Blog Sgiliau Digidol
Bwriad y Blog Sgiliau Digidol yw cyflwyno’r newyddion diweddaraf am y cyfleoedd a’r datblygiadau gan y Tîm Sgiliau Digidol i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Gallwch chi hefyd danysgrifio i’r blog er mwyn derbyn hysbysiadau drwy e-bost am gyhoeddiadau newydd ar y blog.
TipDigidol 64: Newid Cyfeiriad gyda Chyfeiriadedd Testun Excel 💻
Gwella eich taenlenni gyda ThipDigidol 64. Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi newid cyfeiriad y testun ar eich taenlenni. Gall hyn helpu os yw’ch taenlenni yn cynnwys gormod o destun, yn enwedig penawdau. Gwyliwch y fideo byr isod i ddysgu sut! I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, […]
TipDigidol 63: Tag, dy dro di! Nodwedd Tagio OneNotes ✅
Gyda ThipDigidol 63, dysgwch sut i fewnosod tagiau yn eich tudalennau ar OneNote. Mae tagiau yn emojis bach fel blychau ticio i’ch helpu i gadw golwg ar yr hyn sy’n bwysig yn eich tudalennau OneNote. Gwyliwch y fideo byr isod i ddysgu mwy! I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch […]
TipDigidol 62: Cyflwyno Perffaith gyda Hyfforddwr Cyflwyno PowerPoint ⏱️
Ydych chi eisiau perffeithio eich sgiliau cyflwyno cyn eich cyflwyniad mawr nesaf? Gyda ThipDigidol 62 a Hyfforddwr Cyflwyno PowerPoint gallwch gael adborth wrth i chi ymarfer! Dilynwch y camau hyn: I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Ticio a Mynd: Eich Canllaw i Apiau ‘Rhestr o Bethau i’w Gwneud’ ✅
Wrth i’r tymor arholiadau agosáu, fe allai fod yn anodd cofio am bob tasg, ac fe allai eich llethu ar ben popeth arall sydd angen ei wneud. Gyda’r blogbost hwn, byddwn yn cyflwyno pedwar ap ‘Rhestr o bethau i’w Gwneud’ gwahanol i’ch helpu i reoli eich llwyth gwaith a threfnu eich diwrnodau. Microsoft To Do […]
TipDigidol 61: Chwyddo Cyflym: Meistr Chwyddwydr Windows 🔎
Gallwch chwyddo i mewn ac allan yn rhwydd gyda ThipDigidol 61! Os oes angen i chi chwyddo i mewn neu allan yn gyflym ar eich cyfrifiadur Windows, y llwybr byr hawdd ar gyfer hyn yw’r fysell Windows a + i chwyddo i mewn ac yna bysell Windows a – i chwyddo allan! I ddilyn ein […]
Mae TipDigidol yn dychwelyd yr wythnos nesaf! 📢
Ers mis Medi 2023, mae’r Tîm Sgiliau Digidol wedi bod yn cyhoeddi awgrymiadau a thriciau wythnosol i helpu i wella eich Sgiliau Digidol, un TipDigidol ar y tro. Hyd yn hyn, rydym wedi cyhoeddi 60 TipDigidol o lwybrau byr Microsoft i awgrymiadau am apiau lles digidol! Byddwn yn dychwelyd yr wythnos nesaf ar ddydd Mawrth […]
TipDigidol 60: Pwerwch eich PowerPoint! ⚡
Ydych chi erioed wedi cael trafferth cyflwyno eich PowerPoint ar-lein trwy rannu eich sgrin? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gyflwyno’n uniongyrchol o PowerPoint i Teams? Wel rydych chi’n gwybod nawr gyda ThipDigidol 60! Pan fyddwch yn eich cyfarfod ac yn barod i rannu eich sleidiau – dewiswch y botwm “present in Teams” yn eich […]
TipDigidol 59: Cofiwch yfed digon o ddŵr gyda’r ap My Water 💧
Ydych chi’n anghofio yfed digon o ddŵr yn y Brifysgol neu yn y gwaith? Dyma’r TipDigidol i chi. Mae yfed digon o ddŵr yn rhan bwysig o’ch lles gan ei fod yn dylanwadu ar faint o egni sydd gennych ac yn eich helpu i ganolbwyntio. Mae gan My Water fersiwn am ddim a fydd yn […]
TipDigidol 58: Rheoli eich Penawdau yn Word ⌨️
Weithiau, gall cyfnewid o wahanol benawdau yn Word fod yn boen, ond gyda ThipDigidol 58 does dim rhaid iddo fod yn boen mwyach! Defnyddiwch y llwybr byr syml: Ctrl + Shift + S i gyfnewid yn hawdd rhwng yr holl wahanol arddulliau pennawd sydd ar gael yn Word. I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch […]
Neges atgoffa derfynol: Lawrlwythwch eich Tystysgrifau LinkedIn Learning 💾
Mae ychydig dros wythnos o hyd nes i’n tanysgrifiad i LinkedIn Learning ddod i ben. Os ydych wedi cwblhau unrhyw gyrsiau hyfforddi ar LinkedIn Learning ac eisiau cadw’ch tystysgrif(au) cwblhau, mae gennych ychydig dros wythnos i’w lawrlwytho. Gallwch weld sut i wneud hyn drwy wylio’r fideo isod.