Archwiliadau

Os ydych chi wedi byw gyda ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf byddwch yn cofio ein bod yn arfer cynnal archwiliadau glanhau bob 3 wythnos yn eich ardaloedd cymunedol.
Yn sgil y sefyllfa bresennol byddwn yn cynnal gwiriadau ar yr offer diogelu rhag tân yn eich ardal gymunedol a byddwn yn sicrhau nad oes unrhyw beth yn eich fflat yn achosi risg o ran iechyd a diogelwch i chi nac i eraill.