Gwasanaeth Rhyng-Safle

Mae'r Gwasanaeth Rhyng-Safle yn galluogi i:

  • Myfyrwyr a staff sydd wedi lleoli yng nghampws Gogerddan i wneud ceisiadau i lyfrau gael ei anfon i Gampws Gogerddan.

Cyn cyflwyno cais, gofynwn i chi ystyried ymweld â’r Llyfrgell yn bersonol i gael yr eitem sydd ei hangen arnoch.  Fe all fod yn gynt na defnyddio'r gwasanaeth Rhyng-Safle.

  • Gellir cyflwyno ceisiadau  trwy fewngofnodi i Primo, catalog y llyfrgell, drwy ddefnyddio'r cyfarwyddiadau sydd ar gael yma
  • Os oes angen eitem arnoch chi ond mae eisoes allan ar fenthyg, cewch ei rhoi ar gadw, ac wedyn ar ôl iddo gael ei dychwelyd, y bydd yn cael ei gadw wrth y Ddesg Fenthyca i chi am dridiau i'w ddod i'w nôl. Cewch neges ebost i roi gwybod i chi fod yr eitem yn aros amdanoch. Rhoi Eitemau ar Gadw
  • Os ydych wedi cyflwyno cais am lyfr cyn 9yb fe ddylai gyrraedd y lleoliad a ddewiswyd gennych erbyn 3yp yr un diwrnod yn ystod y tymor. Bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl 9yb yn cael eu cyflenwi’r diwrnod canlynol. Noder, os gwelwch yn dda, gall yr amseroedd hyn amrywio gan eu bod yn ddibynnol ar nifer o ffactorau.
  • Yn ystod y gwyliau bydd y gwasanaeth yn rhedeg ddwywaith yr wythnos yn unol â’r gwasanaeth cyrchu o’r storfa allanol.
  • Bydd yr eitem yn cael ei adael yn y lleoliad a ddewisir gennych. Fe’ch hysbysir pan fydd yn barod i'w gasglu.
  • Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer llyfrau yn unig. Nid ydym yn medru cyflenwi cyfnodolion, cyfeirlyfrau, deunydd “I'w defnyddio yn y llyfrgell yn unig” na llyfrau benthyciad byr drwy'r gwasanaeth hwn.