Mannau astudio yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol

Cyfleusterau ac Adnoddau sydd ar gael yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol 

  • Desgiau Cyfrifiadurol (4)

  • Mannau astudio ar y prif lawr (15 lle)

  • Mannau astudio ar y Mesanîn (13 lle)

  • Peiriant argraffu/sganio
  • Casgliadau o lyfrau a chyfnodolion

Mynediad 

  • Lleolir y Llyfrgell Gwyddorau ffisegol ar y 4ydd llawr o Adeilad y Gwyddorau Ffisegol ar gampws Penglais [Lleoliad].
  • Bydd angen i chi ddod â'ch Cerdyn Aber gyda chi i ddefnyddio'r mannau astudio.

 

Hygyrchedd

  • Mae ramp ar gael o'r brif fynedfa ar yr ochr dde o'r adeilad.
  • Mae'r cyfleusterau toiled hygyrch ar gael ar lawr gwaelod yr adeilad hwn.
  • Mae'r llyfrgell Gwyddorau Ffisegol ar y 4ydd llawr, ble gellir cael mynediad o'r lifft. Mae lifft ar gael o gyntedd y llyfrgell  i gael mynediad i brif gorff y llyfrgell.
  • Mae dolen sefydlu clyw ar gael wrth y ddesg ymholiadau.
  • Mae chwyddwydrauthrosluniau lliw ar gael i'w benthyg o'r ddesg  ymholiadau.
  • Gallwn drefnu i nôl deunyddiau darllen neu ddeunyddiau arall o fewn y llyfrgell yn barod i'w casglu neu astudio personol.
  • Cysylltwch â Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Swyddfa Diogelwch Iechyd a'r Amgylchedd,  i drefnu cynllun gwacau brys personol (PEEP) ar gyfer y llyfrgell berthnasol.

Os hoffech gael taith dywys o amgylch y cyfleusterau i drafod unrhyw ofynion penodol sydd gennych, cysylltwch â ni.