Dathliadau 150 mlwyddiant Prifysgol Aberystwyth yn cychwyn ar faes yr  Eisteddfod

22 Gorffennaf 2022

Bydd cadair eisteddfodol milwr a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ynghyd â gwrthrychau hanesyddol eraill, yn rhan ganolog o weithgareddau Prifysgol Aberystwyth yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wrth iddi nodi dechrau ei dathliadau 150 mlwyddiant.

Ymchwil yn dangos y gall deilen o Affrica a ddefnyddir mewn diod draddodiadol drin clefyd y crymangelloedd

11 Gorffennaf 2022

Mae cemegyn o ddeilen sy’n cael ei defnyddio mewn diod draddodiadol yn Affrica yn driniaeth effeithiol ar gyfer afiechyd genetig sy’n effeithio ar filiynau o bobl o amgylch y byd, yn ôl ymchwil Prifysgol Aberystwyth.

Prifysgol Aberystwyth ar y brig am foddhad myfyrwyr yng Nghymru ac yn ail yn DU

06 Gorffennaf 2022

Aberystwyth yw’r brifysgol orau yng Nghymru am foddhad myfyrwyr yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2022.

Prifysgol Aberystwyth ar Faes y Sioe Fawr

07 Gorffennaf 2022

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn arwain nifer o drafodaethau ar ddyfodol amaeth yn y Sioe Fawr, o gyrraedd targedau sero net, i daclo TB mewn gwartheg ac adeiladu cymunedau gwledig cynaliadwy.

Graddio 2022

06 Gorffennaf 2022

Mae seremonïau Graddio blynyddol y Brifysgol yn dychwelyd yr wythnos hon ar ôl dwy flynedd o saib oherwydd pandemig COVID-19.

Yr Athro Elan Closs Stephens yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd

08 Gorffennaf 2022

Mae cyfraniad aruthrol yr Athro y Fonesig Elan Closs Stephens DBE i fywyd dinesig a chyhoeddus yng Nghymru a'r DU wedi’i gydnabod gyda Chymrodoriaeth er Anrhydedd.

Gwerth byd natur yn cael ei anwybyddu ar gyfer twf economaidd tymor byr

11 Gorffennaf 2022

Mae gwir werth byd natur yn aml yn cael ei anwybyddu o blaid elw tymor byr a thwf economaidd, yn ôl adroddiad nodedig a gyd-gadeiriwyd gan academydd o Brifysgol Aberystwyth.

Harneisio grym theatr i ymchwilio i effaith cyfieithu ar y pryd ar achosion llys

11 Gorffennaf 2022

Mae academyddion o'r Brifysgol, sy'n ystyried dylanwad cyfieithu ar y pryd ar achosion llys, wedi mabwysiadu offeryn ymchwil mewn prosiect sy’n cyfuno’r theatr a'r gyfraith mewn modd arloesol.

Myrddin ap Dafydd yn cael ei dderbyn yn Gymrawd

11 Gorffennaf 2022

Mae’r bardd a’r cyhoeddwyr, Myrddin ap Dafydd wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd fel rhan o seremonïau graddio’r haf hwn.

Penodi academydd Aberystwyth yn gadeirydd grŵp dileu TB y llywodraeth

12 Gorffennaf 2022

Mae’r Athro Glyn Hewinson o Brifysgol Aberystwyth wedi ei benodi’n gadeirydd Grŵp Cynghori Technegol newydd ar Dwbercwlosis (TB) gwartheg Llywodraeth Cymru.

Mae sgamiau e-bost yn dod yn fwy personol - maen nhw hyd yn oed yn twyllo arbenigwyr seiberddiogelwch

12 Gorffennaf 2022

Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Gareth Norris o’r Adran Seicoleg yn trafod rhai o’r tactegau newydd iasoer a ddatblygwyd gan dwyllwyr ac yn cynnig rhai awgrymiadau ar sut i chi amddiffyn eich hun.

Barnwr Nodedig Llys Apêl Malaysia yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd

12 Gorffennaf 2022

Mae cyn-fyfyriwr y Gyfraith o Aberystwyth, sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i broffesiwn y gyfraith ym Malaysia, wedi’i anrhydeddu’n Gymrawd.

Yr awdur comedi a’r cartwnydd Harry Venning yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd

12 Gorffennaf 2022

Mae’r awdur comedïau a’r darlunydd a luniodd y cartwnau poblogaidd a chyfres comedi, Clare in the Community, wedi’i anrhydeddu yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cymrodoriaeth er Anrhydedd wedi’i chyflwyno i’r peiriannydd deunyddiau, Zoe Laughlin

12 Gorffennaf 2022

Mae’r dylunydd, gwneuthurwr a pheiriannydd deunyddiau, Dr Zoe Laughlin, sy’n ymchwilio i gelf a gwyddoniaeth ‘pethau’, wedi’i hanrhydeddu’n Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cyfarwyddwr Cenedlaethol BBC Cymru yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd

13 Gorffennaf 2022

Mae Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cenedlaethol BBC Cymru, wedi’i hanrhydeddu’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth fel rhan o seremonïau graddio’r haf.

Arbenigwr trawsnewid digidol yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd

13 Gorffennaf 2022

Mae’r awdur, arbenigwr o fri ar drawsnewid busnesau a Chymrawd Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain, Jonathan Whelan, wedi’i anrhydeddu’n Gymrawd er Anrhydedd.

Amaethwr blaengar yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd

14 Gorffennaf 2022

Mae amaethwr blaengar, sydd wedi chwarae rhan flaenllaw ym mywyd cyhoeddus yng Nghymru ers deugain mlynedd a mwy, wedi’i anrhydeddu’n Gymrawd er Anrhydedd.

Myfyrwyr yr UDA ar gwrs Fulbright mawreddog yn Aberystwyth i ddysgu am amaeth yn y DG

14 Gorffennaf 2022

Mae grŵp o fyfyrwyr o’r Unol Daleithiau sydd ar gwrs haf sy’n adnabyddus yn fyd-eang wedi dechrau dysgu am amaeth y Deyrnas Gyfunol ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Prifysgol Aberystwyth yn dathlu effaith eithriadol ei hymchwil

14 Gorffennaf 2022

Mae gwella gofal lliniarol a mynediad at gyfiawnder i’r rhai sy’n dioddef cam-drin domestig yn ddau o blith pedwar o brosiectau ymchwil sydd wedi ennill gwobrau am eu heffaith yn y Deyrnas Unedig a thramor.

Urddo cyn-farnwr o’r ‘Old Bailey’ yn Gymrawd er Anrhydedd

14 Gorffennaf 2022

Mae Ei Anrhydedd y Barnwr Nicholas Cook QC, cyn Uwch Farnwr Cylchdaith yn y Llys Troseddol Canolog, yr ‘Old Bailey’, wedi ei urddo’n Gymrawd er Anrhydedd.

Urddo Gwerfyl Pierce Jones yn Gymrawd er Anrhydedd

14 Gorffennaf 2022

Mae cyn-Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Gwerfyl Pierce Jones, wedi ei hurddo’n Gymrawd er Anrhydedd.

Addysgu rhagorol yn cael ei ddathlu gan Brifysgol Aberystwyth

15 Gorffennaf 2022

Cyflwynwyd Gwobrau Cwrs Nodedig i academyddion o’r adrannau Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, a Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth am arloesedd yn eu gwaith addysgu.

Arbenigwyr TB yn briffio’r Prif Weinidog yn y Sioe Fawr

18 Gorffennaf 2022

Mae arbenigwyr Twbercwlosis Buchol wedi briffio Gweinidogion ar faes y Sioe Fawr am y camau nesaf yn yr ymdrechion i reoli’r haint mewn gwartheg (dydd Llun 18 Gorffennaf).

Disgyblion yn disgleirio mewn cynllun peilot ysgol haf

23 Gorffennaf 2022

Mae disgyblion Blwyddyn 11 o bob rhan o Gymru wedi bod yn cymryd rhan mewn ysgol haf breswyl yn y Brifysgol, fel rhan o raglen Sylfaen Seren.

Persuasion: pam mae addasiad Netflix yn werth ei wylio, yn ôl arbenigwr llenyddiaeth ramantus

Mewn erthygl yn The Conversation mae’r athro Richard Marggraf Turley o’r adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn yn dadlau bod addasiad newydd


Netflix  o Persuasion yn gweddu'n dda ag arddull Austen ac yn cynnig llawer i ddiddanu cynulleidfaoedd.


 



 

Nid yw trafod ‘colled ddysgu’ yn sgil y pandemig yn ddefnyddiol nac yn gywir – cyflwyniad yn yr Eisteddfod

28 Gorffennaf 2022

Yn groes i’r 'golled ddysgu' y cyfeirir ati’n aml, mae llawer o ddisgyblion ysgol Cymru wedi elwa o wahanol brofiadau dysgu wrth iddynt addasu i'r newid i ddysgu ar-lein yn ystod pandemig COVID-19, yn ôl ymchwil y bu academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn rhan ohoni.

Gwahoddiad agored i ymweld â Phantycelyn

28 Gorffennaf 2022

Bydd neuadd breswyl Gymraeg enwocaf Cymru yn agor ei drysau i’r cyhoedd ddydd Sul cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.

Academydd o Aberystwyth yn curadu rhaglen gŵyl ffilmiau sy’n dathlu ffilmiau menywod

28 Gorffennaf 2022

Curadwyd yr arlwy ôl-syllol yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin eleni gan Dr Kim Knowles, arbenigwr ffilm arbrofol o Brifysgol Aberystwyth.