Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Beth fydda i’n ennill o’m pwnc?

Bydd eich gradd yn darparu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan gynnwys profiad o weithio mewn grŵp, arwain, cynllunio, hunan-reoli, creadigrwydd ac ymchwil. Mae eich sgiliau trosglwyddadwy a’r lefel o gyrhaeddiad deallusol a enilloch drwy astudio eich pwnc yn golygu y bydd gennych lawer o wahanol ddewisiadau gyrfa pan fyddwch yn graddio. Mae canran uchel o’r holl swyddi gwag lefel gradd yn agored i raddedigion unrhyw ddisgyblaeth, ac eto nid yw llawer o fyfyrwyr yn ymwybodol o hyn, neu cânt eu dylanwadu gan ffeithiau di-sail ynglŷn â’r dewisiadau sydd ar gael iddynt.

Beth alla i ei wneud gyda’m pwnc?

Mae graddedigion yn dod o hyd i swyddi gyda chwmnïau ffilm a theledu, yn gweithio mewn rolau megis ymchwilwyr rhaglenni ar gyfer cyfryngau darlledu amrywiol, rheolwyr llawr, gweithredwyr camerâu, technegwyr sain, rhedwyr, cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr. Bydd eich gradd hefyd yn helpu i’ch paratoi ar gyfer meysydd megis dysgu, ymchwil, marchnata, cynllunio cyfryngau, trefnu digwyddiadau, y diwydiannau cyfrifiadura, a chysylltiadau cyhoeddus. Mae llawer o raddedigion hefyd yn gweithio ar eu liwt eu hunain yn y diwydiannau creadigol.

Gwybodaeth am y dewisiadau posibl gyda’ch pwnc:

Mae ‘Options series’ AGCAS yn ymdrin â dros 70 o bynciau gradd penodol. Mae’n edrych ar y sgiliau rydych wedi’u dysgu drwy astudio eich pwnc, y rhagolygon cyflogaeth a’r swyddi posibl sydd ar gael i chi, yn ogystal â dewisiadau eraill megis astudiaethau pellach a chymryd amser allan.

Mae’r wefan TARGETjobs hefyd yn cynnwys adran ar ddewisiadau gyrfa ar gyfer gwahanol raddau, sy’n werth edrych arni.

Pa gymorth sydd ar gael?

Mae gennych Ymgynghorydd Gyrfaoedd penodedig sy’n gweithio’n agos â’ch adran i ddarparu cymorth, cyngor a gwybodaeth. Cynhelir gweithdai a digwyddiadau gyrfaoedd yn yn eich adran i hyrwyddo cyfleoedd profiad gwaith, eich helpu i gynllunio’ch gyrfa, ac sydd hefyd yn gyfle i rwydweithio gyda phobl broffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol. Cyflwynir rhaglen addysg gyrfaoedd yn ganolog hefyd, a gall uwchraddedigion fanteisio ar y rhaglen Hyfforddi Sgiliau Uwchraddedig. Darperir DPP yn eich adran a’i nod yw eich helpu i reoli eich gyrfa a’ch datblygiad personol. Mae croeso i chi alw heibio’r Gwasanaeth Gyrfaoedd unrhyw bryd i gael cymorth neu wybodaeth bellach.

Ble ydw i’n dechrau chwilio am brofiad gwaith a swyddi i raddedigion?

Ni ellir gorbwysleisio gwerth profiad gwaith a thra bod pob profiad gwaith yn werthfawr, gall profiad gwaith wedi’i deilwra fod yn fanteisiol iawn i chi, yn enwedig os ydych am weithio yn y cyfryngau. Mae profiad gwaith yn gyfle i ddechrau rhwydweithio yn eich diwydiant dewisol ac mae llawer o swyddi yn cael eu llenwi ar dafod leferydd. Trwy fynd â’ch profiad gwaith gam ymhellach a chael profiad perthnasol sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch dyheadau ar gyfer y dyfodol, byddwch yn datblygu’r sgiliau y mae cyflogwyr y sector hwnnw’n chwilio amdanynt. Hefyd, byddwch chi’n dangos brwdfrydedd, ymrwymiad a diddordeb mawr yn y maes.

Mae’r dolenni isod yn fan cychwyn pan fyddwch yn chwilio am gyfleoedd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch pwnc. Cofiwch fod cymorth ar gael gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd pan fyddwch yn gwneud cais am swyddi a phrofiad gwaith.

Mewn rhai achosion, mae’n bosib y cewch fanylion am leoliadau profiad gwaith, ond yn fwy aml, bydd rhaid i chi ddefnyddio’r wybodaeth i roi syniadau i chi am geisiadau ar hap. Er enghraifft, cewch swyddi gwag o bosib sy’n berthnasol i’ch pwnc ond sydd ddim yn lleoliadau gwaith; ond, os hoffech gael profiad yn y maes hwnnw, fe allech anfon cais ar hap at y cyflogwr i weld a oes posibilrwydd o leoliad gwaith gyda nhw. Gall yr ymgynghorwyr gyrfaoedd eich helpu gyda’r broses hon.

Cofiwch fod llawer o gyflogwyr, yn enwedig y cwmnïau mwy o faint, yn cynnwys manylion lleoliadau gwaith ar eu gwefannau. Os hoffech weithio i sefydliadau penodol, edrychwch ar yr adrannau Gyrfaoedd neu Recriwtio ar eu  gwefannau i weld beth sydd ar gael.

Yn olaf, cofiwch y bydd llawer o’r dolenni isod yr un mor ddefnyddiol i chi pan fyddwch yn chwilio am swyddi i raddedigion.

DU

Tramor

Cymdeithasau a chyrff proffesiynol

Mae’r cyrff hyn yn hyrwyddo buddiannau pobl sy’n gweithio mewn proffesiynau penodol. Mae rhai yn cynnwys rhestrau o gyflogwyr sy’n aelod o’r gymdeithas dan sylw, ac mae’n bosib y byddant yn hysbysebu swyddi.  Gall eraill fod yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol wrth ymchwilio i gyflogwyr ar gyfer ceisiadau neu os ydych yn ystyried cyflwyno cais ar hap.

 

Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?

Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i swyddi sy’n ymwneud â’u cwrs gradd, megis actor, rhedwr, cynorthwyydd gwisgoedd, rheolwr llawr cynorthwyol, ymchwilydd teledu ac ysgrifennwr sgriptiau dan hyfforddiant. Mae myfyrwyr eraill wedi defnyddio’r sgiliau trosglwyddadwy a ddysgwyd ar eu cwrs gradd i gael swyddi megis heddwas, athro, gweithredydd cyfrifon neu diwtor addysg i oedolion. Dyma rai enghreifftiau o gyflogwyr yr aeth graddedigion astudiaethau theatr, ffilm a theledu Aberystwyth i weithio iddynt:

  • Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
  • Acrobat Television
  • Belgrade Theatre
  • Channel 4
  • Fiction Factory Film
  • Coleg Gorseinon
  • ITV Cymru
  • Urdd Gobaith Cymru
  • Opera Cenedlaethol Cymru