Rhestrau Darllen 2020-2021: cyngor i gydlynwyr modiwlau

Mae'r Llyfrgell yn mynd ati i wirio'r llyfrau Hanfodol ar restrau darllen Aspire ar gyfer modiwlau 2020-2021, i weld pa e-lyfrau sydd ar gael, er mwyn cael gwir ddarlun o'r effaith ar restrau ac adrannau unigol, ac i lywio'r cynllunio, y prynu a'r cydgysylltu. Ceir rhagor o wybodaeth am y weithdrefn a'r amserlen yn fuan.Materion sy'n effeithio ar ddarparu rhestrau o ddeunydd e-ddarllen yn unig

  • Wrth brynu llyfrau i'r llyfrgell, yn aml nid yw'n bosib prynu e-lyfrau gan nad ydyn nhw ar gael gyda thrwydded sefydliadol. Os yw teitl ar gael ar ffurf e-lyfr ar wefan cyhoeddwr, neu'n argraffiad Kindle ar Amazon, nid yw hynny'n golygu o angenrheidrwydd y gall y Llyfrgell ei brynu i fyfyrwyr a staff.
  • Nid yw nifer yr e-lyfrau sydd ar gael yn rhannu'n gyfartal ar draws y disgyblaethau a bydd llai o lawer i'w cael mewn rhai adrannau nac mewn eraill.
  • Gall gostio cannodd o bunnau i brynu e-lyfrau; naill ai oherwydd prisiau uchel am deitl, neu oherwydd mai dim ond i un defnyddiwr neu ychydig o ddefnyddwyr yn unig y mae e-lyfr yn addas ac felly mae'n rhaid i'r Llyfrgell brynu nifer o gopïau. Codir tâl am rai e-lyfrau yn ôl eu defnydd dros amser ac mae'n rhaid gwneud taliadau ychwanegol yn rheolaidd.
  • Mae'r Llyfrgell yn gallu digideiddio pennod / 10% o lyfr a'i roi ar-lein trwy'r drwydded CLA (Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint) Addysg Uwch, ond mae rhai cyhoeddwyr / gwledydd yn eu heithrio'u hunain o'r drwydded.
  • Yn 2019-2020, roedd yna 1,569 o fodiwlau a rhestr ddarllen o gyhoeddiadau ar Aspire yn cynnwys dros 50,000 o eitemau.

Yn y cyfamser gallwch

1. Greu rhestrau darllen Aspire ar gyfer modiwlau newydd 2020-2021

Os oes gennych fodiwl sy'n dod nôl o flwyddyn flaenorol (2018-19 a chyn hynny), mae staff y llyfrgell yn gwirio archif Aspire i weld hen restrau ac fe gysylltir â chi pan fydd y rhain wedi'u copïo i ddrafft.

2. Adnewyddwch eich rhestrau presennol ar gyfer modiwlau 2020-2021

  • Ychwanegwch eitemau newydd
  • Ychwanegwch argraffiadau newydd o lyfrau hanfodol
  • Symudwch unrhyw beth nad oes ei angen oddi ar y rhestr
  • Ystyriwch ychwanegu penodau i'w darllen fel sy'n briodol oherwydd gall y Llyfrgell yn aml ddigideiddio'r rhain o dan y drwydded CLA Addysg Uwch.
  • Ystyriwch ychwanegu cynnwys ar-lein arall fel sy'n briodol, megis erthyglau o gyfnodolion a ffynonellau wedi'u digideiddio megis llyfrau a chyfnodolion hanesyddol, a rhaglenni teledu a radio.
  • Yn achos eitemau hanfodol, gwnewch yn sicr bod eu pwysigrwydd wedi'i osod yn Aspire - wrth i'r Llyfrgell chwilio i weld a ydynt ar gael ar e-ffurf ni fydd yn ddigon i fod wedi eu hychwanegu at adran o'r enw Hanfodol, rhaid i chi osod eu pwysigrwydd yn Hanfodol.
  • Ailgyhoeddwch y rhestr er mwyn cadw'r newidiadau

Ar yr adeg hon, gallwch ychwanegu eitemau hyd yn oed os nad ydych yn gwybod eu bod ar gael ar-lein.

Ar hyn o bryd mae gan gyhoeddwyr lawer o adnoddau ar-lein dros dro, na fyddant efallai ar gael erbyn dechrau'r tymor.

3. A yw eich rhestr ddarllen yn adlewyrchu'r gofynion adnoddau ar gyfer y modiwl

Gwnewch yn sicr mai'r rhestr ddarllen yw'r canolbwynt ar gyfer adnoddau'r llyfrgell. Gallwch gynorthwyo'r Llyfrgell i fesur gofynion adnoddau yn gywir, ac i gynllunio yn unol â hynny, trwy ychwanegu'r holl ddeunydd darllen ac adnoddau eraill sydd eu hangen at restr ddarllen Aspire. Gallwch ychwanegu llyfrau, penodau, erthyglau cyfnodolion, deunydd clyweled, tudalennau gwe, a mwy.

Yn yr un modd, ystyriwch gwtogi rhestrau darllen sy'n hir iawn. 

Gallai fod yn fwy effeithiol i greu rhestrau byrrach, mwy penodol ynghyd â rhoi hyfforddiant sgiliau gwybodaeth fel y gall myfyrwyr ganfod deunydd ar-lein o'u rhan eu hunain yn hytrach na rhoi bwyd-llwy iddynt trwy ddarparu rhestrau maith. Yn 2019-2020, roedd mwy nag 87 o restrau Aspire yn cynnwys dros gant o eitemau.

4. Rhowch wybod i ni os bydd un o fodiwlau 2020-2021 yn cael ei symud i semester gwahanol

5. A yw eich llyfr chi ar gael ar ffurf e-lyfr?

Os ydych wedi ysgrifennu llyfr sydd ar restr ddarllen i fodiwl, ac y gwyddoch nad oes e-lyfr i'w gael y gall llyfrgelloedd ei brynu, cysylltwch â'ch cyhoeddwr i wneud cais am un.

Mae eich llyfrgellwyr pwnc wrth law i ateb eich ymholiadau ynglŷn â chwilio am adnoddau ar gyfer 2020-2021 ac i roi cyngor a chymorth gydag Aspire, trwy e-bost, dros y ffôn, a thrwy gyfrwng MS Teams. Cofiwch bod croeso i chi gysylltu â ni.

Mae'r erthygl fer hon o York St John yn rhoi darlun manylach o'r heriau sy'n wynebu llyfrgelloedd Addysg Uwch wrth geisio dod o hyd i e-lyfrau.