Trosolwg

Mae Stiwdios Fferm Penglais i'w cael wrth ymyl Pentre Jane Morgan, ar ochr arall y ffordd i Gampws Penglais, ac mae modd cyrraedd y campws yn ddiogel dros y bont droed. Mae'n cynnig y llety myfyrwyr diweddaraf oll, wedi'i godi'n unswydd, gydag ystafell ymolchi i bob ystafell wely. O fewn pellter cerdded hawdd i adeiladau academaidd y Brifysgol, mae'r llety newydd yn darparu amgylchedd eithriadol i fyw ac astudio ynddo, gydag ystafelloedd gwely o faint da gydag ystafelloedd ymolchi preifat, a fflatiau stiwdio o ansawdd uchel, gan gynnwys cyswllt gwifr a diwifr â'r rhyngrwyd.  Mae man gwasanaethau canolog cyfleus lle y ceir caffi gyda bwrdd pŵl, mannau astudio 24/7, siop, peiriant gwerthu, golchfa, storfa feiciau, ac adnoddau cymdeithasol a chwaraeon.

Llety

Mae Fferm Penglais yn gartref i ryw 1000 o fyfyrwyr rhwng 22 o flociau; 20 o flociau sy'n cynnwys ystafelloedd gyda'u cyfleusterau eu hunain, a 2 ohonynt sy'n cynnwys fflatiau stiwdio.

Mae pob bloc yn cynnwys naill ai 6 neu 9 fflat hunangynhwysol, a 6 neu 8 ystafell wely sengl ym mhob un.

Mae’r rhain yn stiwdios eang hunan-gynhwysol ar gyfer un person, sy’n cynnwys eich ystafell wely eich hun, ystafell ymolchi a chegin addasadwy gyda lle bwyta.

Arlwyo

Mae myfyrwyr Fferm Penglais yn arlwyo ar gyfer eu hunain, gan rannu ceginau mewn fflatiau hunangynhaliol.

Mae gan Fferm Penglais siop ar y safle yn Yr Hwb sy’n cynnig yr eitemau sylfaenol am bris isel megis, bara ffres a llaeth, bwydydd wedi’u rhewi, pethau ymolchi a glanhau.

Mae Fferm Penglais wedi’i lleoli 5 munud ar droed o archfarchnad CK's, neu gall myfyrwyr siopa yn yr archfarchnadoedd mawr yn y dref.

Ond, os hoffech ddefnyddio ein cyfleusterau arlwyo gallwch roi arian ar eich Cerdyn Aber, neu gall teulu/ffrindiau ychwanegu ato ar eich rhan, i’w ddefnyddio yn unrhyw un o’r bwytai ar y campws – mi gewch ostyngiad o 10% yn ogystal!

Adnoddau

Dyma rai o'r brif gyfleusterau Fferm Penglais:

• Llety hunanarlwyo.
• Stiwdios hunangynhaliol.
• Cyswllt Di-wifr a Gwifredig.
• Mynediad i'r Canolfannau Dysgu (Lolfa Rosser neu Lolfa PJM).
• Gwasanaeth glanhau yn y mannau cyhoeddus y tu allan i'ch fflat - mynedfeydd, pen y grisiau, y grisiau a choridorau.
• Adnoddau golchi dillad.
Caffi gyda siop ar y safle, Wi-Fi, soffas, peiriannau gwerthu ac ardaloedd astudio grŵp.
Ystafelloedd y Gellir eu Llogi.
• Peiriannau gwerthu.
• Storfa ddiogel i gadw beiciau.
• Mannau casglu sbwriel ac ailgylchu.
Parcio(cyfyngedig, angen trwydded).
• Mae Cynorthwywyr Preswylfa'n darparu cymorth a cyngor.

Beth sydd yn eich Stiwdio?

Ystafell wely:

• Gwely dwbl (4 troedfedd 6) a matres.
• Cabinet ochr y gwely.
• Cwpwrdd dillad.
• Drych hir.
• Rheilen hongian.
• Desg a chadair cyfrifiadur.
• Silffoedd llyfrau.
• Hysbysfwrdd.
• Bin gwastraff.

Ystafell ymolchi:

• Cawod.
• Toiled.
• Basn ymolchi.
• Drych.
• Bin pedal.

Cegin / Ardal fwyta:

• Ffwrn gyfunol.
• Hob anwytho *Angen sosbenni a llestri coginio arbennig
• Oergell / Rhewgell.
• Sinc.
• Cypyrddau.
• Tegell.
• Tostiwr.
• Hwfer.
• Haearn smwddio a bwrdd smwddio.
• Bwced a mop.
• Padell lwch a brwsh.
• Bwrdd a 2 gadair.
• Cadair dwba.

*Dim ond sosbenni metel wedi’u magneteiddio, er enghraifft haearn bwrw neu ddur, y gallwch chi eu defnyddio. Ni fydd sosbenni alwminiwm na chopr yn gweithio oni bai bod y gwaelod wedi’i fondio â metel magnetig. Gwnewch yn sicr bod y sosbenni sydd gennych yn addas i’w defnyddio ar hob anwythiad – dylai hyn fod wedi’i ddangos yn glir ar y blwch mewn geiriau neu symbolau

Lleoliad

Map  Cliciwch ar y map i weld union leoliad Fferm Penglais.

O fewn pum munud o gerdded o Fferm Penglais gallwch gyrraedd:

Ffioedd

Math o ystafell

Cost Wythnosol 2023/ 2024

Hyd y Contract 2023/ 2024

Cost Wythnosol 2024/ 2025

Hyd y Contract 2024/ 2025

Sengl Stiwdio
£184.63
40 wythnos*
£192.02
40 wythnos**

*O 10.00yb ar 23/09/2023 - 10.00yb ar 28/06/2024

**O 10.00yb ar 20/09/2024 - 10.00yb ar 27/06/2025

Darganfyddwch beth sydd wedi'i gynnwys yn y Ffioedd Llety