Newyddion Ymchwil

Profi ‘hwb’ imiwnedd brechlyn gwartheg - ymchwil newydd
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain ymchwil ar sut y gall brechlyn cyffredin hybu imiwnedd cyffredinol mewn da byw.
Darllen erthygl
Parasitolegwyr yn cydweithio i fynd i'r afael â chlefydau llyngyr dinistriol
Mae arbenigwr parasitoleg yn ymuno â rhwydwaith newydd ledled y DU i yrru ymchwil fyd-eang yn y frwydr yn erbyn clefydau parasitig mewn pobl ac anifeiliaid.
Darllen erthygl
Penodi academyddion o Aberystwyth i asesu rhagoriaeth ymchwil y DU
Cyhoeddwyd bod wyth academydd arall o Brifysgol Aberystwyth wedi’u penodi’n aelodau o is-baneli nodedig sy'n asesu rhagoriaeth ymchwil yn sector addysg uwch y DU gan ddod â'r cyfanswm i naw.
Darllen erthygl
Llifogydd sydyn yn yr Himalayas: mae newid hinsawdd yn eu gwaethygu, ond mae cynllunio gwael yn eu gwneud yn angheuol
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Manudeo Singh yn egluro sut mae llifogydd yn yr Himalaya yn naturiol, ond mae cynllunio gwael yn troi glaw yn drychineb. Gallai darllen y tir achub bywydau.
Darllen erthygl
Mapio microbau pyllau glo Cymru i helpu i gynhesu cartrefi
Mae gwyddonwyr o Gymru wedi mapio’r microbau cuddiedig sy’n ffynnu ym mhyllau glo segur de Cymru, gan helpu i oresgyn y rhwystrau i ddefnyddio dŵr y pyllau i gynhesu cartrefi Prydain.
Darllen erthygl
Offeryn AI yn awtomeiddio mesur ffrwythau planhigion er mwyn bridio cnydau gwell
Mae gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth yn datblygu offer deallusrwydd artiffisial newydd sy'n mesur hadau a phodiau hadau planhigion yn awtomatig er mwyn bridio mathau gwell o gnydau.
Darllen erthygl
Pysgod yn defnyddio mwy o egni i aros yn llonydd nag a feddyliwyd yn wreiddiol, yn ôl ymchwil
Mae ymchwil newydd wedi canfod bod pysgod sy'n aros yn llonydd mewn dŵr yn defnyddio llawer mwy o egni nag a feddyliwyd yn wreiddiol.
Darllen erthygl
Lansio arolwg troseddau gwledig Cymru i fesur cynnydd
Mae arolwg newydd ar droseddau fferm a chefn gwlad ar draws Cymru wedi’i lansio gan Brifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl
Cynyddu defnydd y Gymraeg yn y gweithle – ymchwil newydd
Mae angen dwysáu ymdrechion i gynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y gweithle, yn ôl adroddiad newydd.
Darllen erthygl
Anrhydeddu daearyddwr am ymchwil ac addysgu rhagorol
Mae daearyddwr o Aberystwyth, Dr Cerys Jones, wedi derbyn gwobr am ei chyfraniad rhagorol i ymchwil wyddonol ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Darllen erthygl
Daeth Perito Moreno yn seren rhewlif cyntaf y byd – ond nawr mae ar fin diflannu
Mewn erthygl yn The Conversation, mae'r Athro Neil Glasser yn trafod sut mae un o ychydig rewlifoedd sefydlog Patagonia bellach ar fin cwympo.
Darllen erthygl
Pacio odyn gydag AI er mwyn lleihau allyriadau
Mae arbenigwyr mathemateg yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i helpu’r diwydiant cerameg cywasgu mwy o wrthrychau mewn odyn er mwyn lleihau ei ôl troed carbon.
Darllen erthygl
Pobl nid rhewlifau a gludodd gerrig gleision o Gymru i Gôr y Cewri – ymchwil newydd
Cafodd cerrig gleision byd-enwog Côr y Cewri eu cludo o Sir Benfro i Wastadfaes Caersallog gan bobl ac nid rhewlifoedd fel yr honnwyd yn flaenorol, yn ôl ymchwil wyddonol newydd.
Darllen erthygl
AI a biotechnoleg yn gyrru'r chwyldro nesaf mewn datblygu cnydau gwydn - adroddiad newydd
A major review published in the prestigious journal Nature today outlines how artificial intelligence and biotechnology could transform global crop production — helping to build more resilient food systems in the face of climate change, pests and population growth.
Darllen erthygl
Helpu ffermwyr i fynd i'r afael â chlefyd parasitig difrifol mewn da byw
Mae angen canllawiau gwell ac offer ymarferol i helpu ffermwyr i fynd i'r afael mewn ffordd gynaliadwy â'r broblem fawr o heintiau llyngyr yr iau mewn da byw, yn ôl ymchwil newydd.
Darllen erthygl
Cynllun i greu ap ffôn symudol i ganfod clwyf tatws yn gynnar
Cyn hir mae’n bosib y bydd modd canfod clwyf tatws, un o’r clefydau cnydau mwyaf dinistriol yn y byd, trwy ddefnyddio ffonau symudol, diolch i ap newydd sy'n cael ei ddatblygu gan wyddonwyr o Gymru.
Darllen erthygl
Mae achosion o’r tafod glas yn peryglu da byw yn y DU – yr hyn sydd angen i chi ei wybod am y feirws
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Cate Williams yn trafod sut mae math newydd o feirws y tafod glas yn lledaenu gan beryglu da byw a rhoi pwysau newydd ar ffermwyr.
Darllen erthygl
Academydd yn helpu i olrhain pengwiniaid sy’n mynd ar goll wrth iddynt deithio adref
Mae prosiect adsefydlu pengwiniaid ym Mrasil yn olrhain siwrneiau pengwiniaid wrth iddynt deithio adref, gyda chymorth academydd o Brifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl
Cynhadledd ar fudo yn trafod newid hinsawdd a chreu ffiniau
Cafodd y tueddiad cynyddol o bobl yn ffoi rhag newid hinsawdd ei drafod mewn cynhadledd mudo a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl
Astudiaeth yn rhybuddio bod Deallusrwydd Artiffisial yn sbarduno cynnydd sylweddol mewn ymchwil iechyd amheus
Mae astudiaeth newydd yn awgrymu y gallai’r defnydd o adnoddau Deallusrwydd Artiffisial fod yn gyfrifol am gynnydd sylweddol mewn erthyglau ymchwil iechyd a allai fod yn gamarweiniol.
Darllen erthygl
Tynnu coes? Gwyddonwyr yn cwestiynu a ydyn ni’n etifeddu sgiliau dweud jôcs
Mae gwyddonwyr yn dechrau cwestiynu a yw pobl yn etifeddu’r gallu i ddweud jôc ddoniol, yn ôl ymchwil newydd.
Darllen erthygl
Trapiau fioled yn well ar gyfer rheoli pryfed sy'n cnoi - ymchwil
Mae trapiau lliw fioled yn well am reoli pryfed na’r rhai glas a du traddodiadol, yn ôl ymchwil newydd.
Darllen erthygl
Prifysgol a Bwrdd Iechyd yn cydweithio i hybu ymchwil ac arloesedd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Aberystwyth yn ymestyn eu partneriaeth i helpu i wella iechyd a lles cymunedau yng ngorllewin Cymru ar ôl llofnodi cytundeb newydd.
Darllen erthygl
Canolfan cywarch diwydiannol newydd i yrru arloesedd gwyrdd
Mae canolfan newydd sydd wedi’i sefydlu i ddatgloi potensial cywarch diwydiannol wedi'i lansio ar Gampws ArloesiAber Prifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl
A all Prydain fod yn genedl o dyfwyr te? Mae gwyddonwyr yn dweud y gall – ac y gallai hyd yn oed fod yn dda i’ch iechyd
Mewn erthygl yn The Conversation mae Dr Amanda Lloyd a'r Athro Nigel Holt yn awgrymu y gellir tyfu te yn y DU – ac y gallai fod yn dda i bobl a'r blaned.
Darllen erthygl
Gwobr o fri i fath ‘eithriadol’ o geirch a fridiwyd yn Aberystwyth
Mae’r math mwyaf poblogaidd o geirch yn y DG, a fridiwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi cipio un o wobrau uchaf ei bri y diwydiant.
Darllen erthygl
Mynd i'r afael â heriau mwyaf argyfyngus cymdeithas
Bydd academyddion yn ymchwilio i sut mae dinasyddion, sefydliadau cymdeithas sifil a llunwyr polisïau'n cydweithio i fynd i'r afael â rhai o broblemau mwyaf dybryd cymdeithas.
Darllen erthygl
Wynebau ceffylau yn adrodd cyfrolau - astudiaeth newydd yn mapio’u hiaith wyneb gyfoethog
Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod gan geffylau "iaith" wyneb llawer mwy soffistigedig a llawn mynegiant na’r hyn a ystyriwyd yn flaenorol.
Darllen erthygl
Gwyddonwyr i fynd i'r afael â bygythiad clwy tatws – ymchwil newydd
Bydd gwyddonwyr yn gweithio ar ffyrdd newydd o fynd i'r afael â chlefyd sy'n achosi colledion sylweddol i gnydau ledled y byd, gan gynnwys clwy tatws, diolch i grant ymchwil newydd.
Darllen erthygl
Ditectifs morol yn taflu goleuni ar fywydau cyfrinachol dolffiniaid Bae Ceredigion
Caiff rhai o ddirgelion bywydau tanddwr dolffiniaid trwynbwl Bae Ceredigion eu datgelu fel rhan o brosiect ymchwil arloesol.
Darllen erthygl
Gallai robotiaid helpu i fonitro dirywiad bioamrywiaeth – astudiaeth newydd
Gallai robotiaid helpu i olrhain dirywiad bioamrywiaeth ar draws eangdiroedd y byd, yn ôl astudiaeth newydd.
Darllen erthygl
Clefyd newydd yn bygwth coed derw - chwilio am wirfoddolwyr
Mae perchnogion a rheolwyr coetiroedd yn cael eu gwahodd i helpu i fonitro iechyd y rhywogaeth fwyaf eiconig o goed ym Mhrydain.
Darllen erthygl
Amser tyfu mwy o de cartref?
Gallai rhesi o blanhigion te ddod yn olygfa fwy cyfarwydd ar fryniau Cymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol yn y dyfodol.
Darllen erthygl
Canllaw i wirio pa mor dda rydych chi’n heneiddio
Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Marco Arkesteijn a Dr Alexander Taylor yn trafod nad yw sefyll ar un goes wrth frwsio eich dannedd yn archwiliad llawn o heneiddio, ac yn esbonio pam mae cyflymder cerdded, hyblygrwydd y meddwl a sgôr lles cyffredinol yn bwysicach.
Darllen erthygl
Gwyddonwyr o Aberystwyth yn helpu i fonitro beleod
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn helpu i fonitro llwyddiant yr ymdrechion i ailgyflwyno mamal prinnaf ond un Prydain.
Darllen erthygl
Gall ymchwil gwefus hollt leihau llawdriniaethau plant
Gallai ymchwil helpu plant sy'n cael eu geni â gwefus a thaflod hollt i osgoi llawdriniaethau pellach wrth iddyn nhw dyfu’n hŷn.
Darllen erthygl
eDNA yn datgelu gwybodaeth newydd am fywyd morol prin ar ynysoedd poblogedig mwyaf anghysbell y byd
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi cynnal yr asesiad DNA amgylcheddol (eDNA) cyntaf erioed o fertebratau morol yn Tristan da Cunha, grŵp o ynysoedd folcanig yn Ne Cefnfor yr Iwerydd.
Darllen erthygl
Myn gafr i: profi bod geifr yn glyfrach na defaid ac alpacaod
Mae'r fyfyrwraig PhD Megan Quail wedi ysgrifennu erthygl yn The Conversation am ganfyddiadau ymchwil sy'n dangos bod geifr yn perfformio'n well na defaid ac alpacaod mewn cyfres o brofion gwybyddol.
Darllen erthygl
Rhwydwaith ymchwil newydd yn anelu at leihau ôl troed carbon ffermio llaeth
Mae strategaethau arloesol i leihau lefelau uchel o allyriadau nwyon tŷ gwydr yn sylweddol yn y diwydiant llaeth yn cael eu treialu mewn prosiect ymchwil newydd.
Darllen erthygl
Ymchwil newydd yn nodi Dangosyddion Perfformiad Allweddol sy’n dylanwadu fwyaf ar broffidioldeb da byw
Mae'n ymchwilwyr wedi nodi set syml ond hynod effeithiol o fetrigau y gellid eu defnyddio i helpu i wella perfformiad ariannol ffermydd da byw.
Darllen erthygl
System arloesol o synwyryddion ‘gwrando’ i fonitro toddi ar len iâ’r Ynys Las
Mae gwyddonwyr yn datblygu system rhybudd cynnar i fonitro'n fanwl pa mor gyflym y mae llen iâ'r Ynys Las yn toddi a helpu i ddarogan pwyntiau tyngedfennol posibl yn yr hinsawdd.
Darllen erthygl
Gwyddonwyr i astudio pam fod rhewlif Everest yn cynhesu
Mae tîm o ymchwilwyr yn gwneud eu paratoadau olaf gogyfer â thaith i Everest yn Nepal y mis nesaf i ganfod pam fod yr iâ ar un o rewlifoedd mwyaf eiconig y mynydd mor agos at y pwynt toddi.
Darllen erthygl
Geifr yn glyfrach na defaid ac alpacaod – astudiaeth
Mae geifr yn gallu prosesu gwybodaeth a datrys profion cof yn well na defaid ac alpacaod, yn ôl ymchwil gan wyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl
Adnodd mapio peryglon i helpu i ddiogelu Nepal rhag trychinebau naturiol
Gallai adnodd ar-lein newydd helpu i ddiogelu cymunedau yn Nepal rhag peryglon naturiol fel daeargrynfeydd, llifogydd a thirlithriadau.
Darllen erthygl
Gwyddonwyr Aberystwyth yn rhan o rwydwaith ymchwil cardiofasgwlaidd newydd gwerth £3m
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r British Heart Foundation wedi cyhoeddi cytundeb sylweddol, gwerth £3m, i gefnogi ymchwil cardiofasgwlaidd yng Nghymru drwy gyllid ar gyfer y Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol.
Darllen erthygl
Sgriniau cyffwrdd i brofi a yw ceffylau yn dioddef o iselder a chwsg gwael
Mae academyddion yn ymchwilio i weld a yw newidiadau yn yr amodau byw yn gallu achosi iselder mewn ceffylau gan ddefnyddio sgriniau y mae’r anifeiliaid yn cyffwrdd â nhw â’u trwyn.
Darllen erthygl
Cofnodi hanes fideos cerddorol Cymraeg ar wefan newydd
Mae teledu wedi chwarae rhan bwysicach na labeli recordio masnachol yn natblygiad fideos cerddorol Cymraeg dros yr hanner can mlynedd diwethaf, medd ymchwilwyr.
Darllen erthygl
Lleisiau na chânt eu clywed: profiadau menywod hŷn o gam-drin domestig a thrais rhywiol - ymchwil
Mae angen gwneud mwy i gynorthwyo menywod hŷn sy'n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn ôl ein hymchwilwyr.
Darllen erthygl
Rydyn ni'n troi crystiau bara gwastraff yn fwyd maethlon gydag eplesiad Asiaidd hynafol
Mewn erthygl yn y Conversation , mae gwyddonwyr o Aberystwyth, Juan Felipe Sandoval Rueda a Dr David Bryant yn trafod eu hymchwil sy'n edrych ar droi crystiau bara yn fwydydd newydd maethlon, trwy ddefnyddio eplesu ffwngaidd.
Darllen erthygl
Ymchwil newydd yn edrych ar reolaeth ddiwylliannol a sensoriaeth yng Nghiwba
Dros 65 mlynedd ers cychwyn Chwyldro Ciwba, mae cymuned artistig y wlad yn dal i wynebu sensoriaeth a rheolaethau llym ar eu creadigrwydd diwylliannol, yn ôl llyfr academaidd newydd.
Darllen erthygl