Cyflwyno rhoddion i gasgliadau'r Brifysgol

  Casgliadau o ddeunydd printiedig a gynigir i'r Gwasanaethau Gwybodaethau

Yn draddodiadol y mae wedi bod yn swyddogaeth arferol llyfrgell brifysgol i dderbyn rhoddion o ddeunyddiau gan gyn-fyfyrwyr, staff neu unigolion amlwg eraill a chanddynt gysylltiad â'r sefydliad.  Y mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn hapus i barhau i gyflawni'r swyddogaeth hon, ond y mae cyfyngiadau ar le i'w storio ac ar adnoddau staff i'w prosesu yn golygu na ellir derbyn deunydd rhoddedig yn ddiamod mwyach.  Bwriedir i'r canlynol fod yn ganllawiau cyffredinol; nid eu bwriad yw bod yn hollgynhwysol a bydd pob cynnig yn cael ei asesu yng ngoleuni'r amgylchiadau sy'n berthnasol ar y pryd.  Bydd pwysigrwydd y rhoddwr a'u perthynas â'r brifysgol hefyd yn ystyriaeth bwysig wrth asesu unrhyw gynnig.

Egwyddorion sylfaenol:

Fel arfer, bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth ond yn derbyn rhoddion o lyfrau a chyfnodolion ar y ddealltwriaeth glir eu bod yn rhydd i'w prosesu fel y gwelant orau, yn unol â'u rôl o gefnogi anghenion dysgu ac ymchwil Prifysgol Aberystwyth.  Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir cadw deunydd gyda'i gilydd mewn casgliad ar wahân wedi ei labelu.

Gall prosesu olygu un neu fwy o'r canlynol:

  • ychwanegiad at stoc y Llyfrgell

  • rhodd i lyfrgell leol arall (megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

  • rhodd i  Book Aid International, ar gyfer defnydd posibl yn llyfrgelloedd y Trydydd Byd

  • rhodd i elusen, megis OXFAM

  • arwerthiant mewn llyfrgell PA

  • gwerthu i lyfrwerthwr

  • ailgylchu

  • dychwelyd eitemau nad oes eu heisiau i'r rhoddwr (os yw'n dymuno hynny)

Canllawiau a ddefnyddir i asesi deunydd rhoddedig:

Y mae rhoddion o lyfrau a chyfnodolion yn ddengar os:

  • ydynt ar bynciau y mae gan y Brifysgol adran neu gyrsiau perthnasol ar eu cyfer.

  • ydynt yn gopïau ychwanegol o werslyfrau cyfredol

  • ydynt wedi'u cyhoeddi'n ddiweddar a'u bod mewn cyflwr corfforol da iawn

  • ydynt yn llenwi bylchau mewn cyfresi o gyfnodolion

  • ydynt yn waith o ysgolheictod yn y Gymraeg

  • cyhoeddwyd hwy cyn 1850

  • ydynt yn enghreifftiau o argraffu cywrain gan weisg preifat

Nid yw rhoddion o lyfrau a chyfnodolion yn ddengar fel arfer os:

  • ydynt ar bynciau nas cynrychiolir gan adran Brifysgol

  • ydynt yn hen argraffiadau o werslyfrau, sydd bellach wedi'u disodli.

  • yw cyfnodolion yn dyddyblu daliadau presennol

  • yw cyfnodolion yn argraffiadau anghyflawn o deitlau nad ydynt mewn stoc

  • yw eitemau mewn cyflwr corfforol gwael:

  • Tudalennau yn dangos arwyddion o leithder, llwydni neu sbotio

  • Y clawr yn rhydd neu wedi torri

  • Tudalennau yn rhydd, wedi torri neu ar goll

  • Nodiadau mewn llawysgrifen neu danlinellu yn y testun

  • Marciau goramlwg perchenogaeth

  • Yn dod o lyfrgell arall, gyda'u stamp perchenogaeth eu hunain

Croesawir cymorth bob amser gan staff academaidd wrth asesu deunydd rhoddedig, ac fe'i ceisir bob tro y bydd yn ymarferol.