TipDigidol
Edrychwch ar ein TipDigidol wythnosol byr, a gynlluniwyd i'ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar dechnoleg. Darganfyddwch lwybrau byr bysellfwrdd defnyddiol, offer fel hidlwyr golau glas sy'n cefnogi eich lles digidol, a llawer mwy!
Mae sawl ffordd y gallwch ddilyn ein TipDigidol:
- Gallwch chi roi nod tudalen ar y dudalen hon a bydd TipDigidol newydd yn ymddangos yma am 10yb bob dydd Mawrth yn ystod y tymor
- Gallwch dderbyn hysbysiad e-bost pan fydd TipDigidol newydd yn cael ei bostio drwy danysgrifio i'n Blog Sgiliau Digidol.
- Rydym hefyd yn cyhoeddi pob TipDigidol ar dudalennau Facebook ac Instagram y Gwasanaethau Gwybodaeth. Oddi yno, gallwch ddilyn ein hashnodau #TipDidigolPA #AUDigiTips
TipDigidol 46: Cydweddu lliwiau ar eich sleidiau PowerPoint gyda’r adnodd Eyedropper 🎨
Wrth greu cyflwyniad PowerPoint, efallai y bydd adegau pan fyddwch chi eisiau cydweddu lliw’r cefndir neu wrthrych â lliw penodol iawn. Er bod yr opsiynau lliw sydd ar gael yn helaeth, mae yna adnodd hynod ddefnyddiol o’r enw eyedropper, sy’n eich galluogi i gydweddu lliw yn berffaith! Dilynwch y fideo isod i ddysgu sut i […]
TipDigidol 45: Mae Shift + F3 ar y gweill! Llwybr byr priflythrennu ⌨
Os ydych chi wedi dechrau ysgrifennu brawddeg a sylweddoli eich bod yn defnyddio priflythrennau/llythrennau bach i gyd – dyma’r TipDigidol i chi! Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi newid o briflythrennau i lythrennau bach ac fel arall yn Office 365 trwy ddewis y testun ac yna defnyddio Shift + F3? Gwyliwch y fideo byr isod […]
TipDigidol 44: Gwneud penderfyniadau cyflym gyda’r nodwedd bleidleisio yn MS Teams 📊
Efallai y bydd adegau pan fyddwch mewn cyfarfod MS Teams, ac mae angen i chi wneud penderfyniad cyflym. E.e. penderfynu pryd i gynnal eich cyfarfod grŵp nesaf neu bleidleisio ar ba deitl i’w ddewis ar gyfer adroddiad prosiect. Os hoffech chi greu pleidlais ar ôl i chi ddechrau eich cyfarfod, mae gan Teams adnodd pleidleisio. […]
TipDigidol 43: Newid eich gwaith gyda Disodli yn Word 🔃
Efallai y bydd adegau pan fydd angen i chi ddisodli gair rydych chi wedi’i ddefnyddio’n gyson drwy gydol eich gwaith – gallai hwn fod yn enw neu’n air a gamsillafwyd. Gall TipDigidol 43 ddangos i chi sut i ddod o hyd i eiriau a’u disodli’n gyflym. Darllenwch y cyfarwyddiadau cam wrth gam byr neu gwyliwch […]
TipDigidol 42: Mireinio eich canlyniadau chwilio yn MS Teams 🔎
Mae gan Teams adnodd chwilio defnyddiol, ond weithiau gall gynhyrchu gormod o ganlyniadau. Er mwyn arbed amser diangen yn chwilio, gallwch ddefnyddio hidlwyr. Mae’r hidlwyr hyn yn caniatáu ichi chwilio gan ddefnyddio meini prawf penodol fel dyddiad, anfonwr a math o ffeil, gan eich helpu i nodi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn gyflym! Edrychwch […]
TipDigidol 41: Gwell Nodiadau gyda Microsoft OneNote 📒
A ydych erioed wedi meddwl yr hoffech gael eich holl nodiadau gan gynnwys dogfennau neu ddogfennau PDF i gyd mewn un lle? Mae hyn yn bosibl gyda OneNote! Yn ogystal â bod yn lle gwych i storio eich nodiadau personol, oeddech chi’n gwybod y gallwch chi fewnosod allbrintiau ffeiliau gan gynnwys dogfennau PDF a thudalennau […]
TipDigidol 40: Cysylltu â natur gyda Seek gan iNaturalist🔎🌼
Pan fyddwch yn cerdded amser cinio neu yn ystod egwyl rhwng darlithoedd, does dim byd gwell nag archwilio’r campws. Ar eich taith gerdded, efallai y dewch ar draws adar, planhigion, ffyngau, ac amffibiaid na allwch eu hadnabod. Gan ddefnyddio technoleg adnabod delweddau, bydd yr ap Seek by iNaturalist yn eich helpu i fynd â’ch gwybodaeth […]
TipDigidol 39: Gorau arf, ymarfer: Amseroedd ymarfer yn PowerPoint 🥇
Os oes angen i chi roi cyflwyniad o fewn terfyn amser caeth, efallai yr hoffech ymarfer i gael yr amseru’n berffaith. Gyda ThipDigidol 39, gallwch ddysgu sut i ymarfer eich cyflwyniad a gweld faint o amser a ddefnyddiwyd gennych fesul sleid. Edrychwch ar y clip byr isod i weld sut i ymarfer: Noder y bydd […]
TipDigidol 38: Creu mapiau meddwl gydag Ayoa 🌟
P’un ai eich bod yn trafod syniadau newydd, yn adolygu ar gyfer arholiad, neu’n cymryd nodiadau, gall mapiau meddwl fod yn adnodd effeithiol ar gyfer datrys problemau, cofio gwybodaeth, a llawer mwy! Mae Ayoa yn feddalwedd dwyieithog sy’n eich galluogi i greu cymaint o fapiau meddwl ag y dymunwch am ddim. Gallwch ddarllen mwy am […]
TipDigidol 37: Diwygiwch eich gwaith gyda Chyfystyron yn Word 🔀
Ydych chi erioed wedi ceisio meddwl am air gwahanol i ddiwygio eich brawddeg? Nid oes angen pendroni mwyach! Gyda Thipdigidol 37, dysgwch sut i ddefnyddio’r nodwedd cyfystyron yn Word. Mae cyfarwyddiadau cam wrth gam isod neu gwyliwch y fideo byr i ddysgu mwy! Yn syml: I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch […]