Celf

Beth fydda i’n ennill o’m pwnc?

Yn ogystal â’ch sgiliau sy’n seiliedig ar ymarfer, a’r wybodaeth y byddwch yn ei dysgu, bydd eich gradd yn darparu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.   Mae’r sgiliau trosglwyddadwy yn cynnwys creadigrwydd, datrys problemau, hunan-reoli, cyfathrebu a gwaith tîm. Mae eich sgiliau trosglwyddadwy a’r lefel o gyrhaeddiad deallusol a enilloch drwy astudio eich pwnc yn golygu y bydd gennych lawer o wahanol ddewisiadau gyrfa pan fyddwch yn graddio. Mae canran uchel o’r holl swyddi gwag lefel gradd yn agored i raddedigion unrhyw ddisgyblaeth, ac eto nid yw llawer o fyfyrwyr yn ymwybodol o hyn, neu cânt eu dylanwadu gan ffeithiau di-sail ynglŷn â’r dewisiadau sydd ar gael iddynt.

Gweler wefan Prospects, a hefyd ein tudalennau ble ydw i'n ddechrau a gynlluniwyd i’ch helpu i ddechrau meddwl am eich dyfodol.

 

Beth alla i ei wneud gyda’m pwnc?

Mae eich gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o lwybrau gyrfaol. Mae graddedigion wedi datblygu gyrfaoedd ym meysydd y celfyddydau, crefft a dylunio a thu hwnt.  

Mae nifer fawr o bosibiliadau’n agored i raddedigion, mwy o bosibl nag a sylweddolwch ar y cychwyn. Weithiau, y gwaith anoddaf sy’n wynebu myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf a graddedigion newydd yw penderfynu sut i ddewis o blith y dewisiadau niferus sydd ar gael i chi. Ceir swyddi sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phynciau gradd, swyddi lle gall pynciau penodol fod yn ddefnyddiol a hefyd ystod gyflawn o swyddi sy’n agored i raddedigion mewn unrhyw ddisgyblaeth. Bydd y dolenni isod yn cynnig rhai syniadau i chi o ran beth y gallwch ei wneud gyda’ch pwnc.

 

Ble ydw i'n dechrau chwilio am brofiad gwaith a swyddi i raddedigion?

DU

Tramor

Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?

Dyma rai enghreifftiau o swyddi a gafwyd gan ein Graddedigion Celf:

  • Cynorthwyydd Archif
  • Technegydd Celf
  • Tiwtor Celf
  • Arlunydd a Drafftsmon
  • Arlunydd Addysgol
  • Curadur 
  • Dylunydd
  • Cadwraethwr paentio îsl
  • Gweinyddydd Digwyddiadau
  • Tiwtor Celfyddyd Gain
  • Artist Llawrydd
  • Dylunydd Llawrydd
  • Darlunydd Llawrydd
  • Cynorthwyydd Oriel
  • Technegydd Oriel
  • Arlunydd Tirluniau
  • Darlithydd
  • Ffotograffydd
  • Technegydd Argraffu
  • Swyddog Recriwtio Diogelwch
  • Darlunydd Gwyddonol
  • Gweithiwr Cadwraeth Bywyd Gwyllt
  • Awdur

Enghreifftiau o’r cyflogwyr yr aeth graddedigion ac uwchraddedigion celf Aberystwyth i weithio iddynt:

  • Prifysgol Aberystwyth
  • Theatr Birmingham 
  • Blaze Publishing
  • Chameleon Television
  • Coleg Powys
  • Dezac Group
  • Dyfi Arts Guild
  • Fujitsu
  • Ymddiriedolaeth Headway Worcester
  • Interactive Theatre International
  • Oriel Mall
  • Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • Ocean Images
  • Oriel Tate
  • Torre Abbey
  • Vogue
  • Cyngor Sir Warrington