Dirwyon Llyfrgell
- Codir dirwyon os na fyddwch yn dychwelyd eich benthyciadau llyfrgell erbyn y dyddiad dyledus sy'n achosi i ddefnyddiwr arall sydd wedi gwneud cais i fenthyg yr eitem fod o dan anfantais
- Codir tâl o £2 yr eitem bob dydd
- Mae cyfyngiad dirwy uchafswm o £20 yr eitem
Pam rydym yn codi dirwyon?
Mae'r galw am ddeunyddiau Llyfrgell (llyfrau a / neu offer cyfryngau) yn cynyddu'n barhaus. Bwriad ein system dirwyon yw annog defnyddwyr i ddychwelyd eitemau a fenthycir erbyn y dyddiad dyledus felly maent ar gael i'r defnyddiwr nesaf. Mae hyn yn sicrhau mynediad cyfartal i bob defnyddiwr.
Sut i osgoi dirwyon?
- Gwirwch eich cyfrif e-bost Prifysgol yn rheolaidd ar gyfer negeseuon e-bost am lyfrau a cheisiadau arnynt ac am lyfrau sydd yn hwyr
- Gwiriwch ddyddiadau dyledus ar Primo (Sut ydw i'n gwneud hynny?)
- Peidiwch â benthyca eich Cerdyn Aber i unrhyw un arall - rydych chi'n atebol am bob eitem ar eich cyfrif a ddychwelwyd yn hwyr
- Dychwelwch eich benthyciadau llyfrgell ar amser (Sut ydw i'n gwneud hynny?)
Talu dirwyon llyfrgell
Gellir dod o hyd i wybodaeth ar sut i dalu dirwyon eich llyfrgell yma: https://faqs.aber.ac.uk/314