Safonau'r Iaith Gymraeg a Chefnogaeth
Lefelau Iaith Cymraeg
Canllaw i Lefelau Cymraeg
Sut i ddiweddaru eich Lefelau Cymraeg ar ABW
Hyfforddiant Cymraeg i Staff
Lefelau Iaith Cymraeg
A0
Siarad (rhyngweithio a chynhyrchu)
Nid wyf yn medru siarad Cymraeg o gwbl.
Ysgrifennu
Nid wyf yn medru ysgrifennu Cymraeg o gwbl.
A1
Siarad (rhyngweithio a chynhyrchu)
Rwy’n gallu :
- rhyngweithio mewn ffordd syml ar yr amod bod y person arall yn barod i siarad yn araf, ailadrodd neu aralleirio pethau, ynghyd â bod yn barod i’m helpu.
- defnyddio ymadroddion a brawddegau syml e.e. cyflwyno fy hunan neu berson arall,
- gofyn ac ateb cwestiynau cyfarwydd e.e. ‘Ble dych chi’n byw?’
Ysgrifennu
Rwy’n gallu:
- ysgrifennu neges fer syml ar ffurf e‑bost neu nodyn, gan gynnwys yr amser, y dyddiad a’r lleoliad.
- llenwi ffurflenni â’m manylion personol, e.e. enw, cyfeiriad a rhif ffôn.
A2
Siarad (rhyngweithio a chynhyrchu)
Rwy’n gallu:
- siarad mewn iaith syml ar bynciau cyfarwydd.
- cymryd rhan mewn sgyrsiau cymdeithasol byr iawn, hyd yn oed er nad ydwyf fi, fel arfer, yn gallu cadw’r sgwrs i fynd ohoni’i hunan.
- defnyddio cyfres o ymadroddion i ddisgrifio ac ateb cwestiynau am fy nheulu a phobl eraill, y tywydd.
- trosglwyddo cyfarwyddiadau neu negeseuon ffôn syml.
Ysgrifennu
Rwy’n gallu:
- ysgrifennu nodiadau syml byr,gan gysylltu brawddegau syml â chysyllteiriau syml fel ‘a’, ‘ond’ ac ‘oherwydd’.
- ysgrifennu llythyr neu e-bost syml iawn, e.e. yn diolch i rywun am wneud rhywbeth.
B1
Siarad (rhyngweithio a chynhyrchu)
Rwy’n gallu:
- manteisio ar ystod eang o iaith syml i ddelio â’r rhan fwyaf o sefyllfaoedd sy’n debygol o godi yn fy ngwaith.
- deall ystyr gyffredinol e‑byst a llythyrau yn ymwneud â’m maes diddordeb, ynghyd â llythyrau damcaniaethol o fewn cwmpas fy ngwaith.
- dechrau sgwrsio’n fyrfyfyr ar bynciau sy’n gyfarwydd imi, e.e. teulu, diddordebau, gwaith, teithio a digwyddiadau cyfredol.
- cynnig cyngor ar faterion syml, i gleientiaid o fewn cwmpas fy ngwaith.
- disgrifio profiadau a digwyddiadau, gobeithion ac uchelgeisiau.
- rhoi rhesymau ac esboniadau am fy marnau a’m cynlluniau, yn gwta.
Ysgrifennu
Rwy’n gallu:
- cymryd nodiadau gweddol gywir mewn cyfarfodydd neu seminarau lle mae’r pwnc yn un cyfarwydd ac yn rhagweladwy.
- ysgrifennu llythyrau neu e‑byst yn disgrifio digwyddiadau, profiadau ac argraffiadau
- ysgrifennu memoranda neu e-byst anffurfiol i gyflwyno gwybodaeth.
B2
Siarad (rhyngweithio a chynhyrchu)
Rwy’n gallu :
- gwrando ar, deall a chyfrannu at drafodaethau mewn cyfarfodydd a seminarau.
- cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau o fewn cyd‑destunau cyfarwydd.
- mynegi barn yn glir.
- cyflwyno disgrifiadau manwl a chlir ar ystod eang o bynciau yn ymwneud â’m gwaith ,
- ehangu a chefnogi syniadau â phwyntiau atodol ac enghreifftiau perthnasol.
- egluro safbwynt ar bwnc cyfoes gan roi manteision ac anfanteision y gwahanol opsiynau.
- rhoi cyflwyniad clir ar bynciau cyfarwydd.
Ysgrifennu
Rwy’n gallu:
- ysgrifennu darnau byr o ohebiaeth fusnes, ar ffurf llythyr neu e‑bost, ar ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â’m gwaith neu fy maes diddordeb, a hynny mewn Cymraeg safonol heb ddefnyddio templed (ond gan ddefnyddio gwirydd sillafu, geiriadur, adnoddau technegol a.y.b. pan fo angen).
- cymryd nodiadau neu ysgrifennu adroddiadau, gan drosglwyddo gwybodaeth neu roi rhesymau o blaid neu yn erbyn safbwynt arbennig.
C1
Siarad (rhyngweithio a chynhyrchu)
Rwy’n gallu:
- mynegi fy hunan yn rhugl ac yn ddigymell.
- defnyddio iaith yn hyblyg ac yn effeithiol at ddibenion cymdeithasol a phroffesiynol, gan gyfrannu’n hyderus at gyfarfodydd a chyflwyniadau ar lafar.
- ffurfio syniadau a barnau, gan sicrhau bod fy nghyfraniadau’n berthnasol i siaradwyr eraill.
- ymateb yn briodol i sefyllfaoedd diwylliannol a chymdeithasol gwahanol.
- cyflwyno disgrifiadau clir a manwl o bynciau cymhleth gan gyflwyno is-themâu, gan ddatblygu pwyntiau penodol, ynghyd â chloi’r cyflwyniad â chasgliad priodol.
Ysgrifennu
Rwy’n gallu:
- ysgrifennu testunau wedi’u strwythuro’n glir, ynghyd â mynegi safbwyntiau am gyfnod hir.
- ysgrifennu esboniadau manwl ar bynciau cymhleth ar ffurf e-bost, llythyr, traethawd neu adroddiad, gan danlinellu’r materion perthnasol.
- ysgrifennu gwahanol fathau o destunau mewn arddulliau sy’n briodol i’r gynulleidfa sydd mewn golwg.
C2
Siarad (rhyngweithio a chynhyrchu)
Rwy’n gallu:
- deall adroddiadau ac erthyglau yr wyf yn dod ar eu traws yn fy ngwaith, gan gynnwys syniadau cymhleth wedi’u mynegi mewn iaith gymhleth.
- cymryd rhan yn ddiymdrech mewn trafodaeth.
- mynegi fy hunan yn rhugl a chyfleu arlliwiau ystyr yn gywir.
- addasu ac ailstrwythuro fy nghyfraniad wrth imi gwrdd ag unrhyw anhawster a wynebir, mor esmwyth fel braidd nad yw pobl eraill yn ymwybodol ohono.
- cynghori ar faterion cymhleth, anodd a chynhennus megis materion cyfreithiol neu ariannol, i’r graddau y mae fy ngwybodaeth arbenigol yn ymestyn.
- cyflwyno disgrifiadau neu ddadleuon yn dda, yn llyfn ac yn glir, yn y cywair sy’n briodol i’r cyd-destun, ac sydd â strwythur rhesymegol ac effeithiol sy’n helpu i dynnu sylw’r sawl sy’n gwrando ar y pwyntiau arwyddocaol.
Ysgrifennu
Rwy’n gallu:
- cymryd nodiadau llawn a chywir a pharhau i gymryd rhan mewn cyfarfodydd a seminarau.
- ysgrifennu testunau wedi’u strwythuro’n dda ac yn llyfn ac yn y cywair priodol.
- ysgrifennu adroddiadau neu erthyglau technegol gymhleth strwythuredig sy’n helpu i dynnu sylw’r sawl sy’n darllen, at y pwyntiau arwyddocaol.
- ysgrifennu adolygiadau o weithiau proffesiynol a/neu rai llenyddol.
Canllaw Staff i Lefelau Iaith Gymraeg
Canllaw Staff i Lefelau Iaith Gymraeg
Canllaw: Gofynion o ran y Gymraeg (hanfodol/dymunol) wrth hysbysebu swyddi
Mae gofyniad statudol ar y Brifysgol o dan Safonau’r Gymraeg i asesu gofynion ieithyddol unrhyw swydd cyn ei hysbysebu. Pwrpas y canllaw hwn yw rhoi arweiniad i reolwyr sy’n recriwtio ar ofynion ieithyddol a lefelau CEFR addas ar gyfer y swyddi y maent yn recriwtio ar eu cyfer.
|
Dyletswyddau / Math o Swydd |
Lefel Cymraeg (Hanfodol) a Awgrymir |
Lefel Cymraeg (Dymunol) a Awgrymir |
Sylwadau |
|
Academaidd (Dysgu) cyfrwng Saesneg yn unig |
A0 |
C1 |
Mewn achosion lle mae angen siaradwr Cymraeg rhugl awgrymir defnyddio lefel Cymraeg (hanfodol) C1 neu C2 ar gyfer swyddi academaidd. Pan osodir lefel C1 yn lefel Cymraeg hanfodol, dylid gosod C2 yn lefel dymunol. Dylid sicrhau nad oes effaith negyddol ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg wrth gadarnhau gofynion ieithyddol swyddi a hysbysebir. |
|
Academaidd (Dysgu) sy’n cynnwys cyfrwng Cymraeg |
C1 neu C2 |
(C2) |
|
|
Ymchwil (Cyllideb Fewnol) cyfrwng Saesneg yn unig |
A0 |
C1 |
|
|
Ymchwil (Cyllideb Fewnol) cyfrwng Cymraeg / dwyieithog |
B2, C1 neu C2 |
(C2) |
Pan osodir lefel Cymraeg hanfodol yn lefel B2 neu C1, gosodir lefel C1 neu C2 yn ddymunol. |
|
Prosiectau ymchwil a gyllidir yn allanol |
* |
* |
* Dylid ystyried gofynion y prosiect. Os oes angen sgiliau Cymraeg ar swyddi penodol (e.e. prosiect sy’n ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru) dylid sicrhau lefel B2.
|
|
Penaethiaid Adrannau |
A1* |
C1* |
Mewn achosion lle mae angen siaradwr rhugl yn y Gymraeg awgrymir y dylai lefel C1 neu C2 fod yn ofyniad ar gyfer swyddi penaethiaid. Lle nad oes angen sgiliau Cymraeg, dylid nodi:
|
|
Swyddi â dyletswyddau sy’n cynnwys |
|
|
Rhaid gwarantu gwasanaeth dwyieithog ym mhob derbynfa a sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol. |
|
(b) Gwasanaethau Wyneb i Wyneb (i fyfyrwyr / y cyhoedd) |
* |
* |
* Dylid sicrhau fod capasiti (ar B2+) i allu gwarantu gwasanaeth dwyieithog i fyfyrwyr. |
|
(c) Gwasanaethau Ffôn a Gohebiaeth (i fyfyrwyr neu’r cyhoedd) |
B2 (neu B1)* |
C1 |
* Dylid sicrhau fod capasiti (e.e. 50% Cymraeg hanfodol B2) ym mhob tîm rheng flaen.
|
|
(ch) Gwasanaethau Arbenigol i fyfyrwyr |
* |
* |
* Dylid sicrhau fod yna gapasiti (ar B2+) i allu gwarantu gwasanaeth dwyieithog i fyfyrwyr. |
|
Technegwyr |
A0* |
B1 |
* Mewn achosion lle mae technegwyr yn cefnogi’r ddarpariaeth Gymraeg awgrymir defnyddio lefel B1/B2. |
|
Swyddi sy’n darparu gwasanaethau i staff y brifysgol (yn unig) |
* |
* |
* Rhaid sicrhau fod gan y gwasanaeth / tîm gapasiti digonol i allu gwarantu gwasanaeth dwyieithog i staff. |
|
Swyddi eraill â’r angen am sgiliau Cymraeg |
* |
* |
* Ceir sawl esiampl lle byddai angen sgiliau Cymraeg ar swyddi penodol gan gynnwys pob swydd mewn rhai timoedd penodol. Dylid ymgynghori â Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg os oes gennych gwestiynau o ran lefelau’r Gymraeg. |
Ar gyfer swyddi ar lefelau A1, A2 neu B1 dylid cynnwys y cymal canlynol mewn swydd ddisgrifiadau.
[A1 / A2 / B1] neu dystiolaeth i ddangos ymrwymiad parhaus i ddysgu Cymraeg i’r lefel hon.
Ar gyfer swyddi heb ofynion o ran y Gymraeg (A0) dylid cynnwys y cymal
(A0) Gallu dealltur ddwyieithog y Brifysgol ac ymwybyddiaeth o’r trefniadau sydd ar waith i gefnogi gweithio yn ddwyieithog.
Capasiti
Noder bod angen ystyried lefelau iaith pob swydd yn y Brifysgol, yn cynnwys swyddi uwch reolwyr, law yn llaw â gallu presennol a chapasiti y tîm/ adran i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg, a chydymffurfio â gofynion Safonau’r Gymraeg.
Cyfweliadau
Ar gyfer swyddi lle mae’r Gymraeg yn hanfodol ar lefel B2+ dylid sicrhau fod yna aelod o’r panel yn siarad Cymraeg er mwyn holi cwestiwn / cwestiynau yn ystod y cyfweliad yn Gymraeg. Ar gyfer swyddi sydd â lefel Cymraeg hanfodol, dylid gwirio a / neu gynnal tasg briodol i asesu lefel Cymraeg yr ymgeisydd cyn neu yn ystod y cyfweliad. Cysylltwch â Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg am gyngor pellach. Ar gyfer swyddi lle caniateir dysgu/gwella sgiliau Cymraeg dylid sicrhau fod yna gwestiwn ynghylch ymrwymiad yr ymgeisydd i ddysgu’r Gymraeg. Am fanylion pellach o ran sgorio ymgeiswyr â / heb sgiliau Cymraeg, gweler y Weithdrefn Denu a Dewis Staff
Noder: Mae ein ffurflen gais yn gofyn i bob ymgeisydd i gadarnhau eu dewis iaith ar gyfer cyfweliad. Bydd y ffurflen hefyd yn datgan : Cewch ddefnyddio’r iaith Gymraeg mewn cyfweliad ac os bydd angen fe ddefnyddir cyfieithydd ar y pryd. Byddwn yn darparu cyfieithydd ar y pryd pan fydd angen mewn cyfweliadau lle mae’r ymgeisydd am ddefnyddio’r Gymraeg.
Penodi
Ar gyfer swydd lle mae sgiliau Cymraeg yn ofyniad hanfodol, dylai’r rheolwr sicrhau ei bod yn penodi staff ar y lefel sy’n ofynnol. Os nad oes ymgeiswyr mewnol yn cwrdd â’r gofynion hanfodol dylech gysylltu ag Adnoddau Dynol i drefnu hysbysebu’r swydd yn allanol.
Ar gyfer swydd lle penodir ymgeisydd sydd angen dysgu/gwella eu sgiliau Cymraeg i lefel ofynnol y swydd, dylai’r rheolwr llinell sicrhau eu bod yn rhoi cyfleoedd i’r unigolion fynychu cyrsiau a monitro cynnydd o fewn cyfarfodydd y Cynllun Cyfraniad Effeithiol.
Hysbysebu
Ar gyfer swyddi Cymraeg hanfodol B2+ a hysbysebir yn allanol, dylech gysylltu ag Adnoddau Dynol i drafod opsiynau hysbysebu mewn cyhoeddiadau Cymraeg a gwefannau penodol megis Lleol.cymru neu Safleswyddi.com.
Cyngor pellach
Am gyngor pellach ynglŷn â lefelau’r Gymraeg ar gyfer swyddi, cysylltwch â Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg: canolfangymraeg@aber.ac.uk
Sut i ddiweddaru eich Lefelau Cymraeg ar ABW
Sut i ddiweddaru eich Lefelau Cymraeg ar ABW
I Ddiweddaru Lefel Iaith Gymraeg:
- Mewngofnodwch i PoblAberPeople trwy fynd i abw.aber.ac.uk neu myhr.aber.ac.uk.
- Cliciwch ar “Personél”
- Yna cliciwch ar “Cymhwysedd”. Bydd hyn yn mynd â chi i’ch cofnod cymhwysedd. Dewiswch naill ai Oral Welsh Language Skill neu Written Welsh Language Skill o’r gwymplen a amlygwyd mewn piws.
- Trwy glicio ar y maes hwn bydd y lefel sydd wedi’i chofnodi eisoes yn ymddangos fel y dangosir isod.
Bydd gennych dri dewis wedyn:- Newid y lefel sydd eisoes wedi’i chofnodi.
- Dileu’r lefel sydd wedi’i chofnodi.
- Ychwanegu lefel newydd.
- Os oes arnoch angen cymorth i wybod ar ba lefel yr ydych yn gallu cyfathrebu defnyddiwch y
wybodaeth ddefnyddiol ‘Rwy’n gallu...’
Hyfforddiant Cymraeg i Staff
Hyfforddiant Cymraeg i Staff
Pa gyrsiau sydd ar gael i Staff Prifysgol Aberystwyth?
Mae Dysgu Cymraeg yn cynnig cyrsiau amrywiol i ddysgwyr i gwblhau 120 awr o oriau ar bob lefel.
Mae modd dilyn cyrsiau yn ystod y dydd neu fin nos, drwy ddosbarth rhithiol ar lein, dosbarth wyneb yn wyneb neu gwrs cyfunol.
Ceir manylion llawn y rhaglen ar Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr | Dysgu Cymraeg
Dyma rhai o’r cyrsiau sydd ar gael i staff y Brifysgol:
Cyrsiau Cymraeg yn y Gymuned
- Cwrs Haf Dwys am 4 wythnos
- Cyrsiau 4 awr yr wythnos dros 30 wythnos mewn un flwyddyn
- Cyrsiau 3 awr yr wythnos dros 40 wythnos mewn un flwyddyn ac yn ystod tymor ysgol.
- Cyrsiau 2 awr y flwyddyn dros 60 wythnos mewn dwy flynedd
Cyrsiau ‘Cymraeg Gwaith’
Mae cyrsiau Cymraeg Gwaith yn canolbwyntio ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Bydd staff y Brifysgol yn mynychu’r cyrsiau yn ystod oriau gwaith, ac yn gyffredinol golyga hyn 2 awr o hyfforddiant, ac awr a hanner o waith cartref yn wythnosol er mwyn cwblhau’r 120awr sef un lefel gyfan. Fel rhan o’r cynllun ceir hefyd gyrsiau hunan-astudio ar lefel Mynediad a Sylfaen sy'n rhoi opsiwn hyblyg i staff weithio ar unedau ar amser sy'n gyfleus iddyn nhw, gyda tharged o gwblhau 120 awr mewn blwyddyn. Mae modd cofrestru ar gyfer cyrsiau Cymraeg Gwaith ym mis Ebrill. Am fanylion pellach cysylltwch ag Olwen Morus Olm25@aber.ac.uk
Cyrsiau Blasu Byr ar-lein (5awr)
Mae cyrsiau blasu byr Cymraeg Gwaith ar-lein hefyd ar gael i staff yn ogystal â chyrsiau gloywi byr. Cofrestrwch yma https://dysgucymraeg.cymru/cymraeg-gwaith/cyrsiau-cymraeg-gwaith/cyrsiau-blasu-ar-lein/.
Beth yw cost cyrsiau Cymraeg i staff y Brifysgol?
Mae gan y Brifysgol drefn o dalu am ffioedd staff sy’n mynychu dosbarthiadau Cymraeg a drefnir gan Dysgu Cymraeg. Noder hefyd fod pobl ifanc 18-25 oed yn gallu cofrestru ar gyrsiau Dysgu Cymraeg am ddim fel rhan o Gynllun Llywodraeth Cymru a Chanolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg. Ceir manylion pellach a’r ffurflen ffioedd ar wefan Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg. Os am sgwrs am gyrsiau Cymraeg neu fanylion pellach cysylltwch â Lowri Jones, lwj@aber.ac.uk
Faint o amser mae’n cymryd i ddysgu Cymraeg?
Mae’r tabl isod yn crynhoi manylion lefelau’r pump cwrs Dysgu Cymraeg (Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch a Gloywi) ynghyd â’r isafswm oriau cyswllt a argymhellir e.e. disgwylir y bydd angen o leiaf 120awr ar ddysgwr cwbl newydd i gwblhau lefel mynediad (i lefel A1). Ar gyfer staff ag ychydig o Gymraeg yn barod (e.e. ar lefel A1), byddai’n golygu o leiaf 240awr o gyswllt i gwblhau lefel Canolradd (i lefel B1). Mae’r union nifer yr oriau yn dibynnu ar gynnydd yr unigolyn, ac fel arfer mae’r dysgwyr mwyaf llwyddiannus hefyd yn cwblhau oriau dysgu ychwanegol, er enghraifft drwy gyrsiau adolygu.
|
Enw’r Lefel Cyrsiau Dysgu Cymraeg |
Disgrifiad |
Lefel dysgu Fframwaith Cyngor Ewrop |
Isafswm oriau cyswllt a argymhellir |
|
Mynediad |
Cyrsiau ar gyfer dechreuwyr, sy’n cyflwyno geirfa a phatrymau iaith syml ac ymadroddion pob dydd. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith. |
A1 |
120 |
|
Sylfaen |
Mae’r lefel hon yn adeiladu ar lefel Mynediad ac yn gofyn am rywfaint o brofiad o’r Gymraeg. Mae’r prif bwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfle i drafod pynciau pob dydd fel y teulu a ffrindiau, gwaith a diddordebau. |
A2 |
120 |
|
Canolradd |
Mae’r lefel hon yn adeiladu ar lefel Sylfaen ac yn addas ar gyfer pobl sy’n gyfarwydd â phrif batrymau’r Gymraeg. Mae cyfle i ddatblygu sgiliau sgwrsio, gydag ychydig mwy o waith ysgrifennu, darllen a gwrando. Meithrin siaradwyr hyderus wrth drafod materion pob dydd yw’r prif nod. |
B1 |
120 |
|
Uwch |
Dyma gyfle i ymarfer trafod pynciau a themâu o bob math. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu eu sgiliau darllen, ysgrifennu a gwrando. Meithrin siaradwyr hyderus yw’r prif nod. |
B2 |
360* |
|
Gloywi |
Mae’r cyrsiau Hyfedredd, sy’n addas ar gyfer dysgwyr rhugl a siaradwyr iaith gyntaf, yn cael eu teilwra ar gyfer anghenion y dosbarth. Y nod cyffredinol yw datblygu sgiliau presennol y myfyrwyr ymhellach a’u helpu i fagu hyder. |
|
|
Canolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol
https://learnwelsh.cymru/media/10645/ad-blyn-2020-darllen-spreads.pdf
* Mae tri cwrs ar lefel Uwch – U1, U2 a U3 (120 awr yr un)
Am fanylion ynglŷn â chyrsiau Cymraeg ac adnoddau i’ch helpu gyda’r Gymraeg ewch i wefan Croeso | Dysgu Cymraeg
