Polisi Iechyd a Lles

Datganiad o’r Egwyddorion
Diffiniadau
Amcanion Polisi
Ffynonellau o straen
Cyfrifoldebau
Mynd ati i Reoli Lles y Staff

1. Datganiad o’r Egwyddorion

1.1     Yn ogystal â chwarae rhan yn hybu iechyd y staff, mae’r polisi hwn yn rhan o bolisi cyffredinol y Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch. Mae’n cwmpasu materion megis ysmygu, alcohol a chyffuriau, maeth a bwyd, gweithgarwch corfforol a straen.

1.2     Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu gweithle ac arferion rheoli sy’n hybu lles ac iechyd ei staff.

1.3     Mae’r Brifysgol yn cydnabod y rhan bwysig ac adeiladol y mae’r Undebau llafur cydnabyddedig yn ei chwarae i wella iechyd, diogelwch a lles y staff, fel mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn nodi. Bydd y Brifysgol yn cyflawni ei hymrwymiad hi drwy:

  • Nodi peryglon posib neu amgylchiadau a allai arwain at lefelau amhriodol o straen sy’n gysylltiedig â gwaith, a chynnal asesiadau risg er mwyn cael gwared ar y risgiau sy’n deillio o’r straen hwnnw, neu i reoli’r risgiau hynny. Byddwn ni wedyn yn sicrhau y bydd yr amgylchiadau hyn a’r asesiadau risg yn cael eu hadolygu’n rheolaidd;
  • Ymgynghori â chynrychiolwyr diogelwch yr undebau llafur ac â phobl berthnasol eraill (e.e. Penaethiaid yr Adrannau), ynghylch materion sy’n ymwneud â lles y staff;
  • Hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion straen a pha mor bwysig yw lles ac iechyd da yn gyffredinol, drwy nodi ffynonellau o straen yn y gweithle, a’u hatal a’u rheoli, a thrwy eu monitro wedyn. Bydd y Brifysgol yn rhoi hyfforddiant priodol a chymryd camau i hybu iechyd lle y bo hynny’n briodol;
  • Rhoi hyfforddiant mwy dwys i’r holl reolwyr a’r staff goruchwylio ynghylch ymarfer rheoli da sy’n cyd-fynd â’r polisi hwn;
  • Rhoi gwasanaeth cynghori cyfrinachol i’r staff hynny y mae straen yn amharu ar eu lles;
  • Sicrhau bod adnoddau priodol ar gael fel y gall y rheolwyr weithredu strategaeth lles staff y Brifysgol fel y’i cytunwyd arni.

1.4     Bydd y staff hwythau yn cael eu hannog i weithio mewn ffordd gyfrifol o ran iechyd a lles, a bydd hynny’n cynnwys rhoi cymorth i’r rhai sy’n cynnal asesiadau o risgiau straen yn y gweithle.

2. Diffiniadau

2.1     Yn ôl diffiniad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, "Straen yw’r adwaith andwyol y mae pobl yn ei gael o ganlyniad i ormod o bwysau neu fathau eraill o alwadau a roddir arnynt". Serch hynny, mae’n bwysig cydnabod bod gwahaniaeth rhwng "pwysau" a "straen": nid yw pwysau, o anghenraid, yn achosi straen, ac mae pwysau yn gallu rhoi hwb a chymhelliant weithiau. Er ein bod yn cydnabod y gallai amrywiaeth o faterion y tu allan i’r gweithle hefyd achosi pwysau a straen, ymdrin â straen sy’n gysylltiedig â’r gwaith yw prif gyfrifoldeb y Brifysgol.

3. Amcanion Polisi

3.1     Dyma amcanion y polisi:

  • Rhoi cyngor a gwybodaeth am liniaru unrhyw risgiau i iechyd;
  • Rhoi crynodeb o unrhyw gyfrifoldebau penodol;
  • Dysgu’r staff am beth sy’n achosi straen, a’i effeithiau a sut y gellir ei reoli;
  • Datblygu strategaethau, ar y cyd â’r undebau llafur, er mwyn gwella iechyd yn y gweithle;
  • Rhoi cymorth priodol i’r staff, yn enwedig drwy sicrhau bod rheolwyr yn rhagweithiol ac yn ymateb yn brydlon i bryderon a godir gan y staff a’r undebau.

3.2     Er mwyn gwireddi’r amcanion hynny bydd y Brifysgol yn:

  • Cynnal asesiadau risg er mwyn dod o hyd i broblem posib iechyd a lles sy’n gysylltiedig â’r gwaith;
  • Cymryd camau rheoli priodol er mwyn lleihau unrhyw risgiau i iechyd a lles;
  • Monitro trefniadau a’u harchwilio, i geisio gwella ansawdd yr amgylchedd gwaith;
  • Codi ymwybyddiaeth o ffynonellau straen, ac arwyddion a symptomau salwch sy’n gysylltiedig â straen, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael yn y Brifysgol i helpu unigolion;
  • Rhoi hyfforddiant i’r rheolwyr i gyd ynghylch y polisi iechyd a lles a sut i’w ddefnyddio’n effeithiol;
  • Dysgu’r staff am sut mae adnabod sefyllfaoedd a allai beri straen, a sut mae ymdopi â nhw;
  • Rhoi gwybodaeth i’r staff i gyd am wasanaethau lles priodol;

3.3     Dyma’r dulliau priodol o bwyso a mesur perfformiad a lles y staff sydd wedi’u nodi at ddibenion rheoli iechyd a lles:

  • Bydd absenoldebau yn cael eu cofnodi a’u monitro i weld a oes patrymau yn datblygu;
  • Gofynnir i aelodau o staff sy’n gadael y Brifysgol lenwi holiaduron, gyda chyfweliadau wedyn os yw’n briodol;
  • Byddwn yn monitro sut mae gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol a Chynghori’r Brifysgol yn cael ei ddefnyddio, heb beryglu cyfrinachedd unigolion;
  • Bydd Adnoddau Dynol yn cynnal adolygiad bob yn ail flwyddyn ar ddangosyddion lles y staff, gyda chytundeb yr undebau llafur, er mwyn dod o hyd i batrymau neu fannau y mae angen canolbwyntio arnynt;
  • Defnyddir dulliau eraill o hel data hefyd er mwyn cynnwys achosion a gyfeirir gan yr unigolyn ei hun ac achosion a gyfeirir gan yr Undebau Llafur.

4. Ffynonellau o straen

4.1     Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi nodi chwe phrif faes a allai achosi straen. Mae’r siart isod a luniwyd gan yr Awdurdod Gweithredol yn rhoi’r prif ffynonellau straen ac yn rhoi crynodeb o’r hyn y gellir ei wneud i reoli’r risgiau hyn:

Ffynhonnell Straen

Beth y gellir ei wneud amdani?

Galwadau

Os na all staff ymdopi â’r swmp o waith neu’r math o waith y gofynnir iddynt ei wneud, maen nhw yn aml yn dioddef o dan faich gormod o waith.

 

Dylid ystyried sut mae’r swydd wedi’i chynllunio a’i darparu er mwyn dod o hyd i ffyrdd o reoli’r baich. Dylid hefyd ystyried patrymau eraill o weithio ac amgylcheddau gwaith eraill.

 

Rheolaeth

Gall staff deimlo’n anfodlon a pherfformio’n wael os nad oes ganddynt lais o ran sut a phryd maent yn gwneud eu gwaith.

 

Dylid ystyried y rhan sydd gan y staff yn y prosesau penderfynu, a’u cyfraniadau fel unigolion ac aelodau o dimoedd.

 

Cefnogaeth

Gall staff deimlo’n ynysig a dan straen os na allant siarad â’u rheolwyr llinell neu os teimlant nad oes ganddynt ddigon o gefnogaeth neu os nad ydynt yn cael atborth adeiladol a chyngor.

 

 

Dylai rheolwyr llinell roi clust gydymdeimladol i’w staff fel y gallent drafod y materion sy’n peri straen a dylid sicrhau bod y staff yn cael gwybod am unrhyw ddatblygiadau neu newidiadau.

Cysylltiadau

Gall staff yn aml gael problemau sy’n gysylltiedig â bwlio, aflonyddu, neu ddisgyblaeth os oes perthnasau gweithio gwael neu ddiffyg cydnabyddiaeth a gwobrwyo.

 

Dylai’r polisïau a’r trefniadau sy’n ymwneud ag anfodlonrwydd, absenoldeb, ymddygiad gwael, bwlio ac aflonyddu gael eu hadolygu’n rheolaidd.

 

Rôl

Gall staff deimlo’n bryderus os nad yw eu rôl yn glir neu os nad yw’r hyn y disgwylir ganddynt yn eglur.

 

Dylid gwneud ymdrech arbennig wrth gyflwyno aelodau newydd o’r staff i’w gweithle newydd, a dylid creu disgrifiadau swyddi sy’n ystyrlon a threfnus. Dylid gwneud pob ymdrech i gadw cysylltiadau agos rhwng y targedau a osodir i’r unigolyn ac amcanion y sefydliad.

 

Newid

Gall newidiadau i ofynion y farchnad, technoleg, neu strwythur y sefydliad achosi ansicrwydd a diffyg hyder.

 

Os disgwylir newidiadau dylid gwneud pob ymdrech i gyfathrebu ac ymgynghori â phawb y byddant yn effeithio arnynt er mwyn trafod a datrys y materion ar y cyd.

 

5. Cyfrifoldebau

Mae gan bob aelod o staff gyfrifoldeb i gydymffurfio â’r trefniadau Iechyd a Diogelwch a gyflwynir gan y Brifysgol. Dyma gyfrifoldebau’r gwahanol aelodau o’r staff:

5.1     Yr Uwch Reolwyr sy’n gyfrifol am sicrhau:

  1. Bod rheolwyr ar bob lefel yn ymwybodol o bwysigrwydd rheoli lles y staff;
  2. Bod adnoddau priodol yn cael eu darparu fel bod rheolwyr yn gallu cyflawni’r strategaeth y cytunwyd arni mewn modd rhagweithiol, gan sicrhau bod y gwasanaeth cynghori yn cael ei ddefnyddio a bod achosion priodol yn cael eu cyfeirio am farn iechyd arbenigol;
  3. Bod y mentrau, yr ymddygiad, y sustemau a’r polisïau rhagweithiol a nodir yn cael eu hymgorffori yn niwylliant y sefydliad;
  4. Bod y strategaeth yn cael ei gyrru drwy gydgyfrifoldeb ar lefel yr Uwch Reolwyr.
  5. Bod gan y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol gyfrifoldeb i fonitro sut y mae’r polisi yn cael ei roi ar waith ac i roi gwybod i Dîm yr Uwch Reolwyr am unrhyw bryderon.

5.2     Penaethiaid Adrannau

Ar ben dyletswyddau cyffredinol pob rheolwr fel y’i disgrifir isod, mae gan Benaethiaid yr Adrannau a’r Isadrannau ddylanwad ar y diwylliant yn eu rhan hwythau o’r sefydliad. Dyma rai o’u cyfrifoldebau penodol:

  1. Bod yn weithgar wrth sicrhau bod yr egwyddorion a’r ymddygiad sy’n cyfrannu at les eu staff yn cael eu rhoi ar waith a’u hybu;
  2. Bod yn ymwybodol o amgylchiadau personol eu staff, gan gynnig cymorth ychwanegol, os yw hynny’n briodol, i aelodau o staff sy’n cael profiadau a allai beryglu eu lles sy’n deillio o bethau y tu allan i’r gwaith, e.e. profedigaeth neu berthynas yn dod i ben;
  3. Sicrhau bod y cyfathrebu rhwng rheolwyr a’u staff yn effeithiol;
  4. Sicrhau cyfathrebu effeithiol yn enwedig pan fydd newid ar droed yn nhrefn yr adran neu’i gweithdrefnau a allai achosi mwy o straen yn y gweithle;
  5. Sicrhau nad yw bwlio, aflonyddu na gwahaniaethu yn cael eu derbyn yn yr Adran. (gweler www. Cyswllt â’r Polisi Urddas a Pharch yn y Gweithle).

5.3     Bydd y Rheolwyr Llinell yn:

  1. Gofyn i Adnoddau Dynol gynnal asesiadau o risgiau straen pan ddaw i’r amlwg fod aelod o’r staff yn dioddef o straen, neu os credir ei bod hi’n bosib y bydd pobl yn dioddef o straen, gan sicrhau bod unrhyw gamau rhesymol a nodir yn cael eu rhoi ar waith;
  2. Sicrhau yr ymgynghorir â’r staff bob amser ynghylch unrhyw agwedd ar eu cyflogaeth a allai beri straen neu amharu ar eu hiechyd a’u lles pan fo newidiadau yn yr arfaeth a allai effeithio arnynt;
  3. Sicrhau bod y staff yn cael hyfforddiant ac adnoddau priodol fel y gallant gyflawni eu dyletswyddau;
  4. Sicrhau bod y staff yn cael cyfleoedd datblygu priodol;
  5. Rheoli absenoldeb yn unol â’r Polisi Rheoli Absenoldeb;
  6. Ystyried y llwyth o waith i sicrhau bod y maint o waith yn realistig ac o fewn cyrraedd.
  7. Cadw llygad ar oriau gwaith, goramser a gwyliau er mwyn annog unigolion i gymryd amser o’u gwaith yn unol â gofynion y gyfraith.
  8. Ymgyfarwyddo â’r Polisi Urddas a Pharch yn y Gwaith o ran bwlio ac aflonyddu gan sicrhau bod y staff yn gwybod nad yw’r Brifysgol yn derbyn ymddygiad o’r fath.
  9. Cydnabod y gallai profiadau ym mywydau personol y staff olygu eu bod yn fwy agored i ddioddef oherwydd pwysau yn y gwaith ac y gallai hynny ddylanwadu ar eu perfformiad yn y gwaith am gyfnod dros dro, e.e. materion iechyd neu amgylchiadau personol.
  10. Ymdrinâ phob trafodaeth ag aelodau o’r staff ynghylch straen personol fel mater cyfrinachol oni bai bod angen cynnwys pobl eraill er mwyn ymdrin â’r mater, os yw’r aelod o staff dan sylw yn rhoi caniatâd ysgrifenedig iddynt ddatgelu’r mater.
  11. Os yw’n briodol, trafod materion sy’n gysylltiedig â straen â’u Swyddog Iechyd a Diogelwch, eu Cynrychiolydd yn Adnoddau Dynol, neu gynrychiolydd o’r Undeb Llafur.

5.4     Bydd Adnoddau Dynol yn:

  1. Rhoi cymorth a chyngor i’r staff ynghylch y Polisi Iechyd a Lles.
  2. Monitro, ar y cyd â phawb perthnasol sydd â diddordeb, sut mae’r polisi’n cael ei roi ar waith yn y Brifysgol.
  3. Darparu hyfforddiant i reolwyr llinell ym mhob mater sy’n gysylltiedig â’r polisi.
  4. Rhoi cyngor i reolwyr llinell ar weithredu’r polisi, gan gynnwys ynghylch rheoli llwythi gwaith unigolion yn briodol.
  5. Cynghori, llywio a chynorthwyo’r adrannau wrth i asesiadau risg gael eu cynnal gan unigolion sydd wedi’u hyfforddi’n briodol, pan fydd rheolwyr llinell yn gofyn am asesiadau o’r fath.
  6. Rhoi cymorth i aelodau o’r staff sy’n dioddef o straen, gan roi cyngor iddynt a’u rheolwyr llinell ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael iddynt.
  7. Cyfeirio achosion ymlaen i’r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol neu i Gynghorwr yn unol ’r Polisi Rheoli Absenoldeb.
  8. Codi ymwybyddiaeth ymhlith y staff o bwysigrwydd cadw cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a’r cyfleoedd sydd ar gael i allu gwneud hynny yn y Brifysgol.

5.5     Bydd Aelodau o Staff yn:

  1. Cymryd gofal rhesymol am eu hiechyd a’u diogelwch eu hun, ac yn cydweithredu â’u Rheolwyr gydag unrhyw gamau sydd angen eu cymryd i leihau straen;
  2. Ymrwymo i beidio â pheri problemau iechyd a lles i aelodau eraill o’r staff, gan gynnwys cydymffurfio ag egwyddorion y Polisi Urddas a Pharch yn y Gwaith;
  3. Bod yn barod – os bydd achlysuron o’r fath yn codi – i gydnabod y gallent fod yn dioddef o broblemau iechyd a lles, boed hynny’n gysylltiedig â’r gwaith, neu’n deillio o ffactorau allanol, gan roi gwybod i’w rheolwyr llinell pan fo hynny’n briodol;
  4. Os yw aelodau o’r staff yn teimlo na allant drafod y materion dan sylw â’u rheolwyr, rydym yn eu hannog i drafod â’u Swyddog Iechyd a Diogelwch, a’u cynrychiolydd Adnoddau Dynol neu eu Cynrychiolydd yn yr Undeb Llafur. Mae’r Brifysgol yn cydnabod y gellid mynd â phryderon ynghylch straen yn syth at reolwyr mewn safle uwch, os gellid gweld mai’r rheolwr llinell yw ffynhonnell y straen, yn rhannol neu’n gyfan gwbl, fel y gellid hefyd ei wneud yn ôl y Polisi Urddas a Pharch yn y Gwaith;
  5. Manteisio ar gyfleoedd i gael sesiynau cynghori a hyfforddiant pan fyddant yn cael eu hargymell i wneud hynny, gan gynnwys manteisio ar y rhaglen Cymorth i’r Staff.

5.6     Bydd yr Undebau Llafur yn:

  1. Gweithio gyda’r Brifysgol i godi ymwybyddiaeth a hybu pwysigrwydd iechyd a lles yn y gweithle;
  2. Codi unrhyw bryderon y maent yn cael gwybod amdanynt gyda’r Adran Adnoddau Dynol, a gweithio gyda’r Brifysgol i ddatrys y materion;
  3. Cael adroddiadau oddi wrth y Brifysgol am y wybodaeth a gasglwyd ganddi er mwyn dod o hyd i dueddiadau a phatrymau fel y gallai’r Brifysgol weld lle y dylid canolbwyntio adnoddau;
  4. Rhannu’r gwaith datblygu polisi drwy ymgynghori ar y cyd, trafod a dod i gytundeb;
  5. Gweithredu ar y cyfrifoldebau penodol sydd gan yr Undebau Llafur o ran materion sy’n gysylltiedig â straen, fel y’u disgrifir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac fel y’u disgrifir yn Atodiad A i’r polisi hwn.

6. Mynd ati i Reoli Lles y Staff

Bydd y Brifysgol yn canolbwyntio ar hybu iechyd a lles yn y gweithle. Bydd hyn yn cynnwys polisïau a gweithdrefnau eraill y Brifysgol (er enghraifft, polisïau ar Reoli Absenoldeb, ar Urddas a Pharch yn y Gwaith, y Polisi Gweithio Hyblyg, ac yn y blaen). Hefyd bydd yr hyfforddiant i reolwyr yn cynnwys elfennau ar adnabod materion sy’n berthnasol i iechyd a lles, a’u rheoli.

6.1      Asesiadau o Risgiau Straen

6.1.1   Mae’n ofynnol ar y Brifysgol asesu natur a graddfa’r risg i iechyd ei staff er mwyn iddi allu cymryd camau priodol i ymdrin â’r risg a diogelu’r staff.

6.1.2    Mae’r polisi yn cydnabod bod gan wahanol weithwyr alluoedd gwahanol o ran dygymod â phwysau a bod pethau y tu allan i’r gwaith yn gallu effeithio ar sut mae unigolyn yn ymateb i bwysau.

6.1.3    Yn unol â phwynt 5.6, mae’n hollbwysig bod y staff yn rhoi unrhyw wybodaeth berthnasol i’r Brifysgol am unrhyw beth a allai effeithio ar eu gallu i ymdopi â phwysau rhesymol yn y gwaith, gan gynnwys materion fel Anableddau, ac yn y blaen.

6.1.4    Mae manylion y ffactorau sy’n debygol o arwain at staen sy’n gysylltiedig â’r gwaith, yn ogystal â’r dulliau asesu a chyngor ynghylch sut mae cynnal asesiad risg ar gael i bob rheolwr llinell o’r Adran Adnoddau Dynol.

6.2      Cyrsiau hyfforddi – Y Swyddfa Datblygu Staff

6.2.1    Mae amrywiaeth o gyrsiau ar gael drwy Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd y Brifysgol a allai helpu unigolyn i fynd ati’n weithredol i reoli ffactorau a allai arwain at broblemau iechyd a lles.

6.2.2   Am restr gyflawn o’r cyrsiau sydd ar gael, gweler y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd yn https://secure.mis.aber.ac.uk/staffdev/sd/list_courses.php

6.3      Gwasanaeth Cynghori

6.3.1   Mae cynghori yn cynnig cyfle i aelodau o’r staff weithio gyda gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol, profiadol a diduedd, i’w helpu i ddeall eu hanawsterau a dod o hyd i ffyrdd mwy defnyddiol o ymdopi ac ymdrin â nhw.

6.3.2   Mae’r Brifysgol yn defnyddio gwasanaethau cynghorwr annibynnol. Gwasanaeth cyfrinachol ydyw ac ni chaiff y manylion eu datgelu i’r Brifysgol oni bai bod yr unigolyn dan sylw yn rhoi ei gydsyniad penodol.

6.3.3   Dylai cynghori fod ar gael i aelodau o staff sy’n dioddef oherwydd materion sy’n effeithio ar eu perfformiad yn y gwaith ac sy’n mynd yn fwy nag y gallent ymdopi ag ef. Cyfeirir pob achos drwy’r Adran Adnoddau Dynol.

6.4      Y Ganolfan Chwaraeon

6.4.1   Mae Canolfan Chwaraeon Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth ardderchog o weithgareddau ac adnoddau i hybu iechyd a lles drwy ymarfer corff a gweithgareddau tîm. Mae dewis o ddosbarthiadau a gweithgareddau ar gael i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn ystod amser cinio ac ar ôl oriau gwaith.   

6.4.2   I’r rhai sydd am wneud ymarfer corff mewn modd sy’n fwy uniongyrchol berthnasol iddyn nhw yn benodol, mae sawl hyfforddwr personol cymwysedig yn y Ganolfan Chwaraeon ac fe allant ddarparu rhaglen ymarfer corff wedi’i theilwra i ddiwallus anghenion penodol yr unigolyn.

6.5      Maeth a Bwyd

Mae gan y Brifysgol amrywiaeth o leoliadau lle y gallai’r staff fwynhau pryd neu saig iach a chytbwys o ran maeth. Daw llawer o’r bwydydd o ffynonellau lleol ac mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig dewis amrywiol a chytbwys fel y gallai’r staff fwynhau deiet iach a chytbwys o faethlon. 

6.6      Cydbwysedd rhwng Gwaith a Bywyd

Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o bolisïau i gyd-fynd â bywyd teuluol a allai roi cyfleoedd i staff ddatblygu cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd. Dyma restr ohonynt:

  • Polisi Gweithio Hyblyg
  • Polisi Mamolaeth
  • Polisi Tadolaeth
  • Polisi Absenoldeb Mabwysiadu
  • Absenoldeb i Rieni

6.7      Cysylltiadau Defnyddiol

Mae hefyd sawl corff arbenigol sy’n cynnig cymorth a chyngor ar broblemau penodol megis profedigaeth, dyled, bod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol, a lles meddyliol. Ceir manylion rhai ohonynt ar y wefan isod.

Nodwch fod y rhan fwyaf o’r gwefannau hyn wedi’u creu a’u cynnal gan sefydliadau y tu allan i’r Brifysgol. Ni all y Brifysgol gymeradwyo na hybu unrhyw gyngor, cynnyrch na sefydliadau allanol sy’n ymddangos ar y gwefannau allanol.

Adolygu’r Polisi

Bydd Adnoddau Dynol yn cydlynu adolygiad o’r polisi hwn er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r gyfraith ac ymarfer da. Bydd pob adolygiad yn cynnwys ymgynghori ag undebau llafur cydnabyddedig, a bydd unrhyw newidiadau a gynigir yn cael eu cyflwyno i’r pwyllgor perthnasol priodol, Grŵp Gweithredol y Brifysgol a’r Cyngor os bydd angen.  

Fersiwn 1.1

Dyddiad Adolygiad Diwethaf: Rhagfyr 2018

Dyddiad Adolygiad Nesaf: Rhagfyr 2020