Croeso i Gwasanaethau Gwybodaeth (G.G.) - Myfyrwyr Dysgu o Bell
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaethau TG a Llyfrgell i staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn amodol ar Reoliadau, Polisïau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Bydd arnoch angen cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth a Cherdyn Aber i fedru defnyddio ein hadnoddau.
Eich Cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth yn eich galluogi i:
- gael mynediad i’ch e-bost Prifysgol a’ch storfa ffeiliau
- cael mynediad i’ch cofnod myfyriwr
- cysylltu eich dyfeisiau eich hun â rhwydwaith y Brifysgol
- cael mynediad i gyfleusterau cyfrifiadurol ar y campws
- gwybodaeth ar eich pwnc astudio
- cael mynediad i Blackboard, amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol
- cael mynediad i’ch cyfrif llyfrgell i reoli eich benthyciadau
- cael mynediad i feddalwedd sy’n rhad ac am ddim i chi o dan drwydded y Brifysgol
- ApAber - rhad ac am ddim oddi wrth eich App Store
Bydd modd i chi actifadu eich cyfrif TG Prifysgol ar-lein, anfonwn e-bost atoch gyda chyfarwyddiadau i wneud hyn pan fydd eich cyfrif yn barod.
Caiff eich Cerdyn Aber ei ddefnyddio at y dibenion canlynol:
- yn gerdyn adnabod myfyriwr
a phan fyddwch yn ymweld â'r campws yn rhan o ysgol astudio neu ar gyfer gwaith ymchwil:
- Prynu bwyd ym mannau bwyta’r Brifysgol
- Benthyca o’r llyfrgell gan gynnwys defnyddio’r peiriannau hunan-fenthyca
- Defnyddio’r ystafelloedd cyfrifiaduron 24 awr
- Defnyddio'r llyfrgell tu allan i oriau craidd (i ddod mewn neu i adael)
- Argraffu, llungopïo a sganio
- Eich cerdyn Undeb y Myfyrwyr
- Eich cerdyn i’r Ganolfan Chwaraeon
Unwaith y byddwch wedi actifadu eich cyfrif TG dylech wneud cais am eich Cerdyn Aber arlein fel ei fod yn barod ichi pan fyddwch yn cyrraedd y campws
Canllaw Llyfrgell a TG hanfodol ar gyfer myfyrwyr newydd
I wybod mwy am gyfleusterau Llyfrgell a ThG os gwelwch yn dda gweler ein Canllaw Llyfrgell a TG ar gyfer myfyrwyr newydd
Gwasanaethau ychwanegol
- Gwasanaeth benthyciadau post
- Mynediad i adnoddau llyfrgell mewn prifysgolion eraill
- Ein gwasanaeth rhwymo i fyfyrwyr sydd oddi ar y campws
- Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau am erthyglau nad ydynt ar gael yn llyfrgelloedd y Brifysgol
Gwybodaeth Pellach
- Mae tudalennau'r Llyfrgell a'r adnoddau dysgu yn rhoi gwybodaeth i chi ar sut i wneud y defnydd gorau o lyfrgelloedd a chasgliadau'r Brifysgol
- Mae tudalennau Sgiliau Gwybodaeth yn rhoi awgrymiadau a chyngor i chi ar sut i ddarganfod a defnyddio adnoddau a gwella eich sgiliau llythrennedd gwybodaeth
- Mae tudalennau Cwestiynau Cyffredin yn rhoi cyfarwyddiadau a chyngor ar ddefnyddio ein cyfleusterau a'n gwasanaeth
Rhwymo i fyfyrwyr Dysgu o Bell
Gallwn argraffu, rhwymo a chyflwyno copi rhwymedig o’ch thesis yn uniongyrchol i’ch adran (os ydynt yn cytuno i hynny). Gallwn hefyd bostio copi rhwymedig o’ch traethawd atoch.
Gallwch naill ai:
- argraffu eich gwaith eich hun a’i bostio atom i’w rwymo
- e-bostio eich dogfen ar ffurf ffeil PDF sengl i’w argraffu a’i rwymo - bydd ffeil PDF yn sicrhau bod ffurf y ddogfen yn aros yr un fath â’ch dogfen wreiddiol.
Dylech nodi:
- Y math o rwymiad rydych ei eisiau
- A hoffech i’r gwaith gael ei argraffu mewn du/gwyn neu liw
- Nifer y copïau rydych eu hangen
- Dyddiad cyflwyno’r gwaith
- At bwy y dylid anfon y gwaith ar ôl ei rwymo
- A hoffech i ni ddychwelyd copi wedi’i rwymo i chi
Tâl am argraffu/rhwymo:
- Ar ôl i’ch cais ddod i law byddwn yn cyfrifo faint mae’n costio i:
- Argraffu (os oes angen)
- Rhwymo
- Postio’r gwaith atoch (os oes angen)
- Byddwn yn e-bostio amcan-bris, rhif archeb a manylion am sut i dalu
- Gellir talu â chardiau credyd/debyd ar ein gweddalen
Sylwer – ni fyddwn yn prosesu eich archeb nes eich bod wedi talu
Paratoi ar gyfer rhwymo
- Gofynnwch i’ch adran am unrhyw ofynion penodol sydd ganddynt o safbwynt rhwymo traethodau.
- Sicrhewch fod y DATGANIADAU LLOFNODEDIG GWREIDDIOL wedi’u cynnwys lle bo angen.
- Sicrhewch fod yr holl ddeunydd y bwriedir ei rwymo mewn cyflwr da.
- Sicrhewch fod y tudalennau’n cael eu cyflwyno yn y drefn yr hoffech eu rhwymo.
- Dim ond tudalennau maint A4 a dderbynnir.
- Gadewch 1cm ychwanegol ar ochr chwith y gwaith gan y bydd hyn yn cael ei osod ym meingefn y rhwymiad.
- Caniatewch 3 diwrnod gwaith (7 diwrnod gwaith os ydych yn dysgu o bell) i gwblhau’r gwaith rhwymo. Darperir y gwasanaeth hwn ar sail ‘y cyntaf i’r felin’.