Traethodau Ymchwil

Traethodau Ymchwil

Ar hyn o bryd mae Llyfrgelloedd y Brifysgol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phorth Ymchwil Aberystwyth yn derbyn y canlynol gan adrannau academaidd y Brifysgol:

  • pob traethawd ymchwil llwyddiannus

Cedwir hefyd

  • pob traethawd estynedig Meistr, cyn 2013, ar bwnc Cymraeg
  • pob traethawd estynedig Meistr, cyn 2013) sy'n cael rhagoriaeth

Traethodau printiedig

Gallwch ddefnyddio'r chwiliad allweddair syml ar Primo- Catalog y Llyfrgell i chwilio am unrhyw draethawd ymchwil PA: e.e. traethawd ymchwil Gwyddeleg. Mae’r deunyddiau ar gael i gyfeirio atynt yn unig.

Mae’r casgliad wedi’i leoli ar Lawr F yn Llyfrgell Hugh Owen ac yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol. Cedwir rhai traethodau ymchwil yn y storfa allanol ac fe ellir eu gweld o gyflwyno archeb trwy Primo- Catalog y Llyfrgell. 

Gallwch chwilio Porth Ymchwil Aberystwyth am draethodau ymchwil naill ai yn y blwch chwilio cyffredinol neu drwy bori’r gymuned cyhoeddiadau ôl-radd. Ceir traethodau ymchwil electronig o fewn y cymunedau adrannol hefyd. Nid yw cofnodion Porth Ymchwil Aberystwyth o reidrwydd yn darparu mynediad testun llawn i draethodau ymchwil. Gall hyn fod oherwydd bod gan draethawd ymchwil embargo dros dro ar fynediad agored (gellir gweld amodau’r embargo a’r dyddiad pryd codir yr embargo drwy glicio ar 'Dangos Cofnod Eitem Llawn'), neu embargo parhaol oherwydd materion yn ymwneud â hawlfraint neu wybodaeth sensitif, er enghraifft.

Mae cofnodion traethodau ymchwil a thraethodau ymchwil testun llawn hefyd yn cael eu cynaeafu gan Wasanaeth Traethodau Ymchwil Electronig Ar-lein y Llyfrgell Brydeinig sy’n cynaeafau traethodau ymchwil o bob rhan o'r DU. Mae fersiynau testun llawn ar gael drwy gofrestru gyda'r gwasanaeth ar http://ethos.bl.uk/Home.do. Gellir gwneud cais am draethodau ymchwil sydd heb fod ar gael mewn testun llawn  drwy’r Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau.

I weld traethodau ymchwil ar astudiaethau Celtaidd, neu draethodau ymchwil a ysgrifennwyd yn Gymraeg, gweler: Welsh language and Welsh dissertations, 1887-1996 : Traethodau ymchwil Cymraeg a Chmreig, 1887-1996 / Alun Eirug Davies. Mae copi yn cael ei gadw yn y Storfa Allanol. 

Caiff traethodau ymchwil eraill o Brifysgolion Cymru eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.