Canolfannau Dysgu ac Ystafelloedd y gellir eu Llogi

Mae'r Brifysgol yn darparu lleoedd rhad ac am ddim i chi fynd i gymdeithasu, gwneud prosiectau grŵp neu weithio'n unigol.
Canolfannau Dysgu
Yma cewch fynediad i:
- Gyfrifiaduron i weithio arnynt
- Llungopïwr ac Argraffydd
- WIFI
- Ardaloedd gweithio i grwpiau mawr
- Ardal gyda seddi cyfforddus
- Peiriannau bwyd a diod
Mae'r Canolfannau Dysgu ar gael ym Mloc Adnoddau PJM a Rosser.