Trosolwg

Pantycelyn, neuadd breswyl enwocaf Cymru, yn cynnig llety en-suite ar gyfer hyd at 200 o fyfyrwyr, sy’n dymuno byw trwy gyfrwng y Gymraeg, gofod cymdeithasol cyffrous, cyfleusterau gemau ac ystafelloedd astudio gyda’r offer diweddaraf.

Bum munud ar droed o gampws Penglais ac o’r dref, Pantycelyn yw calon cymuned fywiog myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth.

Yn unol â thraddodiad Pantycelyn, bydd y breswylfa yn neuadd agored ac ar gael i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ac unrhyw fyfyrwyr sy'n edrych i ddysgu'r Gymraeg.

Mae hefyd yn gartref i UMCA – Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth – tîmau chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol Y Geltaidd, ac Aelwyd Pantycelyn.

Mae Pantycelyn yn unigryw gan ei bod neuadd arlwyo rhannol sy’n cynnig cyfle i breswylwyr gyd-fwyta a chymdeithasu amser bwyd yn y ffreutur ar y llawr gwaelod.

Hefyd ar y llawr gwaelod fe welwch nifer o ystafelloedd cymunedol amlbwrpas, sy'n cynnig ystod eang o gyfleusterau a gwasanaethau.

Pantycelyn, dy gartref oddi cartre, a llawer mwy.

Cyfleusterau a Gwasanaethau

Dyma rai o’r brif gyfleusterau Pantycelyn:

  • Llety arlwyo rhannol gyda bwyty annatod ar y llawr gwaelod, ar gael dydd Llun - dydd Gwener ar gyfer:
    • brecwast 8.00yb - 10.15yb
    • swper 5.00yp - 7.00yp
  • Yn ystod amseroedd eraill, gan gynnwys y penwythnosau, mae yna ystod eang o fwyd poeth ar gael yn Undeb y Myfyrwyr, Canolfan y Celfyddydau a Tamed Da. Ceir rhagor o fanylion ar dudalennau’r Gwasanaethau Croeso.
  • Wi-Fi a chysylltiad gwifrau
  • Ystafelloedd astudio tawel gyda chyfleusterau cyfrifiadurol
  • Dwy ystafell gyfarfod fach
  • Pedair ystafell gyffredin ar y llawr gwaelod:
    Boed hynny ar gyfer gwaith grŵp, fel gofod perfformio, ymarferion cerdd, ar gyfer cyfarfodydd cymdeithas neu ddim ond lle arall i eistedd, astudio ac ymlacio - mae gennym ystafelloedd gyda cyfleusterau amlgyfrwng, piano, seddi meddal, byrddau, desg a chyfleusterau gemau - popeth y gallwch chi ei angen o dan yr un to!
    • Lolfa Fach
    • Lolfa Fawr
    • Ystafell Gyffredin Hŷn
    • Ystafell Gyffredin Iau
  • Swyddfa UMCA – Undeb Myfyrwyr Cymreig Aberystwyth
  • Ystafell post gyda blychau post diogel
  • Cyfleusterau golchi dillad
  • Gwasanaeth glanhau a ddarperir ym mhob man cymunedol y tu allan i'ch ystafell, gan gynnwys mynedfeydd, glaniadau, grisiau a choridorau a lleoedd cymdeithasol ar y llawr gwaelod
  • Cyfleusterau gwerthu
  • Storfa ddiogel i gadw beiciau.
  • Pwyntiau casglu Sbwriel ac Ailgylchu
  • Parcio (cyfyngedig, angen trwydded)
  • Cynorthwywyr Preswyl sy'n darparu cefnogaeth ac arweiniad i chi.

Lleoliad

Map showing location of PantycelynCliciwch ar y map i weld lleoliad Pantycelyn.

Mae Pantycelyn o fewn taith gerdded dwy funud i:

Galeri

Lluniau artistiaid o ystafell wely nodweddiadol ym Mhantycelyn. (cliciwch ar y delweddau i weld fersiwn fwy)

Ensuite bedroom
Ensuite bedroom
Ensuite bedroom
The Refrectory
Quiet Study Room
Y Lolfa Fawr
Y Lolfa Fach

Ffioedd

Math o Ystafell

Cost Wythnosol 2020 / 2021

Hyd y Drwydded 2020/2021

Cost Wythnosol 2021/2022

Hyd y Drwydded 2021/2022
Sengl £167.02 (yn cynnwys lwfans bwyd o £50 yr wythnos) 33 wythnos* £170.78 (yn cynnwys lwfans bwyd o £50 yr wythnos) 33 wythnos**

 

*33 wythnos =  

18/09/2020 – 12/12/2020

02/01/2021- 20/03/2021

10/04/2021 – 18/06/2021

**33 wythnos =

24/09/2021 - 18/12/2021

08/01/2022 - 02/04/2022

23/04/2022 - 18/06/2022

Er ei bod yn ofynnol i chi adael Pantycelyn yn ystod gwyliau'r Nadolig a'r Pasg, gellir gadael eich eiddo ym Mhantycelyn a gellir archebu nosweithiau ychwanegol ar gyfradd llety yn unig (dim darpariaeth arlwyo) yn ystod y cyfnodau gwyliau hyn.

Mae'r lwfans bwyd yn hyblyg - os na ddefnyddiwch y lwfans dyddiol / wythnosol, bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo a gellir ei ddefnyddio ar unrhyw adeg hyd at ddiwedd eich Trwydded.

 

 Darganfyddwch beth sydd wedi'i gynnwys yn y Ffioedd Llety