Ffoaduriaid o Wlad Belg yn Aberystwyth

Tirlun o'r gaeaf ger AberystwythYm mis Medi 1914, ychydig wythnosau ar ôl dechrau’r Rhyfel Byd cyntaf, anfonodd y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies, Llandinam, eu cyfaill Thomas Jones , yr Uwchgapten Burdon-Evans, cyfreithiwr ac asiant busnes y teulu Davies, ynghyd â Fabrice Polderman, Athro Ieitheg ym Mhrifysgol Ghent, i Wlad Belg i wneud trefniadau i nifer o artistiaid ddianc o fygythiad y rhyfel. Erbyn 3 Hydref roeddynt wedi casglu ynghyd 91 o artistiaid a cherddorion a’u teuluoedd a llwyddwyd i ddianc ar draws y Sianel yn ‘y cwch olaf ond un i adael’.

Rhaglen o gyngerddYmsefydlodd rhai o’r teuluoedd hyn yn ardal Aberystwyth a chynhaliwyd nifer ohonynt drwy gydol y rhyfel gan haelioni Daviesiaid Llandinam, teulu a fu am flynyddoedd lawer yn gymwynaswyr hael iawn i Brifysgol Aberystwyth. Ym 1916 gwirfoddolodd Gwendoline a Margaret Davies i weithio i Groes Goch Ffrainc a mynd i weini i filwyr clwyfedig mewn gwersyll ger Troyes. Cyn gadael Cymru, ysgrifennodd Gwendoline at Gofrestrydd Prifysgol Aberystwyth yn dweud ei bod hi a’i chwaer ‘yn awyddus iawn i gynorthwyo Coleg Aberystwyth’ a’i bod am sefydlu rhywbeth yn fuan rhag ofn na ddychwelai o Ffrainc*. Dros y blynyddoedd nesaf derbyniodd y Coleg symiau a fyddai heddiw yn werth dros bum miliwn o bunnau gan y chwiorydd, ond y cyfan yn hollol ddienw.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Moira Vincentelli am ganiatâd i gynnwys yma ei herthygl Teulu Davies ac arlunwyr a cherddorion Belgaidd ar ffo yng Nghymru a gyhoeddwyd gyntaf yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyfrol 22, Rhifyn 2, Gaeaf 1981.

* E.L. Ellis, The University College of Wales Aberystwyth, 1872-1972. t.179. (CELT LF1155.E4)

Gweler hefyd Art in Exile: Flanders, Wales and the First World War.  (CELT N6968.A7 Qto)