Hugh Owen, C65

Mae C65 wedi’i lleoli ar Lawr C estyniad adeilad Hugh Owen, yn agos i brif fynedfa’r Brifysgol, gyferbyn â Phenbryn a TaMed Da.
Bydd y cynllyn a'r dodrefn ym 2020-2021 yn wahanol i beth sydd ar y tudalen yma oherwydd y mesurau ymbellahu cymdeithasol sydd mewn lle. Cliciwch ar y mân-lun i weld llun maint llawn.
Manylebau
Nifer y seddi: 9 (22 yn flaenorol)
Math o ystafell: ystafell seminar
Maint yr ystafell: 51 m² (5.5m hyd x 9.5m lled)
Bleinds blacowt
Hygyrchedd
Symudedd: agen Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng (PEEP)*
Clywed: system dolen anwytho
*Cynghorir defnyddwyr sydd â phryderon yn ymwneud â symudedd i drefnu Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng (PEEP) gyda’r Swyddfa Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd (hse.office@aber.ac.uk), gan nad oes llwybr gwastad i fynd i mewn ac allan o’r ystafell hon.
Cyfarwyddiadau
Ewch i mewn trwy brif fynedfa estyniad adeilad Hugh Owen ar Lawr A, a dringwch y grisiau sydd ar eich ochr chwith i lawr C. Trowch i’r chwith ar dop y grisiau ac fe welwch C65 ar yr ochr dde.
Offer
Cyfleusterau dysgu safonol
1 taflunydd data
2 bwrdd gwyn