Addysg

Beth fydda i’n ennill o’m pwnc?

Bydd y sgiliau a'r profiad a ddatblygwyd yn ystod eich gradd mewn Addysg, Astudiaethau Plentyndod neu Addysg a Datblygiad Rhyngwladol yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer ystod o yrfaoedd yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws sectorau sy'n cynnwys addysg, iechyd, gofal cymdeithasol, elusennau, llunio polisïau a sefydliadau anllywodraethol. Bydd y sgiliau byddwch wedi datblygu hefyd yn trosglwyddo’n dda mewn i nifer o rolau i raddedigion eraill sy'n gwerthfawrogi eich gallu i profi sgiliau mewn ymchwil, ymwybyddiaeth feirniadol, galluoedd rhyngbersonol, cyfathrebu ac adrodd yn rhugl a hyderus.

Beth alla i ei wneud gyda’m pwnc?

Mae graddedigion â gradd mewn addysg yn dilyn amrywiaeth o yrfaoedd gan gynnwys swyddi gweinyddol o fewn sefydliadau addysgol ac awdurdodau addysg lleol, newyddiaduraeth addysgol, gwaith elusennol, cwnsela myfyrwyr a lles. Mae'r rhai sydd â diddordeb mewn addysgu uwchradd (yn astudio 50% o'u pwnc addysgu) yn symud ymlaen i gwneud TAR. Os addysg yw eich prif bwnc o fewn eich gradd anrhydedd cyfun, yna fyddwch yn gymwys ar gyfer y TAR cynradd yn unig. Mae nifer o raddedigion addysg yn ceisio arbenigo ymhellach (weithiau fel gofyniad broffesiwn) drwy ddewis astudio ôl-raddedig ymhellach ar draws ystod o feysydd.

Mae graddedigion â gradd mewn Astudiaethau Plentyndod hefo sylfaen ddelfrydol ar gyfer gyrfaoedd ym maes addysgu ac addysg (gan gynnwys AAA), gofal cymdeithasol, nyrsio, therapi lleferydd, gwaith cymdeithasol, lles plant, therapi chwarae, y diwydiant hamdden, cyfraith plant a ymchwil phlentyndod. Mae nifer o raddedigion yn dewis i ymgymryd ag astudiaeth bellach sy'n dewis dilyn cwrs TAR Cynradd neu Meistr.

Bydd y rhai sy'n graddio o radd mewn addysg a datblygiad rhyngwladol wedi elwa o ffocws datblygiad cymdeithasol y gymuned a gyda phersbectif byd-eang. Bydd hyn yn eich galluogi i ddilyn gyrfaoedd mewn sefydliadau elusennol, sefydliadau anllywodraethol gartref neu dramor, cyrff sy'n gwneud polisi addysg neu mewn rôl ymgynghorol.

Edrychwch ar y sectorau canlynol i gael gwell dealltwriaeth o rolau i raddedigion ar agor i chi a'r profiad gwaith posibl a / neu ofynion astudio pellach, efallai y bydd angen i chi eu cymryd mewn i ystyriaeth:

Ble ydw i’n dechrau chwilio am brofiad gwaith a swyddi i raddedigion?

Mae yna nifer o ffyrdd i gael profiad perthnasol o weithio gyda phlant. Gallech roi cynnig ar clybiau chwaraeon ieuenctid lleol, grwpiau Sgowtiaid a Brownies, cynlluniau chwarae haf, ac Ysgolion Sul. Mae tiwtora neu fentora preifat yn bosibilrwydd hefyd, yn enwedig os oes gennych sgil defnyddiol. Os ydych yn dymuno i fynd i mewn i gwaith cymdeithasol, bydd rhywfaint o brofiad o weithio gyda'r gymuned leol fod yn ddefnyddiol.

Os ydych yn ystyried gyrfa mewn addysgu neu waith cymdeithasol mae angen i chi ddangos cymaint o brofiad ag y bo modd achos mae gystadleuaeth yn ffyrnig am leoedd cwrs. Gall profiad yn yr ystafell ddosbarth cael ei ennill drwy drefnu ymweliadau ag ysgolion i arsylwi a siarad ag athrawon.

Adnoddau Defnyddiol:

DU

Tramor

Cymdeithasau a chyrff proffesiynol

Mae'r sefydliadau hyn yn hybu buddiannau pobl sy'n gweithio mewn proffesiynau penodol. Mae gan rai rhestrau o gyflogwyr sy'n aelodau o'r gymdeithas a gall hysbysebu swyddi tra gall eraill fod yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth wrth ymchwilio i gyflogwyr ar gyfer ceisiadau neu sy'n ystyried cais ar hap.

Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?

Fe welwch isod rai enghreifftiau o swyddi mae ein graddedigion Addysg / Astudiaethau Plentyndod wedi mynd i mewn i, ynghyd â rhestr o gyflogwyr sy'n cyflogi graddedigion hyn, a gymerwyd o sawl arolwg DLHE diweddar.

Mae enghreifftiau o swyddi a gofrestrwyd gan raddedigion Aberystwyth Addysg Astudiaethau / Plentyndod ac ôl-raddedigion:

Enghreifftiau o swyddi cyntaf graddedigion ac uwchraddedigion addysg Aberystwyth:
  • Amryw Athrawon Cynradd
  • Amryw Athrawon Uwchradd
  • Artist
  • Arweinydd Chwarae
  • Athro Cyflenwi
  • Awdur ac Ymchwilydd
  • Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig
  • Cynorthwy-ydd Cefnogi Busnes
  • Cynorthwy-ydd Ymchwil
  • Cynorthwy-ydd Tŷ (Oriel Gelf)
  • Darlithydd
  • Gweinyddydd
  • Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd
  • Gweithiwr Cefnogol Awtistiaeth
  • Marchnatwr Cynorthwyol
  • Pennaeth Adran
  • Rheolwr Warws
  • Swyddog Datblygu
  • Swyddog Datblygu Prosiect
  • Swyddog Gweithgareddau
  • Swyddog Gwybodaeth Gyhoeddus
  • Tiwtor
  • Tiwtor Sgiliau Sylfaenol
  • Ymchwilydd
Enghreifftiau o'r cyflogwyr yr aeth graddedigion ac uwchraddedigion addysg Aberystwyth i weithio iddynt:
  • Amryw Gynghorau Sir
  • Amryw Sefydliadau Addysg Uwch
  • Amryw Ysgolion Cynradd
  • Amryw Ysgolion Uwchradd
  • Awdurdod Addysg Lleol
  • Capita Education Resourcing
  • Cymunedau'n Gyntaf
  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Gateway Academy
  • HSBC
  • Hunan-gyflogedig
  • Mencap
  • Prif Swyddfa Tesco
  • Prifysgol Aberystwyth
  • Tates Ltd
  • Torre Abbey