Cydnabyddiaeth Undebau Llafur
Mae'r Brifysgol yn cydnabod yr Undebau Llafur canlynol i drafod ar ran aelodau o staff:
- UCU (Undeb y Prifysgolion a’r Colegau) - Staff academaidd ac academaidd-berthynol (gweinyddwyr, rheolwyr, gwasanaethau technegol a phroffesiynol)
Gwybodaeth ar gyfer Cysylltu:
I ymuno: https://www.ucu.org.uk/join
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ucustaff@aber.ac.uk
- UNISON - Pob gradd o staff y Gwasanaethau Proffesiynol.
Gwybodaeth ar gyfer Cysylltu:
I ymuno: https://my.unison.org.uk/join/
- UNITE - Pob gradd o’r Gwasanaethau Proffesiynol a’r staff cymorth, gan gynnwys Technegwyr (pob adran); Tiwtoriaid a Mentoriaid y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl; Staff Systemau Gwybodaeth a Pheirianwyr; Staff Canolfan y Celfyddydau; Diogelwch, Porthorion, Ystadau, Llety, Ffermydd a Staff Milfeddygol.
Gwybodaeth ar gyfer Cysylltu:
I ymuno: https://www.unitetheunion.org/members/fb-join
Cysylltu â'r gangen: WAB2090.aberystwyth university@unitetheunion.org
Mae’r undeb llafur perthnasol i'ch swydd:
- Yn negodi'r telerau sy'n berthnasol i chi yn Aberystwyth ac mae'n gyfrifol am gytuno, ymhlith pethau eraill, ar hawliadau cyflog blynyddol gyda chyflogwyr yn genedlaethol. Mae’n fuddiol i’r holl staff eu bod yn cefnogi a chymryd rhan yn y prosesau hyn trwy ymuno â'u hundeb llafur cydnabyddedig.
- Ymunwch â'ch undeb heddiw. Maent yn darparu cymorth i chi yn unigol pan fyddwch chi'n dod ar draws problem yn y gweithle megis aflonyddu, cwyn, diswyddo, newidiadau i'r contract ac ati.
- Peidiwch ag aros i broblem godi gan nad yw undebau llafur yn gallu rhoi cefnogaeth i faterion sy'n dechrau cyn i rywun ddod yn aelod, ac nid ydynt yn gwneud hynny.
- Yn cynnig ystod o fudd-daliadau a gwasanaethau atodol sydd wedi'u trafod yn benodol. Bydd y rhain yn arbed arian i chi ac yn sicrhau eich bod yn cael y budd mwyaf o'ch tanysgrifiadau undeb. Gallwch ddechrau manteisio ar y rhain ar unwaith.
