Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Beth fydda i’n ennill o’m pwnc?

Yn ogystal â’ch sgiliau sy’n seiliedig ar ymarfer, a’r wybodaeth y byddwch yn ei dysgu, bydd eich gradd yn darparu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.   Mae’r sgiliau trosglwyddadwy yn cynnwys datrys problemau, hunan-reoli, cyfathrebu a gwaith tîm. Mae eich sgiliau trosglwyddadwy a’r lefel o gyrhaeddiad deallusol a enilloch drwy astudio eich pwnc yn golygu y bydd gennych lawer o wahanol ddewisiadau gyrfa pan fyddwch yn graddio. Mae canran uchel o’r holl swyddi gwag lefel gradd yn agored i raddedigion unrhyw ddisgyblaeth, ac eto nid yw llawer o fyfyrwyr yn ymwybodol o hyn, neu cânt eu dylanwadu gan ffeithiau di-sail ynglŷn â’r dewisiadau sydd ar gael iddynt.

Beth alla i ei wneud gyda’m pwnc?

Mae eich gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o lwybrau gyrfaol.

Mae nifer fawr o bosibiliadau’n agored i raddedigion, mwy o bosibl nag a sylweddolwch ar y cychwyn. Weithiau, y gwaith anoddaf sy’n wynebu myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf a graddedigion newydd yw penderfynu sut i ddewis o blith y dewisiadau niferus sydd ar gael i chi. Ceir swyddi sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phynciau gradd, swyddi lle gall pynciau penodol fod yn ddefnyddiol a hefyd ystod gyflawn o swyddi sy’n agored i raddedigion mewn unrhyw ddisgyblaeth.

Pa gymorth sydd ar gael?

Mae gennych Ymgynghorydd Gyrfaoedd penodedig sy’n gweithio’n agos â’ch adran i ddarparu cymorth, cyngor a gwybodaeth. Cynhelir gweithdai a digwyddiadau gyrfaoedd yn eich adran i hyrwyddo cyfleoedd profiad gwaith, eich helpu i gynllunio’ch gyrfa, ac sydd hefyd yn gyfle i rwydweithio gyda phobl broffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol. Cyflwynir rhaglen addysg gyrfaoedd yn ganolog hefyd, a gall uwchraddedigion fanteisio ar y rhaglen Hyfforddi Sgiliau Uwchraddedig. Mae croeso i chi alw heibio’r Gwasanaeth Gyrfaoedd unrhyw bryd i gael cymorth neu wybodaeth bellach.

Ble ydw i’n dechrau chwilio am brofiad gwaith a swyddi i raddedigion? – Adnoddau defnyddiol

Mae’r dolenni isod yn fan cychwyn i chi pan fyddwch yn chwilio am gyfleoedd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch pwnc; mae mwy o adnoddau cyffredinol ar gael yn ein hadran profiad gwaith. Cofiwch fod cymorth ar gael oddi wrth y Gwasanaeth Gyrfaoedd pan fyddwch yn gwneud cais am swyddi a phrofiad gwaith.

 

DU

Tramor

Cymdeithasau a chyrff proffesiynol

Mae'r cyrff hyn yn hyrwyddo diddordebau pobl sy'n gweithio mewn galwedigaethau penodol. Mae gan rai ohonynt restrau o gyflogwyr sy'n aelodau o'r gymdeithas ac a allai hysbysebu swyddi tra bod eraill yn ffynonellau defnyddiol o wybodaeth wrth ymchwilio i gyflogwyr ar gyfer gwneud ceisiadau neu ystyried ceisiadau ar hap.

Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?

Dyma rai enghreifftiau o swyddi a gafwyd gan ein Graddedigion:

  • Arweinydd Ymdaith
  • Athro/Athrawes
  • Ceidwad Parc Cynorthwyol
  • Cynlluniwr Trafnidiaeth
  • Cynorthwy-ydd Ymchwil Cadwraeth
  • Cynorthwy-ydd Ymchwil Ôl-doethuriaeth
  • Cynorthwy-ydd Ymchwil Rheolaeth Arfordirol
  • Dadansoddwr Cynorthwyol
  • Dadansoddwr Data
  • Dadansoddwr Risg Trychineb
  • Daearegwr
  • Darlithydd Daearyddiaeth Ddynol
  • Geomorffolegydd
  • Gwas Sifil
  • Gweinyddwr ESS
  • Gweinyddwr Priffyrdd
  • Gwyddonydd
  • Gwyddonydd Amgylcheddol
  • Hydrocemegwr
  • Hydrolegwr/Modelwr Amgylcheddol
  • Hydrometregydd
  • Hyfforddwr Gweithgareddau Awyr Agored dan Hyfforddiant
  • Llyfrgellydd Graddedig dan Hyfforddiant
  • Newyddiadurwr dan Hyfforddiant
  • Peiriannydd Amgylcheddol
  • Peiriannydd Geodechnegol
  • Peiriannydd Traffig
  • Rheolwr dan Hyfforddiant
  • Swyddog Ailgylchu
  • Swyddog Amaethyddol
  • Swyddog Cadwraeth
  • Swyddog Cynllunio Amgylcheddol
  • Swyddog Cyswllt Cynllunio
  • Swyddog Datblygu Cymunedol
  • Swyddog Datblygu'r Gymraeg
  • Swyddog Heddlu
  • Swyddog Monitro Amgylcheddol
  • Swyddog Rheoli Datblygu
  • Swyddog Rheoli Digwyddiadau Llifogydd
  • Swyddog Ymchwil
  • Swyddog yr Amgylchedd
  • Syrfëwr Asiant Tir
  • Syrfëwr dan Hyfforddiant
  • Syrfëwr Meintiau Cynorthwyol
  • Syrfëwr Traffig
  • Technegydd Cynllunio
  • Technegydd Dadansoddi Systemau Gwybodaeth Daearyddol
  • Technegydd Gofodol
  • Technegydd Tirwedd ac Amgylcheddol
  • Ymgynghorydd Amgylcheddol
  • Ymgynghorydd Geotechnegol
  • Ymgynghorydd Mapio o Bell a GIS
  • Ymgynghorydd Risg Amgylcheddol dan Hyfforddiant
  • Ymgynghorydd Ynni Allymestyn

Enghreifftiau o'r cyflogwyr yr aeth graddedigion ac uwchraddedigion daearyddiaeth a gwyddorau daear Aberystwyth i weithio iddynt:

  • Amey plc
  • Amryw Gynghorau Sir
  • Amryw Sefydliadau Addysg Uwch
  • Aquaplus Solutions Cyf
  • Arolwg Daearegol Prydain
  • Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Atkins
  • BP
  • Clockwork
  • Coral
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cyngor Cefn Gwlad Cymru
  • Cyngor Rhanbarth Dwyrain Dorset
  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Dŵr Hafren-Trent
  • Earth Science Partnership
  • Electrocycle
  • Fat Foma
  • Geotechnics Cyf
  • Groundwork
  • Grŵp Geomatics
  • Grŵp RPS
  • Heddlu Dyfed Powys
  • Hydro-Logic Cyf
  • Hydrock
  • ING Direct
  • International Council for Mining and Metals
  • JBA Consulting
  • Land and Water Resource Consultants Ltd
  • Land Research Associates
  • Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Media Planning Group
  • Metropolitan Police
  • Mott MacDonald
  • Network Rail
  • Parc Cenedlaethol Eryri
  • Prifysgol Aberystwyth
  • Redrow
  • Scottish Water
  • Skye Instruments
  • Soil Association Certification Cyf
  • Sports Turf Research Institute
  • Swyddfa Meteorolegol
  • Swyddfa Ystadegau Gwladol
  • Technology Centre
  • Transport for London
  • WD Environment
  • Ymddiriedolaeth Genedlaethol