Polisi Costau Adleoli
Datganiad Polisi
Mae’r Brifysgol yn ymwybodol y bydd rhai pobl a benodir yn dymuno adleoli er mwyn cymryd swydd yn y sefydliad ac mae’n croesawu’r cyfle i gefnogi gweithwyr newydd i wneud hynny. Mae’n sylweddoli bod cynnig cymorth i adleoli yn gyfrwng recriwtio, cadw ac ysgogi o bwys ac yn cefnogi’n uniogyrchol genhadaeth y sefydliad i ddenu staff o’r radd flaenaf i Brifysgol Aberystwyth. Mae’r polisi adleoli wedi ei gynllunio i helpu i leddfu rhai o’r problemau ariannol ac ymarferol sy’n gysylltiedig ag adleoli.
Datganiad Cyfle Cyfartal
Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymrwymedig i ddarparu cyfle cyfartal ac i hyrwyddo ethos o urddas, cwrteisi a pharch drwy’r holl sefydliad. Mae’r Adran Adnoddau Dynol yn hyrwyddo cyfle cyfartal drwy sicrhau bod ei rhaglenni, ei gwasanaethau a’i chyfleusterau yn hygyrch i bawb o’r staff.
Amcanion
-
darparu cymorth i staff sy’n adleoli er mwyn dechrau ar benodiad gan y Brifysgol;
-
darparu cymorth mewn modd cyson i bawb o’r staff sy’n gymwys;
-
darparu cyngor ac arweiniad i bawb sy’n ymwneud â’r broses.
Rolau a Chyfrifoldebau
Rôl yr Unigolyn
- cyflwyno cais ysgrifenedig am ad-dalu’r costau adleoli, fel rheol o fewn deuddeg mis ar ôl dechrau’r swydd;
- cyflwyno’r nifer o ddyfynbrisiau y cytunwyd arno.
Rôl Adnoddau Dynol
- ystyried ac, lle mae hynny’n addas, awdurdodi cais am ad-dalu costau adleoli;
- darparu cyngor ac arweiniad ar gymhwyster i gyflwyno cais;
- darparu pecynnau o wybodaeth leol (e.e. manylion asiantwyr eiddo lleol, gwybodaeth am ysgolion) a chymorth ymarferol pryd bynnag y gellir.
- ystyried ceisiadau am gostau adleoli sydd y tu allan i feini prawf y polisi hwn. Gall amrywiadau gael eu cymeradwyo o dan amgylchiadau eithriadol.
Rôl yr Adran Gyllid
- Sicrhau bod y Rheoliadau Cyllid y Wlad priodol yn cael eu cymhwyso at y cais.
Cymhwyster
- Yn achos swyddi sy’n llai nag amser llawn, rhoddir cymorth adleoli ar yr un gyfradd.
- Er mwyn bod yn gymwys am ad-daliad costau adleoli, fel rheol bydd gofyn bod y sawl a benodwyd yn symud i le sydd o fewn taith 20 milltir i’r lleoliad perthnasol ar safle Prifysgol Aberystwyth.
- Yn gyffredinol dylai’r adleoli fod â chysylltiad uniongyrchol â dechrau swydd newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth a rhaid ei hawlio fel rheol o fewn 12 mis i ddechrau ar y swydd.
- Y mwyafswm y gellir ei ad-dalu yw £3,800, i’w adolygu’n flynyddol yn seiliedig ar y canlynol:
- Costau adleoli adnabyddadwy a diffiniedig yn ymwneud â dodrefn ac eiddo’r cartref. (D.S. Dylid cael tri tender cystadleuol, ysgrifenedig, a’u cyflwyno gyda’r cais)
- Ad-daliad costau cyfreithiol a rhai costau cymeradwy eraill yn ymwneud â gwerthu a phrynu tŷ.
Rhaid i aelodau’r staff sy’n gwneud cais am gostau adleoli naill ai:
- Ddatgan nad oes unrhyw gostau adleoli wedi eu hawlio, nac y gellid eu hawlio, gan yr aelod o’r staff dan sylw neu unrhyw berson arall parthed yr adleoliad; neu
- Roi manylion unrhyw symiau a dalwyd, neu y gellid eu hawlio.
Pan fydd mwy nag un aelod o’r teulu yn cael eu penodi i’r Brifysgol, dim ond un cais am ad-daliad (hyd at yr uchafswm o £3,700) y gellir ei dderbyn.
Mewn achos pan fydd costau adleoli yn cael eu hawlio, neu lle gellid eu hawlio, gan unrhyw berson arall, bydd y swm taladwy gan y Brifysgol yn cael ei addasu’n gyfatebol.
Ad-dalu
Os bydd aelod o staff sydd newydd ei benodi yn terfynu ei gontract/chontract gwaith, neu os bydd y contract yn diweddu o fewn i’r cyfnodau penodedig, bydd y cynllun ad-dalu canlynol yn dod i rym:
-
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, rhaid ad-dalu’r costau adleoli yn llawn; neu
-
Yn ystod, a hyd at ddiwedd yr ail flwyddyn, rhaid ad-dalu hanner y costau adleoli yn llawn; neu
-
Yn ystod, a hyd at ddiwedd y drydedd flwyddyn, bydd yn rhaid ad-dalu chwarter y costau adleoli.
Pan fydd y gyflogaeth yn cael ei therfynu am resymau disgyblaethol bydd yr ad-daliadau uchod yn cael eu gweithredu.
Hawlio Costau Adleoli
-
Rhaid i bob cais am ad-daliad costau adleoli gael ei gyflwyno ar y ffurflen gais safonol a’i hawdurdodi gan y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol.
Amrywiadau i’r Polisi
-
Mae gan yr Is-ganghellor awdurdod i amrywio trefniadau ar gyfer costau o dan amgylchiadau eithriadol.
Monitro:
-
Bydd nifer y ceisiadau yn cael eu monitro’n flynyddol;
-
Bydd lefelau’r costau yn cael eu monitro yn ôl y gyllideb/rhagolwg.
Rhaglen Diwygio:
-
Adolygiad blynyddol yn unol â gofynion Cyllid y Wlad.
Ffynonellau Arweiniad Pellach:
- Llyfryn Cyllid y Wlad “Income Tax and National Insurance contributions on expenses or benefits paid in connection with relocation”.
- www.inlandrevenue.gov.uk