*Cynghorir defnyddwyr sydd â phryderon yn ymwneud â symudedd i drefnu Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng (PEEP) gyda’r Swyddfa Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd (hse.office@aber.ac.uk), gan nad oes llwybr gwastad i fynd i mewn ac allan o’r ystafell hon.
Cyfarwyddiadau
Ewch i mewn i adeilad Hugh Owen trwy’r fynedfa ar Lawr D, ger prif ddrysau llyfrgell Hugh Owen. Dilynwch y coridor sy’n mynd yn syth ymlaen o’r fynedfa hon a dringwch y grisiau cyntaf ar y dde i Lawr C. Ar Lawr C, ewch ar hyd y coridor heibio C6. Mae C43 wedi’i lleoli ymhellach i lawr y coridor hwn ar y dde.
Mae Gwasanaethau Gwybodaeth wedi datblygu’r canllaw hwn ynghylch defnyddio cyfarpar addysgu safonol yn yr ystafelloedd addysgu canolog – dilynwch y ddolen i lawrlwytho’r ffeil Microsoft Word: Canllaw Ystafelloedd Addysgu 2021-22
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon: Swyddfa Amserlenni,
Gwasanaethau Gwybodaeth ,
Prifysgol Aberystwyth,
Adeilad Hugh Owen,
Penglais,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3EB
Ffôn: +44 01970 628771 Ebost: attstaff@aber.ac.uk