 

1 Cynllunio, datblygu a chyflwyno ystod o gyrsiau (rhai yn newydd) ar nifer o lefelau

 

2 Datblygu a chymhwyso technegau addysgu newydd ac addas

 

3 Cyfrifoldeb am ansawdd, archwilio ac asesiadau allanol eraill o fewn eich cyrsiau eich hun

 

4 Gweithredu fel arweinydd academaidd i’r sawl sy’n gweithio o fewn meysydd eich rhaglenni 

 

5 Cymryd rhan mewn ymchwil pedagogaidd ac ysgolheigaidd

 

6 Cyfrifoldeb am ymdrin â materion gofal bugeiliol i fyfyrwyr a chydweithwyr o fewn eich maes

 

Addysgu ac Ymchwil

Addysgu Ac Ymchwil 2 (Gradd 7)

PWRPAS Y RÔL 

Darparu cefnogaeth addysgu a dysgu i fyfyrwyr ac ymgymryd â pheth gwaith ymchwil. 

PRIF DDYLETSWYDDAU 

1 Addysgu, hyfforddi, goruchwylio ac asesu cynnydd myfyrwyr

2 Cefnogi a chynorthwyo myfyrwyr fel bo’r angen ac addasu’r cyflenwi i adlewyrchu anghenion myfyrwyr 

3 Paratoi deunydd cwrs a deunydd addysgu arall i gefnogi anghenion myfyrwyr

4  Cyfrannu at ddatblygu cyrsiau a’r pwnc 

5 Cynnal ymchwil o fewn maes pwnc 

GWEITHGAREDD

ENGHREIFFTIAU O OFYNION Y RÔL

1 Cyfathrebu

Cofnodi gwaith ymchwil i’w gyhoeddi.

Ymdrin â chyfathrebu rheolaidd gan ddefnyddio ystod o gyfryngau.

Cyfathrebu gwybodaeth gymhleth ar lafar, yn ysgrifenedig neu’n electronig.

Paratoi cynigion a cheisiadau i gyrff allanol e.e. i bwrpasau cyllido ac achredu. 

Cyfathrebu deunydd o natur arbenigol neu dra thechnegol.

2  Gwaith tîm a chymhelliant

Cytuno ar gyfrifoldebau.

Gellid disgwyl goruchwylio myfyrwyr uwchraddedig.

Cydweithio gyda chydweithwyr academaidd ar ddatblygu cyrsiau a newidiadau cwricwlaidd.

Mynychu cyfarfodydd grŵp pwnc a chyfrannu ynddynt.

Gweithio gyda chydweithwyr i ganfod anghenion myfyrwyr ac ymateb iddynt.

3  Cyswllt a rhwydweithio

Cysylltu â chydweithwyr a myfyrwyr.

Adeiladu cysylltiadau mewnol a chyfranogi mewn rhwydweithiau mewnol ar gyfer rhannu gwybodaeth a chreu perthnasoedd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.

Ymuno â rhwydweithiau allanol i rannu gwybodaeth a syniadau.

4  Darparu gwasanaeth

Canfod anghenion dysgu myfyrwyr a diffinio amcanion dysgu priodol.

Ceisio ffyrdd o wella perfformiad drwy roi ystyriaeth i gynllunio a chyflenwi addysgu a sicrhau a dadansoddi adborth.

5  Cyfleoedd a phroblemau penderfynu

Rhannu cyfrifoldeb wrth benderfynu sut i gyflenwi modiwlau ac asesu myfyrwyr.

Cyfrannu at benderfyniadau cydweithredol â chydweithwyr ar gynnwys academaidd ac asesu gwaith myfyrwyr.

6  Cynllunio a threfnu adnoddau

Rheoli eich gweithgareddau addysgu, ymchwil a gweinyddu eich hun gydag arweiniad os oes angen.

Defnyddio adnoddau, labordai a gweithdai addysgu ac ymchwil fel bo’n briodol.

Cynllunio a rheoli eich addysgu a’ch tiwtorialau fel y cytunwyd â mentor.

7  Menter a datrys problemau

Datblygu menter, creadigrwydd a barn wrth gymhwyso ymagweddau priodol at gefnogaeth addysgu a dysgu a gweithgaredd ymchwil.

8  Dadansoddi ac ymchwil

Datblygu amcanion a chynigion ar gyfer eich ymchwil eich hun neu ymchwil cydweithredol.

Cynnal prosiectau ymchwil unigol a chydweithredol.

Ymateb i heriau pedagogaidd ac ymarferol.

9  Gofynion synhwyraidd a chorfforol

Bydd gofynion synhwyraidd a chorfforol yn amrywio o lefel gymharol ysgafn i lefel uchel gan ddibynnu ar y ddisgyblaeth a’r math o waith a bydd yn cynnwys cyflawni tasgau y mae angen dysgu sgiliau penodol ar eu cyfer.  

10  Amgylchedd gwaith

Gyda chymorth, cydbwyso'r gwasgeddau cystadleuol sy’n deillio o ofynion addysgu, ysgolheictod, ymchwil a gweinyddiaeth a therfynau amser.

Angen bod yn ymwybodol o’r risgiau yn yr amgylchedd gwaith a’u heffaith bosibl ar eich gwaith chi a gwaith eraill.

11  Gofal a lles bugeiliol

Defnyddio sgiliau gwrando, rhyngbersonol a bugeiliol i ymdrin â materion sensitif yn ymwneud â myfyrwyr a darparu cymorth.

Gwerthfawrogi anghenion myfyrwyr unigol a’u hamgylchiadau.

Gweithredu fel tiwtor personol, gan roi cymorth llinell gyntaf.

12  Datblygu tîm

Sefydlu aelodau newydd o’r tîm a rhoi cynhaliaeth iddynt.

13  Cefnogaeth addysgu a dysgu  

Addysgu fel aelod o dîm addysgu mewn rôl ddatblygol o fewn rhaglen astudio sefydledig, gyda chymorth mentor os oes angen.

Addysgu mewn rôl ddatblygol mewn amrywiaeth o amgylchiadau o grwpiau tiwtorial bach i ddarlithoedd mawr.

Trosglwyddo gwybodaeth ar ffurf sgiliau, dulliau a thechnegau ymarferol.

Sicrhau fod cynnwys, dulliau cyflenwi a deunydd dysgu yn cwrdd â’r amcanion dysgu diffiniedig.

Datblygu eich deunyddiau, dulliau ac ymagweddau addysgu eich hun gydag arweiniad.

Datblygu’r sgiliau o gymhwyso ymagweddau addysgu priodol.

Herio meddylfryd, meithrin trafodaeth a datblygu gallu myfyrwyr i gyfranogi mewn trafodaeth feirniadol a meddwl rhesymegol.

Goruchwylio gwaith myfyrwyr, darparu cyngor ar sgiliau astudio a’u helpu â phroblemau dysgu.

Dethol offerynnau a meini prawf asesu priodol, asesu gwaith a chynnydd myfyrwyr drwy gyfeirio at y meini prawf a darparu adborth adeiladol i fyfyrwyr.

Gweithredu fel mentor i fyfyrwyr drwy fod yn diwtor personol.

Gallu ennyn diddordeb a brwdfrydedd myfyrwyr a’u hysbrydoli i ddysgu.

14  Gwybodaeth a phrofiad

Diweddaru gwybodaeth a dealltwriaeth yn y maes neu’r arbenigedd yn barhaus.

Trosi gwybodaeth am ddatblygiadau yn y maes pwnc yn gwrs astudio.

Meddu ar ehangder neu ddyfnder digonol o wybodaeth arbenigol yn y ddisgyblaeth i weithio o fewn rhaglenni addysgu ac ymchwil sefydledig.

Ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus.

Datblygu cynefindra ag amrywiaeth o strategaethau i hyrwyddo ac asesu dysgu.

Deall cyfle cyfartal o ran cynnwys academaidd a materion yn ymwneud ag anghenion myfyrwyr.

Addysgu Ac Ymchwil 3 (Gradd 8)

Addysgu Ac Ymchwil 4 (Gradd 9)

PWRPAS Y RÔL

Cymryd cyfrifoldeb am gynllunio a chyflenwi modiwlau cwrs ac arwain ymchwil yn eich maes pwnc eich hun. 

PRIF DDYLETSWYDDAU

1 Darparu arweiniad i staff ac ymchwilwyr o fewn maes pwnc a chefnogi eu datblygiad 

2 Adolygu’r cwricwlwm a dulliau cyflenwi i sicrhau cyflawni amcanion y cwrs a disgwyliadau myfyrwyr 

3 Addysgu ac asesu myfyrwyr a darparu cefnogaeth fugeiliol 

4 Canfod cyfleoedd ar gyfer cynigion ymchwil a chreu incwm a pharatoi ceisiadau 

5  Arwain prosiectau ymchwil o fewn maes pwnc 

 

GWEITHGAREDD

ENGHREIFFTIAU O OFYNION Y RÔL

1 Cyfathrebu

Gwneud cyflwyniadau neu arddangosfeydd mewn cynadleddau cenedlaethol neu ryngwladol a digwyddiadau tebyg eraill.

Rhannu syniadau cysyniadol a chymhleth ag ystod eang o gynulleidfaoedd gan ddefnyddio cyfryngau a dulliau addas i hybu dealltwriaeth.

2  Gwaith tîm a chymhelliant

Darparu arweiniad academaidd i’r rheini sy’n gweithio yn y meysydd rhaglen, fel arweinydd cwrs neu gyfatebol, er enghraifft drwy gydlynu gwaith pobl eraill i sicrhau fod cyrsiau’n cael eu cyflenwi’n effeithiol neu drefnu gwaith tîm drwy gytuno ar amcanion a chynlluniau gwaith.

Gallai weithredu fel rheolwr llinell (ee ar gyfer timau ymchwil)*

Sicrhau fod timau o fewn yr adran yn gweithio gyda’i gilydd.

Gweithredu i ddatrys gwrthdaro mewn timau a rhwng timau a’i gilydd. 

3  Cyswllt a rhwydweithio

Arwain a datblygu rhwydweithiau mewnol er enghraifft cadeirio a chyfranogi mewn pwyllgorau Sefydliadol.

Arwain a datblygu rhwydweithiau allanol er enghraifft gydag arholwyr ac aseswyr allanol.

Datblygu cysylltiadau â chyrff allanol megis cyrff addysgol eraill, cyflogwyr a chyrff proffesiynol i feithrin cydweithio.

4  Darparu gwasanaeth

Adolygu cynnwys a deunydd y cwrs yn rheolaidd, a’u diweddaru fel bo angen.

Sicrhau fod cynllun y cwrs a’i gyflenwi yn cydymffurfio â’r safonau ansawdd a rheoliadau’r brifysgol a’r adran.

Gweld cyfleoedd ar gyfer datblygu cyrsiau newydd neu feysydd addas o weithgaredd yn strategol a chyfrannu at ddatblygu syniadau o’r fath.

Cyfrannu at reoli asesiadau ansawdd, archwilio ac asesiadau allanol eraill.

5  Cyfleoedd a phroblemau penderfynu

Gwneud penderfyniadau ynglŷn ag agweddau gweithrediadol eich rhaglen addysgol eich hun.

Cyfrannu at benderfyniadau sydd ag effaith ar raglenni cysylltiedig eraill.

Darparu cyngor ar faterion megis sicrhau cydbwysedd priodol poblogaeth myfyrwyr, penodiadau a myfyrwyr a materion perfformiad eraill.

6  Cynllunio a threfnu adnoddau

Cyfrannu at ddatblygu strategaethau ymchwil.

Cyfrifol am gyflenwi eich rhaglenni addysgol eich hun.

Cyfrannu at reolaeth gyffredinol yr adran mewn meysydd megis rheoli cyllideb a chynllunio busnes.

Chwarae rhan yng nghynllunio strategol yr adran a chyfrannu at brosesau cynllunio strategol y Sefydliad.

Cynllunio a chyflenwi ymchwil, ymgynghoriaeth neu raglenni tebyg, gan sicrhau fod adnoddau ar gael.

7  Menter a datrys problemau

Cyfrifol am ymdrin â materion a gyfeiriwyd at fyfyrwyr o fewn eich rhaglenni addysgol eich hun.

Datrys problemau sy’n effeithio ar gyflenwi cyrsiau o fewn eich rhaglen addysgol eich hun ac yn unol â’r rheoliadau.

8  Dadansoddi ac ymchwil

Pennu amcanion ymchwil perthnasol a datblygu cynigion ymchwil.

Cynnal ymchwil annibynnol i gyflawni amcanion y prosiect ymchwil fel prif ymchwilydd ac arweinydd prosiect.

Penderfynu ar y ffordd orau i gymhwyso methodolegau sy’n bodoli eisoes yn ôl cynnwys, amcanion a disgwyliadau cyffredinol 

Dadansoddi a chyfathrebu’r canlyniadau. 

9  Gofynion synhwyraidd a chorfforol

Bydd gofynion synhwyraidd a chorfforol yn amrywio o lefel gymharol ysgafn i lefel uchel gan ddibynnu ar y ddisgyblaeth a’r math o waith a bydd yn cynnwys cyflawni tasgau y mae angen dysgu sgiliau penodol ar eu cyfer.

10  Amgylchedd gwaith

Gan ddibynnu ar y maes gwaith (e.e. labordai, gweithdai, stiwdios) gellid disgwyl cymryd y cyfrifoldeb am gynnal asesiadau risg a lleihau peryglon.

11  Gofal a lles bugeiliol

Darparu cymorth llinell gyntaf i gydweithwyr, gan eu cyfeirio at ffynonellau cymorth pellach os oes angen.

12  Datblygu tîm

Gweithredu fel canolwr a chyfrannu at asesu cymheiriaid.

Cyfrannu at ddatblygu timau ac unigolion drwy’r system arfarnu a darparu cyngor ar ddatblygiad personol.

Gweithredu fel mentor personol i gymheiriaid a chydweithwyr.

13  Cefnogaeth addysgu a dysgu  

Cynllunio, datblygu a chyflenwi ystod o raglenni astudio (weithiau ar gyfer cyrsiau hollol newydd) ar amrywiol lefelau.

Datblygu a chymhwyso technegau addysgu a deunydd arloesol a phriodol sy’n ennyn diddordeb, dealltwriaeth a brwdfrydedd ymysg myfyrwyr.

14  Gwybodaeth a phrofiad

Gofyn bod yn awdurdod a gydnabyddir yn allanol yn y maes pwnc.

Dealltwriaeth ddofn o’ch arbenigedd eich hun er mwyn galluogi datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth newydd yn y maes.