Cipluniau Pynciol

mars rover

Adnoddau pwnc-benodol ar gyfer ysgolion / colegau a myfyrwyr ôl-16.

Manteisiwch ar y cyfle hwn i ymchwilio i rai meysydd pwnc unigryw a diddorol sy'n berthnasol i'r cwricwlwm ysgol ôl-16, a ddarperir i chi gan ein adrannau academaidd y brifysgol.

Busnes

Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.

Gall Ysgol Fusnes Aberystwyth gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd.

Fideos

Cymerwch olwg ar yf ideo yma sy'n gysylltiedig â'r hyn sydd gan yr ysgol fusnes i'w gynig: 

Dyma gyflwyniad gan Jonathan Fry sy’n ddarlithydd yn yr Adran Fusnes. Mae'r cyflwyniad yn trafod “entrepreneuriaith”. Bydd yn rhoi’r siawns i chi ddatblygu nifer o sgiliau megis ymchwilio, dadansoddi, creadigrwydd, asesu ymgyrchoedd marchnata a strategaethau prisio.

https://aberystwyth.cloud.panopto.eu/Panopto/Pages/Viewer.aspx?id=089c7873-eb46-4000-a49c-abac01056d27 

Gweithdai

Manteisiwch ar y cyfle i ymweld â rhai gweithdai diddorol megis Dewis Cyfeiriad Strategol, Gwneud Penderfyniadau: Cyllid, Gwneud Penderfyniadau: Marchnata a Gwneud Penderfyniadau: Gweithrediadau ac Entrepreneuriaith. Mae’r rhain i gyd yn addas ar gyfer myfyrwyr lefel TGAU a Safon Uwch. Mae'r deunyddiau hyn, ynghyd â manylion holl adnoddau'r ysgol fusnes ar gyfer myfyrwyr ac ysgolion, i'w gweld ar:

https://users.aber.ac.uk/nar25/Business/homePageCy.html

Taflen gwaith

Edrychwch ar y ddogfen ganlynol sydd yn cynnwys gwahanol dasgiau i chi eu cwblhau mewn perthynas â'r cyflwyniad uchod. Yn ogystal a hyn mae ‘na nifer o ddolenni defnyddiol ynglŷn ag entrepreneuriaeth sydd yn addas i fyfyrwyr ôl-16.

Adnoddau Sesiwn Entrepreneuriaeth Ar-lein

Rydym hefyd yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

Gwyddorau Biolegol

Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.

Gall IBERS gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd.

Rydym hefyd yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

Cyfrifiadureg

Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.

Gall yr Adran Gyfrifiadureg gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd.

Gweithdai

Manteisiwch ar y cyfle i wella'ch gwybodaeth gyda'r gweithdai a'r gemau canlynol, gan ymchwilio i wahanol agweddau ar wyddoniaeth gyfrifiadurol: Dylunio ac Argraffu 3D, Biowybodeg, Amgryptio, Dadgryptio, Roboteg a Rhaglennu ar gyfer Dechreuwyr. Mae pob gweithdy yn addas ar gyfer myfyrwyr TGAU a Safon Uwch. Gellir gweld y deunyddiau hyn, ynghyd â manylion holl adnoddau Cyfrifiadureg ar gyfer myfyrwyr ac ysgolion, ar:

https://users.aber.ac.uk/nar25/CompSci/homePageCy.html

Wythnos Roboteg

 

Rydym yn dathlu Wythnos Roboteg y DU gyda digwyddiadau a gweithgareddau ar-lein ar gyfer pob oedran trwy gydol yr wythnos.

DyddDigwyddiad
Dydd Sadwrn Lab Traeth
Dydd Sul  
Dydd Llun Noson Robotiaid
Dydd Mawrth  
Dydd Mercher Gwaithdy dylunio 3D
Dydd Iau Gwaithdy electroneg
Dydd Gwener Cwis tafarn am robotiaid 

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad a ble i gofrestru, cliciwch yma

Rydym hefyd yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Bydd y rhain yn cynnwys:

Gweithdy/gêm sy’n gysylltiedig â Mathemateg, a deunydd newydd sy’n gysylltiedig â’r gofod.

Am mwy o wybodaeth am yr adnoddau cyfrifiadureg sydd i gael cysylltwch efo Natalie Roberts (E-bost - nar25@aber.ac.uk)

Addysg ac Astudiaethau Plentyndod

Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.

Gall yr Ysgol Addysg gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd. Ymhlith yr adnoddau sydd ar gael mae:-

Fideos

Cymerwch olwg ar y fideo yma â gyflwynwyd gan Dr Andrew Davies am yr amryw o gyrsiau y gall yr Ysgol Addysg eu cynnig ynghyd â strwythur cyffredinol y cyrsiau:

Cymerwch olwg ar y gyfres ganlynol o fideos a gyflwynwyd gan Dr Andrew Davies sydd wedi’u cynllunio i roi trosolwg o rai o’r egwyddorion sylfaenol i ddechrau cynnal ymchwil eich hunan:

1. Cyflwyniad i gynnal prosiect ymchwil neu ymholi 

2. Adolygu’r llenyddiaeth a thystiolaeth

3. Methodoleg a dulliau -

4. Gwneud synnwyr o’r data a ffurfio casgliad - 

Rydym yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill. 

Gall yr adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd 

Taflenni Gwaith

Rydym hefyd yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.

Gall yr Adran Ddaearyddiath a Gwyddorau Daear gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd. Ymhlith yr adnoddau sydd ar gael mae:-

Esboniadur daearyddiaeth

Mae’r esboniadur yma yn ddelfrydol er mwyn i chi ymgyfarwyddo â thermau daearyddol Cymraeg:

https://wici.porth.ac.uk/index.php/Categori:Daearyddiaeth 

Fideos

Treuliwch ychydig o amser yn gwrando ar y sgwrs ganlynol gan Dr Hywel Griffiths:

Perthynas rhwng gwyddoniaeth a chelfyddid - https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=4209~4p~QezwumJx 

Dyma ddarlith, sydd wedi’i chyflwyno gan Sara Penrhyn Jones, am ymchwiliad ar sut mae newid hinsawdd yn cael ei bortreadu gan, ac yn effeithio ar, ddiwylliant un ynys ym Micronesia: Beth yw'r ots gen i am Karibiti-

https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1672~4q~qLPdetUL 

Taith Cwm Elan

Ewch ar daith rithiol drwy Gwm Elan. Byddwch yn dysgu am bwysigrwydd yr ardal o safbwynt darparu dŵr ynghyd â nodweddion diddorol eraill, megis geomorffoleg a natur yr ardal, hanes y gymuned leol a nodweddion diwylliannol y cwm. Mae’r gwaith hwn yn berthnasol i thema Cylchred Dŵr yng nghwricwlwm Daearyddiaeth lefel A.

https://www.elanvalley.org.uk/node/248905?language=cy 

Rydym hefyd yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Bydd y rhain yn cynnwys darlithoedd ar y canlynol:

  • Newid Hinsawdd: Achosion ac Ymatebion
  • Cynaliadwyedd a Dyfodol y Blaned
  • Ymfudo Rhyngwladol - Gwleidyddiaeth ac ideoleg
  • Gwlyptiroedd mewn tir sych: tirweddau ac ecosystemau o bwysigrwydd byd-eang
  • 10 Rheswm pam bod Geomorffoleg yn Bwysig
  • Tirffurfiau a Phrosesau Rhewlifol
  • Y Cylch Dŵr a’r Cylch Carbon
  • Newid a Datblygu Gwledig
  • Y Blaned Drefol

Yn ogystal â'r sesiynau hyn, efallai y gallwn ddatblygu cynnwys pwrpasol i fynd i'r afael â'ch anghenion addysgu penodol. Felly cofiwch gysylltu â ni trwy anfon e-bost at yr Athro Mark Whitehead msw@aber.ac.uk neu Dr Hywel Griffiths hmg@aber.ac.uk

Hanes a Hanes Cymru

Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.

Gall yr adran Hanes a Hanes Cymru gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd.

Cyflwyniadau 

Yr Ymerodraeth Brydeinig, a Bywyd ym Mhrydain, 1870-1914?

Milwriaethusrwydd y Swffragetiaid a'r Ymgyrch dros y Bleidlais

E-lyfr

Ffrainc a Chymru, 1830-1880 gan Yr Athro Paul O’Leary -

https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1434~4m~lZFVpgbo 

Llyfr ar lein

Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol, gan Friedrich Engels a Karl Marx -

https://www.porth.ac.uk/cy/collection/maniffesto-r-blaid-gomiwnyddol-karl-marx-a-frederick-engels 

Rydym yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Bydd y rhain yn cynnwys yr darlithoedd (Mini) canlynol:

· Propaganda'r Natsïaid

· Dyfodol y Fictoriaid

· Mappa Mundi Henffordd: Mapiau fel Ffynonellau ar gyfer Hanes yr Oesoedd Canol

· Henry VII

Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymroddedig i ddarparu rhaglen o gyswllt allanol gydag ysgolion a cholegau ar draws Cymru a’r DU.

Crewyd y dudalen yma i ddarparu gwybodaeth ar sut allwn ni gyfoethogi beth mae ysgolion a cholegau yn ei gynnig ym maes gwleidyddiaeth, llywodraeth, a chysylltiadau rhyngwladol, fel rhan o’r Fagloriaeth Genedlaethol neu bynciau cysylltiol fel hanes a chymdeithaseg. Gobeitio eu bod hefyd yn  rhoi blas o Brifysgol Aberystwyth a'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

https://www.aber.ac.uk/cy/interpol/outreach/adnoddauiysgolionacholegau/

Y Gyfraith a Throseddeg

Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.

Gall Adran y Gyfraith a Throseddeg gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd. Ymhlith yr adnoddau sydd ar gael mae:-

E-Lyfr

Mae’r e-lyfr hwn yn berffaith i fyfyrwyr ôl-16 sydd â diddordeb mewn cyfraith gyhoeddus: Sylfeini’r Gyfraith Gyhoeddus:

https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=2433~4m~m0FVpgbn

Fideos

Dewch i weld ein fideos yma sydd yn sôn am y cyrsiau mae’r adran yn eu cynnal. Yn ogystal â hyn cewch weld sut brofiad yw bywyd academaidd a chymdeithasol yn Aberystwyth.

Darlithydd – Lowri Wynn Cunnington 

Sgwrs am brofiad myfyriwr

Rydym hefyd yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

Mathemateg

Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.

Gall yr Adran Fathemateg gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd.

Gweithdai 

Mae swigod wedi diddori plant ers canrifoedd, ac yn parhau i wneud. Yn ogystal â hyn mae’n diddori rhai oedolion hefyd! Mae eu strwythur a siâp o ddiddordeb i ymchwilwyr yn y gwyddorau mathemategol, gan gynnwys rhai ohonom ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dewch i edrych ar y dudalen we ryngweithiol hon sy'n archwilio geometreg a siâp swigod o safbwynt mathemategol:

https://users.aber.ac.uk/itd/MATHS-BUBBLES/

Maneisiwch ar ein tudalen allgymorth sy'n cynnwys heriau mathemategol, maes chwarae mathemategol, gweithdai mathemateg a mwy. I gyd wedi'u hanelu at fyfyrwyr ôl 16 ac wedi'i cynllunio i roi dealltwriaeth fwy cyflawn o gysyniadau mathemategol: 

https://users.aber.ac.uk/nar25/Maths/homePageCy.html

Llyfr ar-lein

Cyfieithiad gan yr Athro Emeritws Alun O. Morris yw'r llyfr hwn o'i gyfrol Linear Algebra:

https://www.porth.ac.uk/cy/collection/gsdfgdsfg 

Rydym yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Bydd y rhain yn cynnwys:

  • Gwefan ryngweithiol ar ‘Mathemateg gyda swigod’

Ffiseg

Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.

Gall yr Adran Ffiseg gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd.

Gweithdai

Manteisiwch ar y cyfle i wella'ch gwybodaeth gyda'r gweithdai canlynol, sydd yn ymchwilio i wahanol agweddau ar astroffiseg (Ffiseg Solar, Cysawd yr Haul, Archwilio Planedau, Yr Ochr Draw i Gysawd yr Haul) a ffiseg faterol (Lluniadau Carbon). Mae'r deunyddiau hyn, ynghyd â holl fanylion ein hadnoddau sy’n seiliedig ar ffiseg ar gyfer myfyrwyr ac ysgolion, i'w gweld ar:

https://users.aber.ac.uk/nar25/Physics/homePageCy.html

Rydym hefyd yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros yr wythnosau nesaf.

Am mwy o wybodaeth am yr adnoddau cyfrifiadureg sydd i gael cysylltwch efo Natalie Roberts (E-bost - nar25@aber.ac.uk)

Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill. Gall yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd, a byddwn yn ychwanegu mwy o gynnwys newydd yn rheolaidd.

Ymhlith yr adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd mae:

Darlithoedd Enghreifftiol

Dr Lisa Richards yn trafod genrau ffilm, ac yn benodol gwahanol ffilmiau sy'n nodweddu'r genre arddegol:

Dr Roger Owen yn trafod goblygiadau newid hinsawdd ar y broses o greu ac o brofi theatr:

Enghreifftiau o Waith Myfyrwyr

Yn ogystal â’r adnoddau uchod, rydym hefyd yn hynod o falch o allu rhannu enghreifftiau o ffrwyth llafur ein myfyrwyr. Ceir isod drosolwg o waith perfformio a lwyfannwyd gan fyfyrwyr y radd BA Drama a Theatr, ynghyd â gwaith ffilm arobryn myfyrwyr y radd BA Astudiaethau Ffilm a Theledu.

Perfformiadau Myfyrwyr

BA Drama a Theatr Dr Gareth Llŷr Evans yn trafod rhai o’r prif berfformiadau a gynhyrchwyd ar y radd BA Drama a Theatr yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ffilmiau Myfyrwyr

BA Astudiaethau Ffilm a Theledu Dwy Chwaer a Brawd: Ffilm arobryn Meleri Morgan sy’n cynnig portread o fywydau dwy chwaer a brawd ar eu fferm yng Ngheredigion:

Aros: Ffilm ffuglen gan Ashley Rhys Evans yn dangos y berthynas rhwng unigolion mewn safle bws:

Yr Hen a Ŵyr: Ffilm ffuglen gan Kameron Harrhy sydd yn ymdrin â dementia

Detholiad o ffilmiau a grëwyd gan fyfyrwyr yn eu hail flwyddyn:

Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Mae angen cefnogaeth astudio ar-lein yn fwy nag erioed yn yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein arlwy cynhwysfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar-lein sy’n berthnasol i Safon TGAU a Safon Uwch ar y gweill.

Gall Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd gynnig amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac mae pob un adnodd yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd. Ymhlith yr adnoddau sydd ar gael mae:-

Fideos

Enghraifft o ymchwil ein myfyrwyr - Rhodri Siôn 

Ffilm a gynhyrchwyd gan Rhodri Siôn o Nebo, Llanrwst, a raddiodd mewn Cymraeg Proffesiynol yn 2016. Dyma ffrwyth ei brosiect uchelgeisiol ar gyfer y modiwl israddedig Bro a Bywyd. Derbyniodd y gwaith ganmoliaeth fawr gan yr arholwyr, a dyfarnwyd marc Dosbarth Cyntaf iddo. Mae’r ffilm ‘Cymru Dafydd ap Gwilym’ yn rhoi cyflwyniad eglur a chryno i fywyd a gwaith un o feirdd mawr Cymru ac Ewrop yn yr Oesoedd Canol diweddar.

Enghraifft o ymchwil ein darlithwyr - Dr Rhianedd Jewell

Darlithydd mewn Cymraeg Proffesiynol yw Dr Rhianedd Jewell sy’n gweithio yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Ffocws ei hymchwil yw cyfieithu, yn benodol cyfieithiadau llenyddol o ieithoedd Ewropeaidd i’r Gymraeg. Dim ond dau gyfieithydd Cymraeg sydd wedi mynd i’r afael â dramâu abswrdaidd Samuel Beckett, a’r ddau’n feirdd, dramodwyr ac awduron Cymraeg adnabyddus eu hunain: Gwyn Thomas a Saunders Lewis. Mae dadansoddiad manwl o’u cyfieithiadau o Beckett yn dangos sut yr aethant ati i addasu’r dramâu Ffrangeg i gynulleidfa Gymraeg, gan eu gwneud yn ddiwylliannol ac ieithyddol Gymraeg. Fodd bynnag, roedd un o’r cyfieithwyr hyn yn llai ffyddlon wrth gyfieithu’r gwaith gwreiddiol na’r llall, gyda’r ddrama Gymraeg ddilynol yn sylweddol wahanol i greadigaeth Beckett. Mae’r ddarlith hon yn ystyried cwestiynau fel ‘i ba raddau y dylai cyfieithydd ddewis addasu darn’ a ‘beth mae’r dewisiadau hyn yn ei ddysgu i ni am y cyfieithydd?’ 

Dogfennau Defnyddiol

E-lyfr

Dyma’r disgrifiad cynhwysfawr cyntaf un o Hen Gymraeg (iaith y 9fed ganrif hyd ddechrau’r ddeuddegfed) i ymddangos yn yr iaith Gymraeg.

Mae’n addasiad (gan yr awdur ei hunan) o Gramadeg Hen Gymraeg.. Yn ogystal â throsi’r gwaith i’r Gymraeg, mae Dr Falileyev wedi’i addasu ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, ac wedi ymgorffori ffrwyth yr ymchwil diweddaraf ar y testunau hyn (peth ohono eto i’w gyhoeddi). Mae hyn yn golygu y bydd o ddiddordeb i ysgolheigion profiadol yn ogystal â myfyrwyr a lleygwyr. Mae’n cynnwys disgrifiadau manwl o’r testunau hysbys, gyda llyfryddiaeth lawn, penodau ar ffonoleg, gramadeg a chystrawen yr iaith, a detholiad o destunau golygedig gyda nodiadau cynhwysfawr a geirfa. Mae’r llyfr hwn yn rhoi cyfle, am y tro cyntaf, i’r Cymry ddod i adnabod rhai o’r enghreifftiau cynharaf hysbys o destunau yn eu hiaith.

https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1411~4h~GDh5Q67L 

Rydym hefyd yn bwriadu rhyddhau cynnwys newydd dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.