Adnoddau Hyfforddiant

Adnoddau yw’r rhain o rai o'r sesiynau Datblygu Proffesiynol Parhaus a drefnir ac a gynhelir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu.

Fforwm Academi

Mae Fforwm Academi Aber yn agored i aelodau o gymuned y brifysgol: croeso i staff addysgu, tiwtoriaid ôl-raddedig, staff gweinyddol /ategol, a myfyrwyr. Mae'r Fforwm yn rhoi llwyfan i rannu arferion da wrth ddysgu ac addysgu.

Os hoffech gael gwybod am sesiynau sydd ar y gweill, anfonwch e-bost at cpdstaff@aber.ac.uk i gael eich hychwanegu at ein rhestr bostio. I weld cyhoeddiadau a chael mwy o wybodaeth gallwch hefyd ddilyn Blog Fforwm Academi Aberystwyth.

Taflenni Fforwm yr Academi

Mae taflenni o sesiynau blaenorol Fforwm yr Academi i’w cael yma. 

Sesiynau yn 2022-2023

Sesiynau yn 2022-2023

Dysgu Gweithredol ac Ymgysylltiad Myfyrwyr

Gall dysgu gweithredol helpu myfyrwyr i ymroi i dasgau dysgu, hybu dysgu mwy trwyadl, a meithrin meddwl o radd uwch. Gall hyn arwain at gofio a chadw’r hyn a ddysgwyd yn well.

Mae llawer o ddarlithwyr yn pendroni beth y gallwn ni ei wneud ar wahân i 'gyflwyno cynnwys'. Mae'r sesiwn hon yn adeiladu ar sail pennod mewn llyfr am ddysgu gweithredol a fydd yn cael ei gyhoeddi’n fuan. Gan gyfuno diffiniadau cynnar ac ymchwil sydd yn mynd rhagddi ar hyn o bryd i ddysgu gweithredol, rwyf wedi dod i’r farn mai dysgu gweithredol yw unrhyw weithgaredd lle mae myfyrwyr yn cyflawni Tasg Wybyddol Weithredol. Nid y cynnwys ei hun sydd yn bwysig, ond yr hyn y mae’r myfyrwyr yn ei wneud ag ef.

Mae'r sesiwn hon yn archwilio pam a sut y gallem fod eisiau gwneud darlithoedd yn fwy gweithredol a rhyngweithiol. Er bod llawer o arfer da eisoes ym maes dysgu gweithredol yn ein prifysgol, yn enwedig mewn seminarau a sesiynau ymarferol, gall fod yn heriol defnyddio dysgu gweithredol wrth ddarlithio. Nid oes un ateb a fydd yn gweddu i bawb. Dau ddull cyffredin yw torri darlithoedd yn rhannau llai gan ddefnyddio sesiynau rhyngweithio byr rhyngddynt, neu gynnal gweithgareddau datrys problemau hwy sy'n golygu bod yn rhaid i fyfyrwyr baratoi y tu allan i'r dosbarth.

 

Mae adnoddau ar gael yn Saesneg:

Addysgu Ymochrol

Ar ôl cwblhau'r gyfres 4 rhan hon o weithdai yn llwyddiannus, dylai cyfranogwyr allu:

 

  1. Defnyddio modelau ar gyfer addysgu ymochrol wrth gynllunio addysg
  2. Ysgrifennu amcanion dysgu effeithiol yn seiliedig ar dacsonomi Bloom
  3. Cynllunio a chynnal gweithgareddau dysgu priodol i gefnogi'r amcanion
  4. Ystyried amcanion dysgu yn briodol wrth gynllunio asesiadau

Mae addysgu ymochrol yn egwyddor graidd a gydnabyddir ar draws y sector AU ac a amlygir yng Nghod Ansawdd, Cyngor a Chyfarwyddyd QAA: Asesu. Pan fydd asesiad, canlyniadau a gweithgareddau dysgu yn ymochri'n effeithiol, gall gael effaith ddramatig ar addysg myfyrwyr a'i gwneud yn haws i'r athro gynllunio'r profiad dysgu. 

 

Mae'r cyfan yn dechrau gyda'r myfyriwr: beth ddylai’r myfyriwr allu ei wneud ar ôl cwblhau'r wers, y modiwl neu'r cynllun astudio? Yn y sesiynau rhyngweithiol hyn, rydym yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer cynllunio addysgu ymochrol er mwyn creu profiadau dysgu ystyrlon sy'n helpu'r myfyrwyr i ddysgu.

 

Fel y rhan fwyaf o agweddau ar addysgu gwybodus, nid oes 'un ffordd gywir' o gynllunio nac asesu addysg myfyrwyr. Nod y gweithgareddau hyn yw rhoi'r offer i chi allu gwneud penderfyniadau gwybodus ar gyfer cyd-destun eich addysg chi eich hun.

 

Sylwer fod pob gweithdy yn y gyfres gysylltiedig hon yn gofyn cyflawni tasg baratoi fer. Mae hyn yn ein galluogi i dreulio amser yn y gweithdy ar ddefnyddio'r egwyddorion ar gyfer eich cyd-destunau addysgu penodol chi. Mae'r gwaith paratoi yn seiliedig ar y Aligned teaching handout.

 

  • Mae canlyniadau dysgu sydd wedi'u hysgrifennu'n dda yn gwneud cynllunio addysg yn hawdd.
  • Beth fydd myfyrwyr yn gallu ei wneud ar ôl y sesiwn
  • Canolbwyntio ar weithredoedd pendant, nid ‘dangos gwybodaeth o (bwnc)’
  • Anelu at y lefelau uchaf posib ar dacsonomeg Bloom

Creu Deunyddiau Dysgu Hygyrch

Gall y penderfyniadau a wnewch wrth greu deunyddiau dysgu wneud gwahaniaeth mawr i'ch myfyrwyr, yn enwedig y rhai sydd ag anabledd neu wahaniaeth dysgu penodol. Nid oes un fformiwla berffaith ar gyfer pob myfyriwr, ond gallwch sicrhau fod eich dogfennau mor hygyrch â phosib i gynifer â phosib o'r myfyrwyr. Ar ben hynny, mae dogfennau hygyrch yn haws eu defnyddio, sy'n helpu pob myfyriwr i ddysgu'n well.

 

Mae'r recordiadau hyn yn cynnwys dogfennau Word, PowerPoint, PDF, a ffeiliau cyfryngau y mae staff yn eu darparu'n electronig trwy Blackboard neu debyg. Byddwn yn gweithio drwy Restr Wirio Hygyrchedd Digidol ac yn esbonio sut y gall newidiadau bach helpu eich myfyrwyr.

 

Ar ôl gweld y dogfennau hyn, dylech allu

 

  • Defnyddio'r Gwirydd Hygyrchedd wrth greu dogfennau MS Office
  • Defnyddio Arddulliau i wneud strwythur eich deunydd yn glir i fyfyrwyr
  • Defnyddio lliw a chyferbynnedd priodol i wneud dogfennau'n ddarllenadwy
  • Defnyddio gosodiadau priodol wrth greu ffeiliau PDF o ddogfennau MS Office

Recordiadau

Cyflwyniad (3 munud)

 

Pam hygyrchedd? (6 munud)

 

Cyflwyno'r Rhestr Wirio Hygyrchedd (2 funud)

 

Creu dogfennau Word hygyrch (13 munud)

 

Creu cyflwyniadau PowerPoint hygyrch (6 munud)

 

Creu PDF hygyrch (4 munud)

 

Sain a fideo hygyrch (2 funud)

 

Deunyddiau Ychwanegol

Taflen sesiwn hyfforddi ar Greu Deunyddiau Dysgu Hygyrch (DOCX)

 

Rhestr Wirio Hygyrchedd Digidol (DOCX)

 

Fideo gwirydd hygyrchedd

 

Offeryn disgrifio delwedd POET

 

Gwirydd Cyferbynnedd

 

Fideo ar Ddefnyddio Arddulliau

Cynhyrchu Deallusrwydd Artiffisial

Mae offer Cynhyrchu Deallusrwydd Artiffisial fel ChatGPT yn cael effaith sylweddol ar addysg uwch oherwydd gall myfyrwyr eu defnyddio i greu cynnwys sydd wedyn yn cael ei gyflwyno fel gwaith y myfyriwr ei hun. Er mwyn ymateb i'r her hon, rydym wedi trefnu Gweithgor Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol gyda chynrychiolaeth o'r tair Cyfadran, y Gwasanaethau Gwybodaeth, y Gofrestrfa, ac Undeb Myfyrwyr Aber. Yma ceir rhai syniadau y gall staff eu defnyddio'r semester hwn i esbonio eich asesiadau i fyfyrwyr ac i ymdrin â phryderon cyffredin wrth farcio. Mae Undeb y Myfyrwyr yn trefnu canllawiau i fyfyrwyr.

Nid oes un ateb a fydd yn gweddu i bawb. Nid yw'r rhestr sydd wedi’i hatodi yn un gynhwysfawr, ac mae'r sefyllfa’n newid yn chwim wrth i’r offer hyn ddatblygu. Rydym yn annog y staff dysgu i drafod eich cyd-destun dysgu eich hun â chydweithwyr yn eich adran a phenderfynu ar ddull cyson rhyngoch.

Dylech ddefnyddio’r dogfennau hyn ar y cyd â chanllawiau’r ASA ar uniondeb academaidd a deallusrwydd artiffisial.

Mae'r maes hwn yn un sy’n datblygu'n gyflym a cheir newidiadau sylweddol ar fyr rybudd. Mae Turnitin yn rhyddhau Adnodd Canfod Deallusrwydd Artiffisial ym mis Ebrill 2023. Sylwch y bydd angen i’r staff dysgu ddeall yr hyn y gellir ei gyflawni’n ymarferol â’r offer hyn, a’u cyfyngiadau (gweler papur briffio’r ASA uchod).

Ni all unrhyw offer canfod roi tystiolaeth bendant. Gall myfyrwyr sydd eisiau osgoi cael eu canfod wneud hynny. Gall unrhyw offer nodi ei bod yn debyg bod myfyriwr wedi defnyddio deallusrwydd artiffisial, er nad yw hynny’n wir, gan roi canlyniad positif anghywir. Fodd bynnag, gall offer canfod deallusrwydd artiffisial fod yn ddefnyddiol wrth nodi pryderon mewn achosion difrifol posibl lle mae uniondeb academaidd yn y fantol. 

Ymddygiad Academaidd Annerbyniol

Mae'r Ffurflen YAA a'r tabl cosbau wedi cael eu diweddaru er mwyn cynnwys cyfeiriad at gyflwyno gwaith a gynhyrchwyd drwy ddeallusrwydd artiffisial fel eich gwaith eich hun (cymeradwywyd gan y Bwrdd Academaidd ym mis Mawrth 2023).

Rhestr ddethol o adnoddau allanol

Symud i ddysgu ar-lein

Mae'r sesiwn hon yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i addysgu ar-lein. Mae'r fideos hyn yn rhoi gwybodaeth am wahanol agweddau ar addysgu ar-lein:

 

Cyflwyniad (7 munud)

 

Defnyddio Blackboard (6 munud)

 

Panopto a Teams (10 munud)

 

Asesu (11 munud)

 

Meddalwedd Trydydd Parti (4 munud)

 

Mae gennym hefyd gyfres o recordiadau byrion ar osod gweithgareddau rhyngweithiol yn Blackboard

 

Trosolwg: pa weithgareddau rhyngweithiol alla i eu gwneud yn Blackboard? (5 munud)

Dod o hyd i'ch modiwl ymarfer a’i ddefnyddio (2 funud)

Blogiau (10 munud)

Byrddau Trafod (5 munud)

Wicis (4 munud)

Cyfnodolion (3 munud)

Gallwch hefyd wylio’r rhain fel un fideo (35 munud)

Adnabod ac Atal Llên-ladrad

 

Mae llên-ladrad ac ymddygiad academaidd annerbyniol yn faterion anodd i unrhyw un sy'n addysgu ym myd addysg uwch. Beth yw'r arwyddion o lên-ladrad posib, a sut gallwn ni ymchwilio pan fyddwn yn amau achos o lên-ladrad?

 

Mae hon yn gyfres o seminarau dwy ran.

 

Mae Rhan 1 yn ymwneud ag adnabod ac ymateb i lên-ladrad. Fe'i cynhelir ar ffurf cyfuniad o gyflwyniad / trafodaeth yn seiliedig ar y cwestiynau canlynol:

 

  1. Beth yw llên-ladrad?
  2. Sut mae myfyrwyr yn llên-ladrata?
  3. Pam fod myfyrwyr yn llên-ladrata?
  4. Sut mae ei adnabod?

Bydd Rhan 2 yn rhoi cyfle i gyfranogwyr drafod sut i ddatblygu asesiadau sy'n ‘cynllunio i osgoi llên - ladrad '. Byddwn yn edrych ar wahanol fathau o asesu sy'n ei gwneud yn anos i fyfyrwyr ‘dorri a gludo’ gwybodaeth o ffynonellau eraill. Byddwn yn edrych ar y defnydd o asesiad ffurfiannol i dynnu sylw at faterion posib cyn yr aseiniad terfynol. Byddwn hefyd yn edrych ar strategaethau ar gyfer ymgorffori ymddygiad academaidd da i’r cwricwlwm.

 

Adnoddau

I weld adnoddau defnyddiol i fyfyrwyr, gweler y LibGuide ar Ymwybyddiaeth o Gyfeirnodi a Llên-ladrad a grëwyd gan Dîm Ymgysylltu Academaidd y Gwasanaethau Gwybodaeth.

 

Efallai yr hoffech chi hefyd wylio rhai o'r clipiau fideo isod: