Hugh Owen, C64

What3Words - islawr.arfordirol.cofiaf 

Mae C64 wedi’i lleoli ar Lawr C estyniad adeilad Hugh Owen ar gampws Penglais, yn agos i brif fynedfa’r Brifysgol, gyferbyn â Phenbryn a TaMed Da (mapiau o'r Brifysgol).

Cliciwch ar y mân-lun i weld llun maint llawn.

Manylebau

Nifer y seddi: 24

Math o ystafell: ystafell seminar

Maint yr ystafell: 51 m² (5.5m hyd x 9.5m lled)

Bleinds blacowt

Hygyrchedd

Symudedd: agen Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng (PEEP)*

Clywed: system Dolen Anwytho Cymorth Clyw (Pa gymorth clywed sydd ar gael yn yr ystafelloedd addysgu?)

*Cynghorir defnyddwyr sydd â phryderon yn ymwneud â symudedd i drefnu Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng (PEEP) gyda’r Swyddfa Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd (hse.office@aber.ac.uk), gan nad oes llwybr gwastad i fynd i mewn ac allan o’r ystafell hon.

Cyfarwyddiadau

Ewch i mewn drwy brif fynedfa estyniad adeilad Hugh Owen ar lawr A, a dringwch y grisiau ar y chwith i Lawr C. Trowch i’r chwith ar dop y grisiau ac fe welwch C64 ar yr ochr chwith.

Offer

Cyfleusterau dysgu safonol

1 taflunydd data

2 bwrdd gwyn

Canllaw Ystafelloedd Addysgu

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth wedi datblygu’r canllaw hwn ynghylch defnyddio cyfarpar addysgu safonol yn yr ystafelloedd addysgu canolog – dilynwch y ddolen i lawrlwytho’r ffeil Microsoft Word: Canllawiau Ystafelloedd Dysgu 2023-24