Eiddo Coll

Nid yw'r Brifysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddiogelwch eiddo personol y defnyddiwr.  Byddwch cystal â gofalu am eich eiddo a labelu dyfeisiau cludadwy gyda'ch enw llawn, rhif cyfeirnod myfyriwr neu enw defnyddiwr.

Dylai unrhyw eiddo coll a ddewch o hyd i yn Llyfrgell Hugh Owen neu Lyfrgell Gwyddorau Ffisegol gael ei gyflwyno i’r ddesg ymholiadau yn Llyfrgell Hugh Owen.

Bydd eiddo coll yn cael ei gofnodi ar ein cronfa ddata Eiddo Coll.

Bydd staff yn ceisio canfod perchennog unrhyw eiddo coll, lle y bo'n bosibl, byddwn yn cysylltu â nhw i roi gwybod iddynt fod yr eitem wedi'i darganfod. 

Dychwelir eitemau yn y cyflwr y cawsant eu derbyn. 

Dylai defnyddwyr sy'n chwilio am eitemau a gollwyd yn y Llyfrgell gysylltu â Gwasanaethau Gwybodaeth  gyda disgrifiad manwl o'r eitem yn ogystal â'r dyddiad y collwyd.

Gofynnir i unrhyw un sy'n hawlio eiddo i ddangos eu Cerdyn Aber neu Cerdyn Adnabod arall i gadarnhau hunaniaeth a gofynnir iddynt am wybodaeth manwl am yr eitem i brofi perchnogaeth. Os yw'r eitem sy'n cael ei hawlio yn cynnwys ID ffotograffig, bydd staff y Gwasanaethau Gwybodaeth yn gwirio bod y ddelwedd yn cydweddu yr hawlydd. 

Os na hawlir eiddo coll o fewn y cyfnod cadw, caiff ei ailgylchu neu ei waredu'n gyfrifol. Caiff yr holl ddata personol ei dynnu a'i ddinistrio'n ddiogel.