Recordio Darlithoedd, Cyflwyniadau a Digwyddiadau

Mae modd i holl staff y Brifysgol bellach recordio eu darlithoedd a’u cyflwyniadau ac ati gan ddefnyddio meddalwedd newydd o’r enw AberCast; mae cymorth ar gael yma.

Mae AberCast yn eich galluogi i wneud recordiad clywedol o ddigwyddiad megis darlith ac mae’n dal unrhyw sleidiau PowerPoint, neu gyfrwng arall a ddangosir ar y sgrin (er enghraifft, gweddalennau). Mae’r recordiad terfynol yn cydamseru’r wybodaeth o’r sgrin a’r wybodaeth glywedol, gan alluogi i’r gwylwyr weld sleidiau’r cyflwyniad a chlywed y ddarlith ar yr un pryd. Mae hyn yn galluogi i’r myfyrwyr edrych ar adrannau o’r ddarlith fesul sleid neu chwilio am eiriau allweddol yn y sleidiau eu hunain. 

Mae AberCast wedi ei osod ar y cyfrifiaduron dysgu yn holl ystafelloedd dysgu’r amserlen ganolog. Mae gan bob un o’r ystafelloedd hyn feicroffônau i recordio’r sain ac, ar ben hynny, ceir adnoddau ar gyfer recordio fideo mewn nifer o ystafelloedd.

Mae CourseCast wedi’i osod ar yr holl gyfrifiaduron dysgu yn yr holl ystafelloedd dysgu ar yr amserlen ganolog. Gellir hefyd ei lawrlwytho a’i osod ar beiriannau unigol, gan alluogi i’r staff wneud recordiadau o’u swyddfeydd eu hunain, yn ogystal â recordio cyflwyniadau a darlithoedd a drefnir yn ffurfiol. Ceir gwybodaeth am osod y feddalwedd ar Wefan Cwestiynau Cyffredin y GG. Mae’r feddalwedd hefyd yn cynnwys offer golygu sylfaenol sy’n galluogi i’r staff olygu’r recordiadau.

Gellir cyflwyno’r recordiadau trwy Blackboard, a chaiff mynediad at y deunydd ei reoli trwy safleoedd modiwl Blackboard sy’n bodoli eisoes. (Sut ydw i'n gwneud hynny?) Neu, gellir rhannu recordiadau’n allanol trwy ddolenni ar wefannau ac ati.

Gall staff y Gwasanaethau Gwybodaeth roi cyngor a chymorth am amrywiaeth o agweddau sy’n ymwneud â CourseCast:

  • Gosod, ffurfweddu a defnyddio’r feddalwedd yn sylfaenol. Cewch hyd i lawer o’r wybodaeth hon ar Wefan Cwestiynau Cyffredin y GG. I gael rhagor o gymorth e-bostiwch gg@aber.ac.uk
  • Hyfforddiant a chyflwyniadau adrannol. Mae staff y Gwasanaethau Gwybodaeth yn barod iawn i roi cyflwyniadau sylfaenol i CourseCast i adrannau neu grwpiau bach. Cysylltwch â gg@aber.ac.uk i drafod eich gofynion.
  • Gwella dysgu ac addysgu trwy recordiadau clywedol a fideo. Gall y Tîm E-ddysgu roi cyngor am amrywiaeth eang o faterion sy’n ymwneud ag integreiddio recordiadau i ddysgu ac addysgu. I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch is-alto@aber.ac.uk
  • Rhoi gwybod am ddiffygion. Os ydych yn cael unrhyw broblemau â naill ai’r feddalwedd recordio neu â’r caledwedd sydd wedi’i osod yn yr ystafelloedd (microffonau ac ati), cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid

Yn ogystal ag ymdrin â’ch ymholiadau, rydym yn barod i ystyried unrhyw awgrymiadau neu adborth gan ddefnyddwyr CourseCast. Mae eich adborth yn ein helpu i wella’r gwasanaeth a gynigir gennym.

Efallai y codir tâl ar gyfer llogi eitem neu ar gyfer defnyddio gwasanaeth a bydd yn rhaid cael archeb adrannol am unrhyw wasanaethau y codir tâl amdanynt.